BBC HomeExplore the BBC

SUL
27ain Mai 2012
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd - Creu Cenedl

BBC Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

Cenedl Newydd Caerfyrddin 1966
Neuadd Caerfyrddin wedi i Gwynfor Evans ennill yr etholiad

Y daith tuag at Gynulliad Cymreig:
hanner cyntaf yr 20fed ganrif
Agorwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mae Caerdydd wrth i’r 20fed ganrif ddod i ben. Ar lawer cyfrif mae’n ddigwyddiad annisgwyl oherwydd am y rhan helaethaf o’r ganrif ystyrid bod y rhai oedd yn credu y deuai’r fath sefydliad i fodolaeth yn freuddwydwyr anymarferol. Y Frenhines yn agor y Cynulliad CenedlaetholEr mae’n rhaid cydnabod bod y pwnc yn cael rhywfaint o sylw yn negawdau cynta’r ganrif, gan fod yna yn rhengoedd y Rhyddfrydwyr amryw sy’n frwd dros hunanlywodraeth, ac mae’r Blaid Lafur yn mabwysiadu’r polisi ‘Home Rule All Round’. Ond yn y 1920au mae diddordeb y Rhyddfrydwyr yn pylu wrth iddynt sylweddoli na fyddent yn rheoli Senedd Gymreig pe bai un yn dod i fodolaeth.

Yn wyneb y dirwasgiad mae’r Blaid Lafur yn dod i gredu mai cynllunio effeithiol o’r canol yw’r ateb i broblemau economaidd, ac maent yn dadlau y byddai datganoli yn tanseilio undod y dosbarth gweithiol ym Mhrydain. Nid yw datganoli mor bwysig ar ôl rhoi hunanlywodraeth lawn i Iwerddon yn 1922. Logo Plaid CymruPan sefydlwyd Plaid Genedlaethol Cymru yn 1925 mae llawer o gefnogwyr hunanlywodraeth, a fyddai o bosib wedi cael eu clywed o fewn y pleidiau traddodiadol, bellach o fewn plaid newydd a heb fawr o ddylanwad. Hefyd, nid yw daliadau traddodiadol yr arweinydd, Saunders Lewis, yn adlewyrchu barn mwyafrif y bobl. Ond mae’r blaid yn cael cyhoeddusrwydd a mesur o gefnogaeth o ganlyniad i ymosodiad ei harweinwyr ar yr Ysgol Fomio ym Mhenyberth yn Llyn yn 1936. Mae’r Ail Ryfel Byd fel y Cyntaf yn cryfhau’r ymwybyddiaeth o bobl Prydain yn cydymdrechu a chyd-ddioddef. Mae’r llywodraeth Lafur a etholwyd yn 1945 a’i bryd ar lywodraethu o’r canol, ac mae ei haelod mwyaf carismataidd, Aneurin Bevan, yn ddirmygus o ildio dim i genedlaetholdeb Cymreig.

Y daith tuag at Gynulliad Cymreig;
ail hanner yr 20fed ganrif.
Yn y 1950au mae’r farn yn newid. Daeth dyddiau’r Ymerodraeth i ben gan newid un o hanfodion Prydeindod; daeth pobl i weld bod Cymru ar ei hol hi’n economaidd o’i gymharu â de-ddwyrain Lloegr a rhai o wladwriaethau llai Ewrop; mae’r Ceidwadwyr yn ennill un etholiad ar ôl y llall gan awgrymu mai dim ond trwy hunanlywodraeth y byddai Cymru’n cael ei llywodraethu gan bobl yn adlewyrchu barn mwyafrif yr etholwyr Cymreig; boddwyd Cwm Tryweryn er nad oedd yr un aelod seneddol Cymreig wedi pleidleisio dros hynny, gan ddangos bod y Cymry yn wleidyddol ddi-rym. Dyma rai o’r ffactorau sy’n rhoi i Blaid Cymru bleidlais barchus yn etholiad cyffredinol 1959. Yn yr etholiad yna safodd y blaid mewn 55% o’r etholaethau o’i gymharu â 7% y Blaid Genedlaethol yn yr Alban. Yn rhannol, oherwydd bygythiad y cenedlaetholwyr, mae’r Blaid Lafur a etholwyd yn 1964 yn sefydlu’r Swyddfa Gymreig ac yn penodi ysgrifennydd gwladol dros Gymru.

Gwynfor Evans - Aelod Seneddol Plaid CymruDaeth moment fawr Plaid Cymru yn 1966 pan enillodd y llywydd, Gwynfor Evans, is-etholiad Caerfyrddin. Daeth rhagor o lwyddiant o 1974 ymlaen, ac erbyn 1992 mae Plaid Cymru yn cynrychioli pedair o’r deugain etholaeth yng Nghymru. Datblygiad arwyddocaol hefyd yw’r newid o fewn y Blaid Lafur. Mae Prydain yn ymuno â’r Farchnad Gyffredin Ewropeaidd yn 1972, sy’n golygu edrych o’r newydd ar natur llywodraeth ar bob lefel. Mae llwyddiant sustem ddatganoledig yr Almaen a llwyddiant economaidd Iwerddon yn dangos nad oes rhaid wrth wladwriaeth boblog i sicrhau sefydlogrwydd a ffyniant. Mae’r holl gyfoeth a’r grym sydd yn Llundain yn dechrau cael sylw yn Lloegr yn ogystal â Chymru a’r Alban. Y mae’r ystyriaethau hyn, ynghyd â’r angen i atal cynnydd y pleidiau cenedlaethol yng Nghymru a’r Alban yn gorfodi Llywodraeth Lafur 1974-79 i roi cryn sylw i ddatganoli. Ond mae’r cynulliad sy’n cael ei gynnig yn refferendwm 1979 yn cael ei wrthod o 956,330 o bleidleisiau i 243,048.

Refferendwm 1979Yn y blynyddoedd yn union wedi’r refferendwm mae datganoli, ar yr wyneb, yn bwnc marw. Ond yna mae polisïau adain dde y blynyddoedd Thatcheraidd yn atgoffa pobl Cymru eu bod yn gorfod byw â syniadau gwleidyddol sy’n annerbyniol iddynt. Mae rhoi swydd yr ysgrifennydd gwladol i bobl o’r tu allan i Gymru – John Redwood yn fwyaf arbennig – yn cadw’r ddadl yn fyw. Ac mae’r pwerau newydd sy’n cael eu rhoi i’r Swyddfa Gymreig yn gwneud i bobl ddechrau meddwl o ddifrif y gall Cymru gael ei llywodraeth ei hunan. Mae llywodraeth Lafur a etholwyd yn 1997 – ac yn yr etholiad ni chafodd yr un Ceidwadwr ei ethol yng Nghymru – yn cynnig ail refferendwm yn 1997. Pleidleisiodd 559,419 dros Gynulliad i Gymru a 552,698 yn erbyn. Yn etholiad y Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 i ddewis trigain o aelodau, yn rhannol o dan y drefn cynrychiolaeth gyfrannol, enillodd y Blaid Lafur 28 o seddau, Plaid Cymru 17, y Ceidwadwyr 9 a’r Democratiaid Rhyddfrydol 6.
Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:

Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid
  2. Twf y Wladwriaeth Gymraeg
  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd

  20. Cenedl Newydd
    Tud 1, Tud 2,
BBC
© MM
   


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy