|  |

Y
Diwygiad Protestannaidd

Beibl 1588 William Morgan
Teyrnasiad Edward VI
Y bachgen frenin, Protestant penboeth, sy’n teyrnasu rhwng 1547 a
1553. Y mae Catholigiaeth yn cael ei wrthod yn bendant wrth i’w gynghorwyr
roi’r gwasanaeth cymun yn lle’r offeren. Caniateir i offeiriaid briodi.
Cyhoeddwyd Y Llyfr Gweddi Gyffredin yn 1549, a ffurf mwy Protestannaidd
yn 1553. Yn 1551 mae sgolor o Sir Ddinbych yn cyhoeddi cyfieithiad
Cymraeg o lithiau’r Llyfr Gweddi.
Teyrnasiad Mari I
Merch Catherine o Aragon sy’n teyrnasu rhwng 1553 a 1558. A hithau’n
Babyddes frwd mae’n adfer awdurdod y Pab ac yn ceisio dadwneud newidiadau
ei dau ragflaenydd. Y mae tri chant o hereticiaid yn cael eu llosgi,
gan gynnwys White yng Nghaerdydd, Nichol yn Hwlffordd a Ferrar, esgob
Ty Ddewi, yng Nghaerfyrddin. Y mae’r Cymry ceidwadol fwy na thebyg
yn cefnogi Mari. Pe bai wedi byw yn hwy efallai y byddai Cymru wedi
bod yn gadarnle’r Eglwys Gatholig Rufeinig.
Sefydliad Elisabeth
Rhwng 1558 a 1603, merch Anne Boleyn, Elisabeth sy’n teyrnasu. Ei
nod yw adfer Catholigiaeth ddi-Bab ei thad, ond mae hi’n gorfod cydweithio
â gwyr o argyhoeddiad Protestannaidd cryf. Addaswyd Llyfr Gweddi 1553
a’i dderbyn yn 1559, ac amlinellir y Brotestaniaeth newydd yn y Deugain
Erthygl Namyn Un. Y mae’r Cymry’n derbyn y newidiadau, yn rhannol
oherwydd lledaenu’r syniad mai Protestaniaeth oedd Cristnogaeth Cymru’n
wreiddiol, ac mai arferion Rhufain oedd wedi llygru purdeb y grefydd
honno.
Mae’r
chwedl yn cael ei chadarnhau yn rhagymadrodd Richard Davies, esgob
Ty Ddewi, i’r cyfieithiad Cymraeg o’r Testament Newydd, gwaith William
Salesbury yn bennaf. Ymddangosodd y cyfieithiad mewn ymateb i orchymyn
seneddol 1563 y dylai Beibl Cymraeg fod ar gael ym mhob plwyf yng
Nghymru. Y mae’n orchymyn eironig, oherwydd mae’n golygu bod y senedd
yn awdurdodi’r defnydd o’r Gymraeg mewn materion ysbrydol o fewn cenhedlaeth
i wahardd defnyddio’r iaith mewn materion secwlar. Ond yn Oes Elisabeth
mae’r awdurdodau o’r farn bod unffurfiaeth crefyddol yn bwysicach
nag unffurfiaeth ieithyddol.
Cyhoeddwyd y Beibl cyfan yn Gymraeg yn 1588, gwaith rheithor o Sir
Ddinbych, William Morgan. Y mae cyfieithiad gorchestol Morgan yn golygu
bod yna Feibl yn yr unig iaith yn yr Ewrop Brotestannaidd nad yw’n
iaith gwladwriaeth a hynny o fewn canrif i’r Diwygiad Protestannaidd
- bydd hynny’n allweddol i dynged yr iaith yn y dyfodol.
Gwrthwynebiad i sefydliad Elisabeth
Y mae rhai sy’n byw yng Nghymru’n parhau’n deyrngar i Gatholigiaeth.
Pan goronwyd Elisabeth ffodd tua phymtheg o offeiriaid Cymreig i gyfandir
Ewrop i gynllwynio i adennill eu gwlad i Rufain. Y mae rhai Cymry’n
cefnogi cynllwynion i ddisodli Elisabeth a choroni ei chyfnither Gatholig,
Mari, brenhines yr Alban yn ei lle. Eto, er y cynllwynio a’r oll gafodd
eu merthyru, derbyn y drefn newydd wnaeth mwyafrif pobl Cymru, a chysylltu
eu hunain â’r eglwys wladol, yn wahanol iawn i’r Gwyddelod.
Yn Iwerddon mae’r llywodraeth yn methu rhwystro’r urddau Catholig
rhag ymgyrchu. Nid yw’r Brotestaniaeth newydd yn ennill llawer o dir,
er mae’r Puritan, John Penri o Sir Frycheiniog, yn cael ei grogi yn
1593, merthyr cyntaf Anghydffurfiaeth Gymreig.
|
 |

|

© MM
|
|
|
|
|