|  |

Yr
Eglwys Geltaidd yng Nghymru
Abaty Tyndyrn
Natur
yr eglwysi Celtaidd
Am bum can mlynedd ar ôl cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig yr oedd gan
Gristnogaeth Cymru ei nodweddion arbennig ei hunan. Y mae’r nodweddion
hyn yn gyffredin i’r gwledydd Celtaidd eraill, Iwerddon, Cernyw, Llydaw,
Ynys Manaw a’r rhan fwyaf o’r Alban. Y drefn yn Eglwys Rhufain oedd
esgobion mewn dinasoedd, pob un un â’i esgobaeth a’i swyddogion
ei hunan. Ond nid oedd gan yr Eglwysi Celtaidd fawr ddim canolfannau
trefol; yr oedd mwy o barch tuag yr abad yn ei fynachdy nag i’r esgob
yn ei gadeirlan, a phrin yw’r fiwrocratiaeth sydd i’w gweld yn y drefn
Rufeinig. Yn ôl yr hanesydd Arnold Toynbee, y traddodiad crefyddol
Celtaidd yw prif nodwedd yr hyn mae e’n ei alw’n Wareiddiad y Gorllewin
Pell Ewropeaidd.
A oedd yr eglwysi Celtaidd yn ‘Brotestannaidd’?
Pan fo’r Protestaniaid yn cefnu ar Eglwys Rufain yn yr 16fed ganrif,
maent yn edrych ar yr eglwysi Celtaidd fel enghreifftiau cynnar o
Brotestaniaeth, yn rhydd o feiau eglwys Rhufain. Ond nid yw’r farn
yna’n gywir. Y mae athrawiaethau canolog yr eglwysi Celtaidd, ar y
cyfan, yn Gatholig. Nid yw’r Pab yn amlwg, nid am fod y Celtiaid yn
teimlo eu bod ar wahân i’r Eglwys fyd eang, ond oherwydd pellter,
a’r ffaith nad yw’r syniad am sofraniaeth y babaeth wedi ei ddatblygu'n
llawn.
Tarddiad Cristnogaeth Geltaidd
Y
mae tarddiad Cristnogaeth Geltaidd wedi bod yn bwnc cryn ddadlau.
A yw’n ddatblygiad o’r Gristnogaeth a blannwyd ym Mhrydain yn nyddiau’r
Ymerodraeth Rufeinig, neu a oes rhaid edrych i gyfeiriadau eraill?
Y duedd bresennol yw credu bod Cristnogaeth Brydeinig yr ymerodraeth
yn goroesi yn ne-ddwyrain Cymru, yr unig ran o Britannia na chafodd
ei goresgyn gan bobl o’r tu hwnt i ffiniau’r ymerodraeth. Yma y mae
Dyfrig, y cyntaf o ‘saint’ yr Eglwys Geltaidd, yn byw. Yr oedd ei
bencadlys yn Henllan (Hentland on Wye heddiw yn Sir Henffordd.) Ni
ellir pennu dyddiadau pendant yn y cyfnod hwn, ond mae’n debyg bod
Dyfrig yn byw rhwng 425 a 505.
Y Mynachdy yn Llanilltud Fawr
Olynydd Dyfrig fel y ffigwr amlwg ymhlith Cristnogion Cymru yw Illtud,
sylfaenydd y mynachdy yn Llanilltud Fawr. Gellir cyrraedd Llanilltud
o’r môr, ac mae ei draddodiadau yn awgrymu dylanwad pobl oedd yn teithio’r
moroedd. Y maent yn cyflwyno mynachaeth, y syniad mai’r ffordd orau
i gyrraedd stad o sancteiddrwydd yw trwy ymwadu â’r byd a byw mewn
cymuned sydd yn gwneud gweddi yn ganolbwynt bywyd. Y mae’r mynachdy
yn Llanilltud yn pwysleisio dysg yn ogystal â defosiwn. Dyma ganolbwynt
Cristnogaeth y gwledydd Celtaidd. Y mae Samson, sefydlydd mynachaeth
yn Llydaw, yn gadael Llanilltud am Lydaw tua 540. Un o’i gyd-fyfyrwyr
yw Paul Aurelian, a chwaraeodd ran amlwg ym mynachaeth Cernyw, ac
at Illtud a’i olynwyr y mae’r Gwyddelod yn troi am arweiniad ar faterion
yn ymwneud â defod a disgyblaeth.
|
 |

|

© MM
|
|
|
|
|