Oes y Tywysogion

Castell Dolwyddelan

gan Catrin Stevens

Erbyn tua 1086, roedd y Normaniaid wedi concro Lloegr yn llwyr, ond cymerodd hi sawl canrif iddyn nhw goncro Cymru gyfan. Yn ystod y cyfnod hwn, yn Oes y Tywysogion (1063-1283), roedd gan y Cymry nifer o arweinwyr grymus a phwysig.

Yr Arglwydd Rhys (c.1134-1197)

Ŵyr Brenin olaf Deheubarth, Rhys ap Tewdwr (m. 1093), oedd Rhys ap Gruffudd. Bu farw'i rieni yn 1136-7 - ei fam, Gwenllïan, wrth arwain byddin y Cymry yn erbyn arglwydd Normanaidd Cydweli, Maurice de Londres. Erbyn c.1155 roedd ei frodyr wedi marw hefyd, gan adael Rhys i ailadeiladu tywysogaeth Deheubarth ar ei ben ei hun. Sefydlodd ei brif lys yng nghastell Dinefwr yn nyffryn Tywi.

Roedd ei lwyddiant yn her i awdurdod Harri II, Brenin Lloegr, ac ymosododd ar Ddeheubarth bedair gwaith i geisio cadw trefn ar Rhys. Yn 1165, ymunodd byddinoedd Gwynedd, Powys a Deheubarth i wrthsefyll byddin Harri II. Ond ni fu brwydr, oherwydd i'r tywydd difrifol ar Fynyddoedd y Berwyn yn y gogledd-ddwyrain, yrru Harri a'i fyddin yn ôl i Loegr, heb ymladd o gwbl.

Erbyn hyn, roedd Harri eisiau canolbwyntio'i sylw ar Iwerddon, nid Cymru. Felly, penderfynodd y brenin ar bolisi o gydweithio â Rhys. Yn 1172, cafodd Rhys ei apwyntio yn Brif Ustus de Cymru, ac yna arweiniodd Rhys ei gyd-dywysogion i dalu gwrogaeth i Frenin Lloegr.

Adfeilion Castell Aberteifi heddiw

Roedd Rhys ar binacl ei yrfa pan ddathlodd gwblhau ailadeiladu castell Aberteifi mewn carreg yn 1176 gyda gŵyl Nadolig fawreddog - 'eisteddfod' gyntaf hanes Cymru. Roedd yr Arglwydd Rhys yn dywysog talentog, yn wleidydd craff, yn noddwr sensitif i'r celfyddydau ac yn rhyfelwr dewr.

Ond yn ystod ei flynyddoedd olaf bu ei feibion uchelgeisiol yn gwrthryfela yn ei erbyn, ac ar ôl iddo farw, cafodd tywysogaeth Deheubarth ei darnio ganddyn nhw.

Llywelyn ap Iorwerth (c.1173-1240)

Ŵyr y Tywysog Owain Gwynedd oedd Llywelyn ap Iorwerth, ac erbyn tua 1201 ef oedd prif reolwr Gwynedd. Enillodd gefnogaeth Brenin Lloegr, John, trwy briodi ei ferch anghyfreithlon, Siwan, tua 1205. Ond pan feddiannodd Llywelyn Bowys yn 1208, dirywiodd y berthynas rhyngddo fe a'r brenin, ac ymosododd John ar Wynedd yn 1211 ac 1212.

Bu'n rhaid i Llywelyn ffoi i Eryri a dibynnu ar Siwan i gymodi rhyngddo fe a'i thad.

Beddrod garreg
Beddrod Siwan ym Mhriordy Llanfaes

Yn ystod y blynyddoedd dilynol, collodd John gefnogaeth y Pab a'i farwniaid ei hun, a ffraeodd gyda Brenin Ffrainc. Yn sgil hyn, cafodd ei orfodi i lofnodi'r Magna Carta, siarter hawliau enwog, yn 1215.

Manteisiodd Llywelyn ar hyn. Ailfeddiannodd ei diroedd ac adfer ei statws yng Ngwynedd a thu hwnt. Mewn 'senedd' yn Aberdyfi yn 1216, galwodd Llywelyn dywysogion Cymru ynghyd i dalu gwrogaeth iddo. Yn 1218, yng Nghytundeb Caerwrangon, bu'n rhaid i frenin newydd Lloegr, Harri II, gydnabod mai Llywelyn I oedd prif dywysog Cymru.

