Cymru a'r Tuduriaid

Portread o Harri VII www.istock.com

gan Catrin Stevens

Gorfoleddodd y Cymry pan enillodd Harri Tudur frwydr Maes Bosworth yn 1485 a chael ei goroni yn Harri VII, brenin Lloegr a Chymru. Wedi'r cyfan, roedd e o waed Cymreig, trwy ei daid, Owain Tudur o Benmynydd, Môn.

Yn sgil hyn, trodd llawer o Gymry'u golygon tua llys y Tuduriaid yn Llundain. I 'ddod ymlaen yn y byd' bydden nhw'n Seisnigo'u henwau, gan droi enwau Cymraeg fel Ieuan ap Dafydd a Huw ap Hywel yn John Davies a Hugh Powell.

Y Deddfau Uno

Ar ei wely angau, mae sôn fod Harri Tudur wedi gorchymyn i'w fab, Harri VIII, ofalu am Gymru, ac yn wir, yn ystod ei deyrnasiad (1509-47), cafwyd newidiadau pellgyrhaeddol yng Nghymru. Roedd llawer o anhrefn yn y wlad ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg, fel y mae hanesion cyffrous Gwylliaid Cochion Mawddwy yn eu dangos, ac roedd hynny'n bygwth diogelwch y deyrnas. Roedd Harri VIII angen trefn er mwyn gallu gwthio chwyldro crefyddol y Diwygiad Protestannaidd ar ei bobl.

From henceforth no person or persons that use the Welsh speech or language shall have or enjoy any office or fees.... unless he or they use and excercis the speech or language of English

Deddf Uno 1536

Dyna pam y cafodd y Deddfau Uno rhwng Cymru a Lloegr eu pasio gan senedd Lloegr yn 1536 ac 1543. Roedd Harri eisiau unffurfiaeth, undod a gweinyddiaeth effeithiol.

Roedd y Deddfau'n rhoi hawl i'r Cymry fwynhau'r un breintiau â'r Saeson 'as a Member and joint of the same'. Roedd y Deddfau yn:

  • rhannu Cymru yn 13 o siroedd;
  • rhoi 27 o aelodau seneddol i Gymru;
  • dileu'r hen gyfreithiau Cymreig a rhoi cyfreithiau Seisnig yn eu lle;
  • sefydlu cyfundrefn o lysoedd - y Sesiwn Fawr a'r Llysoedd Chwarter i hyrwyddo cyfraith a threfn;
  • gwneud Saesneg yn unig iaith swyddogol Cymru. Roedd yn rhaid i bob llys barn gynnal ei holl weithgareddau yn Saesneg, ac roedd yn rhaid i swyddogion y llysoedd hynny fod yn rhugl yn yr iaith. O hynny ymlaen, iaith eilradd, answyddogol fyddai'r Gymraeg yn ei gwlad ei hun.

Cymdeithas yn oes y Tuduriaid

Dosbarth y bonedd oedd arweinwyr cymdeithas yng Nghymru yn y cyfnod hwn. Roedden nhw'n falch iawn o'u hachau hynafol ac o'u stadau mawrion.

Adfeilion abaty Margam. Llun: Grahame Perry

Pan gafodd y mynachlogydd eu cau gan weision Thomas Cromwell yn 1536-9, llwyddodd llawer o'r bonedd i ddwyn eu tiroedd. Ehangodd teulu Mansel, er enghraifft, ei stad o diroedd abaty Margam ym Morgannwg.

Yn y cyfnod hwn, roedd y bonedd yn cau tiroedd comin hefyd, ac yn llwyddo i gydio maes wrth faes o'r tir wast, y comin a'r coedwigoedd.

Daeth rhai eraill yn gyfoethog trwy briodi etifeddesau cefnog. Priododd Catrin o Ferain, Llanefydd, bedair gwaith: gyda Siôn Salsbri o Leweni; Richard Clough o Ddinbych, Morys Wynn o Wedir ac Edward Thelwall o Blas-y-ward, pob un ohonyn nhw'n uchelwyr dylanwadol, cefnog. Gan fod ganddi gymaint o ddisgynyddion a chysylltiadau cafodd ei galw yn 'Fam Cymru'.

Byddai'r bonedd yn anfon eu meibion i brifysgolion Lloegr i'w haddysgu, ac yn raddol dechreuon nhw droi'u cefnau ar yr hen draddodiad barddol yng Nghymru.

Ailgread o farchnad Smithfield, Llundain
Aed â gwartheg a defaid i'w gwerthu ym
marchnadoedd Llundain

Magu gwartheg a defaid oedd prif gynhaliaeth Cymru yng nghyfnod y Tuduriaid. Byddai porthmyn yn gyrru miloedd o wartheg i farchnadoedd Llundain, ac yn dychwelyd â symiau mawr o arian parod i'r ffermwyr. Roedd preiddiau mawr o ddefaid yn cael eu cadw, yn bennaf er mwyn eu gwlân, ac roedd y diwydiant tecstilau yn llewyrchus.

O dan ddosbarth y bonedd roedd ffermwyr bychain yn crafu byw. Bydden nhw'n tyfu'u bwyd eu hunain, ac yn gwerthu'r ychydig oedd dros ben i dalu'r rhent, y degwm a threthi lleol. Ac oddi tanyn nhw, roedd y dosbarth gweithiol yn byw'n gynnil ar fara, uwd, bara ceirch, caws a chwningod wedi'u potsian. Roedd prinder, heintiau a marwolaethau yn realiti bob dydd iddyn nhw.

Ar waelod yr ysgol gymdeithasol, roedd y tlodion a'r crwydriaid. Yn ystod oes y Tuduriaid, roedden nhw'n gwahaniaethu rhwng y tlawd oedd yn haeddu help - y rhai sâl a methedig, a'r rhai roedden nhw'n meddwl oedd yn ddiog a ddim yn haeddu help. Câi'r rhain eu cosbi trwy eu chwipio'n gyhoeddus a'u gyrru'n ôl i'r plwyfi lle roedden nhw wedi cael eu geni.

Ond, er bod bywyd yn arw a chaled, roedd y werin yn dal i fwynhau arferion traddodiadol fel dawnsio o gwmpas y fedwen Fai, chwarae bando a chnapan, a sbort creulon fel ymladd ceiliogod a baetio teirw.


About this page

This is a history page for schools about Wales during the reign of the Tudor kings. The Act of Union between Wales and England was passed during this time and Wales was run by rich gentry living on large estates. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Logo eClips

Adnoddau Hanes

Clipiau fideo a sain o archif y BBC am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.