Cymru yn Oes y Stiwartiaid

Gwartheg yn pori

gan Catrin Stevens

Rhwng 1603 ac 1702 bu brenhinoedd o deulu Stiwart o'r Alban yn teyrnasu dros Brydain, ac eithrio yn ystod cyfnodau'r Rhyfeloedd Cartref (1642-9) a'r Werinlywodraeth (1649-60).

Roedd Cymru'n wlad wledig yn y cyfnod hwn. Roedd amodau byw yng nghefn gwlad ac yn y trefi marchnad bychain yn wael iawn, gyda thomennydd sbwriel a charthion yn gyffredin. Cyfartaledd oedran marwolaeth oedd 35 mlwydd oed, ac roedd cyfraddau marwolaeth ymysg babanod yn uchel iawn, e.e. bu farw pob un ond un o naw plentyn Syr Richard Bulkeley (m.1621).

Câi hen wragedd truenus eu cyhuddo o fod yn wrachod a'u rhoi ar brawf trwy eu trochi mewn stôl drochi, fel y Gadair Goch yn Nolgellau. Ond chafodd gwrachod mo'u hela'n greulon yng Nghymru, fel yng ngwledydd eraill Ewrop. Dim ond pum gwrach a gafodd eu crogi, yr olaf ohonyn nhw, Marged ferch Rhisiart, ym Miwmares, yn 1658.

Ceisiodd yr Hen Ficer Prichard o Lanymddyfri, rybuddio'r Cymry rhag pechodau'r oes trwy ysgrifennu cerddi syml, poblogaidd. Cafodd casgliad ohonyn nhw eu cyhoeddi yn Canwyll y Cymru yn 1681.

Gwaith

Fel y daw ei llynges â thrysor i Sbaen, felly y daw'r porthmyn â'r ychydig aur ac arian sydd gennym ni

Archesgob John Williams

Roedd cyflwr y ffyrdd yn dal yn erchyll yn y cyfnod hwn. Yn wir, câi sir Frycheiniog ei galw yn 'Breakneckshire'. Eto, llwyddai'r porthmyn i yrru gyrroedd o wartheg a defaid i'w gwerthu yn Llundain. Pan oedd y Rhyfel Cartref yn rhwystro teithiau'r porthmyn yn 1645, eglurodd yr Archesgob John Williams pam eu bod mor bwysig i economi Cymru, 'Fel y daw ei llynges â thrysor i Sbaen, felly y daw'r porthmyn â'r ychydig aur ac arian sydd gennym ni'.

Gweithiai 80% o'r bobl ar y tir. Ond roedd diwydiannau yn datblygu hefyd, gyda gwaith plwm Syr Roger Mostyn yn sir y Fflint, plwm ac arian yng Ngheredigion a glo ym Mhenfro. Agorodd Syr Humphrey Mackworth lofeydd yng Nghwm Nedd, ac erbyn yr 1730au, trwy ddefnyddio'r glo i fwyndoddi plwm ac arian a oedd wedi'u mewnforio, daeth ardal Abertawe-Castell-nedd yn ganolfan fetelegol fwyaf y byd.

Dylanwad y môr

Dyma oes aur y môr-ladron Cymreig. Yn eu plith roedd Hywel Davies o sir Benfro a Tomos Prys o Blas Iolyn, uchelwr a bardd a groniclodd ei helyntion mewn cerddi dychanol.

Darlun o Syr Harri Morgan
Y môr-leidr enwog, Syr Harri Morgan

Ond y ddau enwocaf oedd Syr Harri Morgan o sir Fynwy a Bartholomew Roberts, neu Barti Ddu, o Gasnewydd- bach. Bu Harri Morgan yn uchel-swyddog i'r Goron ac yn fôr-leidr yn ei dro. Dinistriodd lynges o Sbaen ger Maracaibo yn 1669 a chipio Panama ac ysbail gwerth £30,000 yn 1670.

Er bod Barti Ddu yn fôr-leidr o fri ac iddo gael ei ladd mewn brwydr ger arfordir Affrica, mae'n debyg mai te oedd ei hoff ddiod ac nad oedd e'n caniatáu i'w griw weithio ar y Sul!

Crefydd

Roedd crefydd yn bwnc llosg iawn yng nghyfnod y Stiwartiaid. Câi Pabyddion eu herlid yn ddidrugaredd oherwydd bod y llywodraeth yn ofni eu bod yn cynllwynio yn erbyn y brenin. Yn 1679, cafodd David Lewis o'r Fenni, Phillip Evans o Fynwy a John Lloyd o Frycheiniog eu merthyru am geisio ennill y Cymry'n ôl i Eglwys Rufain. Yn 1970, dyrchafodd y Pab y tri merthyr yma yn seintiau Catholig.

Ar y pegwn arall, roedd nifer yn feirniadol o Eglwys Loegr am fod gormod o seremonïau ganddi. Trodd y rhain yn anghydffurfwyr. Ymunodd rhai â'r Annibynwyr a rhai eraill â'r Bedyddwyr, dan arweiniad John Miles. Sefydlodd e eglwys i'r Bedyddwyr yn Llanilltud Gŵyr yn 1649.

Darlun o gyfarfod y Crynwyr
Ffodd y Crynwyr rhag erledigaeth ddifrifol. Llun:Llyfrgell Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion

Yn ystod cyfnod y Werinlywodraeth (1649-60), trwy'r Ddeddf er Taenu'r Efengyl yng Nghymru, bu Piwritaniaid fel Vavascor Powell a Walter Craddock yn cyflogi dynion duwiol i bregethu'r efengyl ar draws y wlad, ond heb lawer o lwyddiant. Trodd y Piwritan, Morgan Llwyd, at y Crynwyr, ac mae'i glasur, Llyfr y Tri Aderyn (1653), yn annog y Cymry i baratoi ar gyfer ailddyfodiad Crist i'r ddaear.

Ar ôl adfer y frenhiniaeth yn Chwyldro Gogoneddus 1660, cafodd y sectau hyn eu herlid yn ddifrifol. Bu'r Crynwr, Charles Lloyd o Ddolobran, Powys, ac eraill yn y carchar am flynyddoedd am arddel eu ffydd.

Yn y pen draw, penderfynodd llawer o'r Crynwyr chwilio am ryddid crefyddol yn nhrefedigaeth newydd William Penn yn Pennsylvania, America. Roedd 40 o Gymry ar y fordaith gyntaf yn 1682. Bu Thomas Lloyd o Ddolobran yn ddirprwy i Penn ei hun yn y drefedigaeth newydd. Y bwriad oedd sefydlu trefedigaeth Gymreig annibynnol yn Pennsylvania, ond chafodd y freuddwyd honno mo'i gwireddu.


About this page

This is a history page for schools about Wales during the reign of the Stewarts. Wales was a rural country, living conditions were bad and life expectancy short. Religious groups such as the Quakers were persecuted because of their beliefs. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Logo eClips

Adnoddau Hanes

Clipiau fideo a sain o archif y BBC am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.