Yn ystod y blynyddoedd dilynol, ceisiodd Llywelyn wneud ei deyrnas yn sefydlog. Mabwysiadodd y teitl mawreddog 'Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri' a phriododd ei ferched i deuluoedd pwerus yng Nghymru a'r Mers. Sefydlodd wasanaeth sifil i wasanaethu'i dywysogaeth; adeiladodd gestyll, e.e. Castell y Bere ym Meirionnydd, a hyrwyddodd economi ariannol Gwynedd.

Ond taflodd perthynas Siwan â Gwilym Brewys, un o arglwyddi'r Mers, gwmwl ar y blynyddoedd hyn. Pan ddarganfu Llywelyn y twyll, cafodd Gwilym ei grogi fel lleidr cyffredin. Yna, mewn 'senedd' yn Ystrad Fflur yn 1238, ceisiodd Llywelyn sicrhau y byddai'i dywysogaeth yn parhau, trwy fynnu mai Dafydd, mab Siwan, fyddai'n etifeddu ei deyrnas.

Enillodd iddo'i hun y teitl 'Llywelyn Fawr', ac ysbrydolodd yrfa'i ŵyr, Llywelyn ap Gruffudd.

Llywelyn ap Gruffudd (c.1230-1282)

Cerflun marmor o Lywelyn ap Gruffydd
Cerflun o Lywelyn yn Neuadd y Ddinas,
Caerdydd

Tad Llywelyn II oedd Gruffudd, mab anghyfreithlon Llywelyn Fawr. Roedd ei ewyrth, Dafydd, wedi marw heb etifedd, ac yn 1255, ym Mrwydr Bryn Derwyn, gorchfygodd Llywelyn ei ddau frawd, Owain a Dafydd, a dod yn dywysog Gwynedd. Ond, fel ei daid, roedd ei fryd ef ar uno Cymru gyfan dan awdurdod Gwynedd.

Pan wrthryfelodd barwniaid Lloegr yn erbyn y brenin Harri III yn 1263, manteisiodd Llywelyn ar ei gyfle a chipiodd dir a chestyll ledled Cymru. Yn 1267, bu'n rhaid i Harri dderbyn telerau Cytundeb Trefaldwyn a chydnabod tywysogaeth Llywelyn a'r teitl 'Tywysog Cymru'. Bellach, roedd Llywelyn yn dywysog ffiwdal ar ei gyd-dywysogion, ac roedd yn rhaid iddyn nhw dalu gwrogaeth iddo. Erbyn 1271-2, roedd yn rheoli dwy ran o dair o dir a phobl Cymru.

Ond roedd sawl gwendid pwysig yng Nghytundeb Trefaldwyn:

  • Roedd yn rhaid i Llywelyn wasgu ar bobl Gwynedd er mwyn talu'r dreth uchel o 25,000 marc i'r brenin.
  • Roedd Arglwyddi'r Mers yn wrthwynebus iawn - cododd Gilbert de Clare gastell Caerffili i amddiffyn ei arglwyddiaeth rhag uchelgais Llywelyn.
  • Doedd y tywysogion Cymreig eraill ddim yn barod i ildio'u statws i Wynedd.
  • Roedd ei frawd ieuengaf, Dafydd, yn uchelgeisiol iawn, ac yn 1274 cynllwyniodd gyda thywysog Powys i fradychu Llywelyn.
  • Erbyn 1272 roedd gan Loegr frenin cryf iawn - Edward I.

Rhwng popeth, aeth pethau ar chwâl i Llywelyn rhwng 1272 ac 1277, a phan wrthododd Llywelyn fynychu seremoni goroni Edward a thalu gwrogaeth iddo (oherwydd y perygl real i'w fywyd), ymosododd Edward arno, ei orchfygu a'i orfodi i dderbyn telerau diraddiol Cytundeb Aberconwy yn 1277.

Dafydd gychwynnodd y gwrthryfel olaf yn 1282, ond mewn sgarmes yng Nghilmeri, ger Llanfair-ym-Muallt, ar 11 Rhagfyr 1282, lladdwyd Llywelyn ap Gruffudd, a daeth annibyniaeth Oes y Tywysogion i ben.

Dyma Llywelyn ein Llyw Olaf, a gyfrannodd yn helaeth at yr ymwybyddiaeth genedlaethol Gymreig.


About this page

This is a history page for schools about the age of the Welsh princes. This period came to an end when Llywelyn Ein Llyw Olaf ('the last prince of Wales') was killed in 1282 during a Welsh revolt against Edward I. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Logo eClips

Adnoddau Hanes

Clipiau fideo a sain o archif y BBC am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.