BBC HomeExplore the BBC

IAU
24ain Rhagfyr 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
BBC Cymru'r Byd - Creu Cenedl

BBC Homepage
»Hanes
Cofio Cymru
Cymru ar yr Awyr
Taith yr Iaith
Canrif o Brifwyl

BBC Cymru'r Byd
Chwaraeon
Newyddion
Y Tywydd
Pobol y Cwm
Adolygiadau
C2
Llais Llên
Tramor
Gemau
E-gardiau
Radio Cymru
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

Twf y Wladwriaeth Gymreig Y Brenin Arthur
Brenin Arthur

Beth ddigwyddodd ar ôl cwymp yr
Ymerodraeth Rufeinig?

Ym Mhrydain y mae rhai o elfennau y drefn Rufeinig yn goroesi’r cwymp. Y mae’r Prydeinwyr Rhufeinig yn y dinasoedd a’r prif drefi rhanbarthol yn ceisio cynnal y strwythurau gwleidyddol a etifeddwyd gan Rufain. Y maent yn llwyddo i ryw raddau. Rhwng 420 a 450 y mae’n debygol mai Gwrtheyrn (Vortigen) oedd yn rheoli’r rhan fwyaf o’r cyn dalaith Rufeinig. Y mae traddodiad yn awgrymu ei fod wedi defnyddio’r hen ddull Rhufeinig o droi un ymosodwr estron yn erbyn y llall. Felly y mae’n trefnu i rai o’r Gododdin (Votodani - y bobl o Aber Gweryd, a siaradai’r Frythoneg) i ymsefydlu yng ngogledd-orllewin Cymru i wrthsefyll ymosodiadau’r Gwyddelod. Y mae’n caniatáu i’r Sacsoniaid i ymsefydlu yn gyfnewid am eu cymorth i wrthsefyll y Pictiaid. Y mae'n bosibl bod llawer o Sacsoniaid yn byw ym Mhrydain cyn cwymp yr ymerodraeth. Erbyn tua 490 y maent yn creu eu teyrnas eu hunain yng Nghaint, Sussex, Wessex ac East Anglia.

Arthur a’r gwrthsafiad Prydeinig
Y Garreg ArthuraiddArwr mawr y frwydr rhwng y Prydeinwyr a’r Sacsoniaid yw Arthur. Mae’n bosib ei fod yn llinach y traddodiad Rhufeinig, oherwydd yr oedd gan y Rhufeiniaid swyddog, y Dux Britanniarum (Dug Prydain), arweinydd y llu symudol oedd a’r gwaith o warchod cywirdeb y dalaith Rufeinig. Y mae’r ffaith bod cynifer o lefydd ar draws Prydain yn coffáu Arthur yn awgrymu ei fod wedi dal y fath swydd. Enillodd ei frwydr fwyaf tua 496 ym Mons Badonicus, lle, efallai yn Sussex neu ger Caerfaddon. Mae ei fuddugoliaeth yn dal y Sacsoniaid yn ôl am o leiaf hanner can mlynedd.

Ymddangosiad Lloegr
Erbyn 550 mae’r Sacsoniaid ar gerdded eto. Ymhen canrif fe fyddai’r rhan fwyaf o’r hyn fyddai’n cael ei alw’n Lloegr dan reolaeth y Sacsoniaid. Ar un adeg tybiai haneswyr bod eu llwyddiant yn golygu bod y Prydeinwyr neu’r Cymry un ai wedi cael eu lladd neu wedi cael eu gyrru tua’r gorllewin. Castell TintagelNid dyna’r gred bellach. Y mae trwch y boblogaeth yn aros lle maen nhw ac yn mabwysiadu iaith ac arferion y goresgynwyr. Y mae’r iaith yn aros mewn enwau lleoedd. Y mae gan lawer o afonydd yn Lloegr enwau Brythoneg: e.e. Avon - Afon. Y mae teyrnasoedd Sacsonaidd neu Seisnig yn cael eu creu. Y cryfaf erbyn 700 yw Northumbria, Caint, Wessex a Mercia.

Teyrnasoedd Cymru
Y mae gwreiddiau teyrnasoedd cynnar Cymru yn hyn na’r rhai yn Lloegr. Gwent, mae’n debyg yw’r cynharaf, a’i wreiddiau yng Nghaerwent, o dan ddylanwad y Silwriaid. Y mae’r arweinwyr yng Ngwynedd yn olrhain eu cyndeidiau yn ôl i Cunedda, arweinydd tybiedig y Gododdin. Yn ne-orllewin Cymru, y mae Dyfed, gwlad y Demetiaid, yn dod o dan reolaeth y Gwyddelod. Felly hefyd teyrnas Brycheiniog.

Ymlaen - tudalen nesaf

Penawdau:


Tudalen cartref
Cyfnodau hanesyddol
  1. Cymru a'r Rhufeiniaid

  2. Twf y Wladwriaeth Gymreig
    Tud 1, Tud 2, Tud 3,

  3. Yr Eglwys Geltaidd yng Nghymru
  4. Dyfodiad y Normaniaid
  5. Tywysogaeth Cymru
  6. Diwedd annibyniaeth Cymru
  7. Cymdeithas a diwylliant Cymru yn yr Oesoedd Canol
  8. Gwrthryfel Owain Glyndwr
  9. Dyfodiad y Tuduriaid a'r Ddeddf Uno
  10. Y Diwygiad Protestannaidd
  11. Cymdeithas a Gwleidyddiaeth Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  12. Diwylliant a Chrefydd Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar
  13. Y Chwyldro Diwydiannol
  14. Capel ac Eglwys
  15. Twf Democratiaeth
  16. Twf Ymwybyddiaeth Genedlaethol
  17. Twf y Blaid Lafur
  18. Y Rhyfel a'r Dirwasgiad
  19. Cymdeithas Newydd
  20. Cenedl Newydd
BBC
© MM
   


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy