|  |

Y
Rhyfel a'r Dirwasgiad

Milwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Y Rhyfel Byd Cyntaf
Bu farw tua deugain mil o Gymry yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Dim ond un
agwedd yw’r marwolaethau o’r helbulon sy’n rhan o brofiad y Cymry
fel mae’n rhan o brofiad gweddill trigolion Ewrop. Un o brif ganlyniadau’r
rhyfel yw’r effaith ar yr economi. Cyrhaeddodd y galw am lo ei benllanw
yn 1913. Ond nid oes modd cynnal y galw hyn, ac mae’r rhyfel a’r ffyniant
rhyfeddol ddaeth wedi’r rhyfel yn golygu nad oes adolygiad rhesymegol
o lefelau cynhyrchu. Nid yw’r economi’n gwneud cystal yn 1921, rhagflas
o’r dirwasgiad fyddai’n blino’r blynyddoedd canlynol. Oherwydd y rhyfel
mae pobl yn cefnu ar y Blaid Ryddfrydol, ac yn chwalu’r optimistiaeth
oedd yn nodweddu bywyd yng Nghymru cyn y rhyfel. Mae cenedligrwydd
Cymreig, oedd mor gadarn ar droad y ganrif, yn troi’n rhywbeth sy’n
rhaid ei amddiffyn a’i warchod. Mae’n cael effaith ddifrifol ar gefn
gwlad, ac yn ergyd farwol i ystâdau’r tirfeddianwyr. Mae crefydd gyfundrefnol,
oedd yn nodwedd amlwg o fywyd oes Victoria ac Edward yng Nghymru,
yn dechrau dirywio’n gyflym, yn rhannol am fod ymgyrchoedd recriwtio
clerigwyr wedi arwain at sinigiaeth.
Helyntion diwydiannol
Gan
fod gobeithion pobl yn uchel, diolch yn rhannol i’r chwyldro Comiwnyddol
yn Rwsia a’r disgwyliad y byddai aberth y miloedd yn y rhyfel yn creu
cymdeithas decach, mae’r blynyddoedd yn syth wedi’r rhyfel yn rhai
o anniddigrwydd. Mae Cymdeithas Sosialaidd De Cymru yn rhan o Blaid
Gomiwnyddol Prydain Fawr, ac i Lenin mae Ffederasiwn Glowyr De Cymru
ar flaen y gad yn y chwyldro ym Mhrydain. Yn 1919 mae’n ymddangos
bod y Llywodraeth ar drugaredd y glowyr sy’n galw am wladoli’r diwydiant,
ond mae Lloyd George yn llwyddo yn ddeheuig iawn i sicrhau parhad
yr hen drefn. Er y streic chwerw yn 1921 mae llawer o’r hyn a enillodd
y dosbarth gweithiol yn ystod y rhyfel yn cael ei golli. Yn 1926 mae
Cyngres yr Undebau Llafur yn trefnu streic gyffredinol i geisio gorfodi’r
llywodraeth i ildio’r i’r glowyr, ond corff cymedrol yw’r Cyngres
heb stumog mewn gwirionedd ar gyfer gweithred mor chwyldroadol. Mae’r
streic a brwydr hir y glowyr yn dod i ben, gan arwain at dranc y gred
mewn syndicaliaeth, er mae’r Comiwnyddion, sydd â dylanwad o hyd mewn
rhannau o’r maes glo, yn dal i gredu y gall gweithredu diwydiannol
arwain at newid.
Diweithdra’n cynyddu
Mae’r arwyddion i’w gweld yng nghanol y 1920au - mae diweithdra ymhlith
y glowyr yn codi o 2% yn Ebrill 1924 i 12.5% yn Ionawr 1925 a 28.5
ym mis Awst. Maes glo de Cymru, sy’n dibynnu mwy ar allforio na’r
meysydd glo eraill ym Mhrydain, sy’n dioddef fwyaf. Bu cwymp yn y
galw am lo o dramor am fod y gwledydd hynny’n cynhyrchu mwy eu hunain,
roedd mwy yn troi at olew, gwerth y bunt, yr Unol Daleithiau yn cipio
marchnadoedd de America, dulliau cynhyrchu hen ffasiwn y diwydiant
ym Mhrydain, a cholli’r farchnad Ewropeaidd wrth i’r Almaenwyr dalu
iawndal mewn glo.
Fe wnaed problem diweithdra yn y maes glo yn y 1920au yn waeth gan
gwymp Wall Street yn 1929. Erbyn 1932, a diweithdra wedi cyrraedd
42.8% ymhlith gwrywod, mae Cymru yn un o wledydd mwyaf dirwasgedig
y byd. Er mai’r glowyr ddioddefodd waetha, roedd diweithdra’n ddrwg
ymhlith y gweithwyr dur ac alcam, y chwarelwyr a gweithwyr cludiant.
Mae’n galed ar fyd amaeth hefyd, ac roedd llawer oedd â gwaith llawn
amser ar y tir yn ennill llai na’r rhai oedd yn derbyn budd-dal diweithdra.
|
 |

|

© MM
|
|
|
|
|