Gwrthryfel y Siartwyr

Murlun o wrthryfel y Siartwyr yng Nghasnewydd

gan Catrin Stevens

Ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr uchelwyr oedd yn rheoli Prydain. Yn raddol, dechreuodd y dosbarth canol herio'r sefyllfa hon, ac wrth i'r dosbarth gweithiol ddatblygu, dechreuon nhw alw am gael rhannu grym gwleidyddol hefyd.

Ond, hyd yn oed wedi pasio Deddf Diwygio'r Senedd yn 1832, dim ond 7% o'r boblogaeth oedd â'r hawl i bleidleisio.

Dyma pam y cafodd grwpiau radical eu ffurfio i ymgyrchu dros Siarter y Bobl.

Chwe phwynt Siarter y Bobl:

  • Pleidlais i bob dyn dros 21 oed
  • Pleidlais ddirgel
  • Etholiadau blynyddol
  • Cyflogau i Aelodau Seneddol
  • Nifer cyfartal o bleidleiswyr ym mhob etholaeth
  • Dim rhaid perchen tir i fod yn Aelod Seneddol

Dulliau'r Siartwyr

Roedd llawer o'r arweinwyr yn credu y bydden nhw'n ennill trwy ymgyrchu yn heddychol. Cafodd Confensiwn Cenedlaethol ei alw yn Llundain yn 1839 ac aeth Hugh Williams, Caerfyrddin, Charles Jones y Trallwng a John Frost, Casnewydd, yno i gynrychioli'r Cymry. Casglodd y Siartwyr filoedd o enwau ar ddeiseb Siarter y Bobl. Cafodd y Siarter ei chyflwyno i'r Senedd yn 1839 ond cafodd ei gwrthod yn llwyr.

Felly, trodd rhai Siartwyr at rym corfforol.

Siartiaeth Canolbarth Cymru

Canol tref Llanidloes
Bu'r Siartwyr yn rheoli Llanidloes am dridiau

Dyma ganolfan y diwydiant gwlân, lle'r oedd amodau gwaith mewn trefi fel Llanidloes, y Drenewydd a'r Trallwng wedi dirywio yn yr 1830au. Tyfodd cefnogaeth i syniadau'r Siartwyr, ac erbyn 1839, roedd nifer o'r gweithwyr yn hyfforddi fel milwyr i geisio newid y drefn trwy rym.

Roedd ynad lleol, blaenllaw, Thomas Marsh, yn ofnus, a phenderfynodd weithredu yn eu herbyn. Gofynnodd i'r Ysgrifennydd Cartref am filwyr i'w helpu, ond dim ond tri phlismon gyrhaeddodd o Lundain. Roedden nhw'n aros yn y Trewythen Arms yn Llanidloes. Cafodd tri o arweinwyr y Siartwyr eu dal a'u carcharu yn y dafarn.

Cythruddodd hyn y bobl leol, ymosododd tyrfa ar y dafarn ac am rai dyddiau y Siartwyr oedd yn rheoli'r dref. Ond yna, cyrhaeddodd y milwyr, a chafodd 30 o'r ymgyrchwyr eu harestio. Cafodd rhai eu halltudio, a charcharwyd Thomas Powell, y prif arweinydd lleol, am flwyddyn.

Mae rhai haneswyr yn credu mai anghydfod ynglŷn â dirwasgiad y diwydiant gwlân ac yn erbyn grym yr heddlu oedd hwn yn bennaf, yn hytrach na 'gwrthryfel' Siartaidd.

Siartiaeth yn y de-ddwyrain

Erbyn gwanwyn 1839, roedd tua 25,000 o weithwyr haearn, glowyr a chrefftwyr y de-ddwyrain wedi ymuno â'r Siartwyr. Bydden nhw'n cwrdd yn y dirgel i wneud arfau a thrafod sut i fynnu'u hawliau. Roedden nhw'n cyhoeddi'u papur newydd eu hunain - Udgorn Cymru.

Murlun y Siartwyr yng Nghasnewydd
Gorymdeithiodd 7,500 o brotestwyr i Gasnewydd

Yr arweinwyr lleol oedd John Frost, Zephaniah Williams, tafarnwr o'r Blaina a William Jones, oriadurwr o Bont-y-pŵl. Penderfynon nhw arwain gorymdeithiau o tua 7,500 o Siartwyr, yn dair colofn, i lawr o'r cymoedd i Gasnewydd, ar Dachwedd 3, 1839. Roedden nhw'n dweud eu bod yn gorymdeithio dros eu rhyddid eu hunain a rhyddid eu plant.

Ond aeth pethau o chwith. Roedd hi'n noson stormus iawn a chollodd y gorymdeithwyr gysylltiad â'i gilydd. Rhoddodd hynny gyfle i'r awdurdodau yng Nghasnewydd gasglu milwyr ynghyd i Westy'r Westgate a pharatoi i amddiffyn y dref. Pan gyrhaeddodd y gweithwyr o flaen y gwesty, yn wlyb ac yn anhrefnus, trodd yn ysgarmes waedlyd. Taniodd y milwyr ar y dorf - cafodd 22 o'r Siartwyr eu lladd a llawer eu hanafu.

Yn ystod y misoedd dilynol, cafodd tua 250 o'r Siartwyr eu dal a'u cosbi. Cafwyd y tri arweinydd yn euog o deyrnfradwriaeth, ac yn y pen draw cawsant eu halltudio i Tasmania.

Yn 1856, dychwelodd Frost i Brydain. Erbyn hyn, roedd e'n arwr ac mae sgwâr canol dinas Casnewydd wedi'i enwi er cof amdano. Ymsefydlodd Williams yn Tasmania, gan arloesi yn y diwydiant glo yno. Bu Jones farw'n ddyn tlawd mewn alltudiaeth.

Arwyddocâd y Siartwyr:

Cerflun o'r Siartwyr ynghanol Casnewydd
Mae cofeb i'r Siartwyr ynghanol Casnewydd

Mae'n anodd dirnad, bellach, beth oedd gwir gymhellion gorymdeithwyr Casnewydd. Mae lle i gredu eu bod yn rhan o wrthryfel llawer ehangach i herio'r Senedd i dderbyn eu gofynion, ond i'r trefniadau fynd o chwith. Cafodd deisebau eraill eu cyflwyno i'r Senedd yn 1842 ac 1848 ond yn aflwyddiannus.

Eto, o fewn canrif, roedd holl ofynion ond un (etholiadau blynyddol), Siarter y Bobl wedi cael eu derbyn fel cyfraith gwlad ym Mhrydain.

Siartiaeth oedd y mudiad gwleidyddol, dosbarth gweithiol, cyntaf yn hanes Cymru. Ymgyrch yn erbyn anghyfiawnder oedd e. Mae rhai haneswyr yn dweud mai dyma wrthryfel mwyaf difrifol Prydain yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.


About this page

This is a history page for schools about the Chartists in Wales. Chartism was a movement to change the rules of Parliament and give voting rights to the working classes. Twenty two Chartists were killed in a rebellion in Newport in 1839. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Logo eClips

Adnoddau Hanes

Clipiau fideo a sain o archif y BBC am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.