Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf

top
Cofeb i filwyr y Rhyfel Byd Cyntaf yn Llanbed

gan Catrin Stevens

Ar Awst 4, 1914 ymunodd Prydain â Ffrainc, Rwsia a Serbia mewn rhyfel yn erbyn yr Almaen ac Awstria. Roedd pawb yn credu y byddai'r ymladd drosodd erbyn y Nadolig. Ond ddaeth y brwydro ddim i ben tan Dachwedd 11, 1918. Erbyn hynny, roedd dros 8 miliwn wedi'u lladd, tua 35,000 ohonyn nhw'n Gymry.

Y Milwyr

Denodd propaganda gweinidogion anghydffurfiol, fel John Williams, Brynsiencyn, ac eraill, filoedd i wirfoddoli i ymladd. Cafodd y Cymry'n arbennig eu swyno gan berswâd 'y dewin Cymreig', David Lloyd George. Bu'n Weinidog dros Arfau, yn Ysgrifennydd Gwladol ac yn bennaf, yn Brif Weinidog Prydain o 1916 ymlaen.

David Lloyd George
Lloyd George oedd y Gweinidog dros Arfau ar ddechrau'r rhyfel

Roedd rhai bechgyn ifainc yn credu y byddai ymuno fel gwyliau neu antur ddiddorol, ac roedd y tâl cyson yn denu eraill. Ymunodd rhai â chatrodau Cymreig fel y South Wales Borderers, ond dioddefodd eraill gael eu gwawdio fel 'Taffs' mewn catrodau Seisnig.

Adeg Nadolig 1914 cafwyd digwyddiad annisgwyl a theimladwy ynghanol hagrwch rhyfel. Trefnwyd cadoediad dros dro dros y Nadolig ar hyd y Ffrynt Gorllewinol. Trwy gydol yr wythnos at Nadolig, dechreuodd grwpiau o filwyr Almaenig a Phrydeinig rannu cyfarchion y tymor a chaneuon rhwng eu ffosydd. Ar adegau, roedd unigolion yn croesi'r ffin i siarad gyda milwyr o'r ochr arall gan roi anrhegion i'w gilydd. Mentrodd sawl un i 'no man's land' lle roeddent yn rhannu bwyd ac anrhegion a chanu carolau. Fe wnaethant hefyd uno gyda'i gilydd i gladdu nifer o'u cyfoedion. Cafwyd ambell i gêm o bêl-droed hwylus yn oygstal. Ond rhywbeth dros-dro oedd y cadoediad Nadolig yn anffodus.

Erbyn 1916, roedd yn rhaid gorfodi dynion i ymuno â'r fyddin. Os bydden nhw'n gwrthod ymuno, roedd yn rhaid mynd o flaen tribiwnlys. Câi 80% ohonyn nhw eu hesgusodi. Byddai rhai'n gwrthod am eu bod yn wrthwynebwyr cydwybodol, a chafodd llawer o'r rhain eu carcharu a'u cosbi'n greulon. Byddai merched yn rhannu pluen wen i godi cywilydd ar ddynion oedd ddim wedi ymrestru. Weithiau, âi straen yr ymladd yn drech na milwr a byddai'n ffoi o faes y gad. Cafodd 13 o Gymry eu saethu gyda'r wawr gan eu cyd-filwyr am encilio o'r brwydro fel hyn.

Maes y gad

Cafodd y rhyfel ei alw yn rhyfel byd am fod brwydro ar draws y byd a bod byddinoedd o sawl gwlad yn cymryd rhan ynddo. Bu Cymry'n ymladd ar sawl ffrynt ond yn bennaf ar y Ffrynt Gorllewinol yn Ffrainc a Fflandrys. Yno, cafodd ffosydd eu cloddio o Fôr y Gogledd i'r Swistir.

Milwyr ambiwlans o Awstralia mewn ffos. O gasgliad State Library of Queensland
Milwyr o Awstralia yn y ffosydd

Roedd amodau yn y ffosydd yn ddifrifol, rhwng mwd, llygod mawr, chwain, llau, y weiren bigog greulon a'r cyrff marw, ac roedd y milwyr yn dioddef effeithiau traed yn pydru, nwy yn ffrwydro a'u tagu, ac ofn a blinder llethol.

Un o'r prif frwydrau oedd Brwydr y Somme (Gorffennaf - Tachwedd 1916), lle cafodd 20,000 eu lladd ar y diwrnod cyntaf. Rhan o'r frwydr hon oedd brwydr Coedwig Mametz, Gorffennaf 7-12, pan aeth 38ain yr Adran Gymreig 'dros y top', a wynebu gynnau peiriant yr Almaenwyr, i geisio cipio'r goedwig. Ceir cofeb ar ffurf draig goch yno heddiw i gofio'u haberth.

Bu'r Corfflu Cymreig yn brwydro yn 3edd Brwydr Yprés, neu Passchendale. Yno y cafodd y bardd, Ellis Humphrey Evans, o Drawsfynydd, ei ladd ar Orffennaf 31, 1917.

Tra yn y ffosydd, roedd Evans, neu Hedd Wyn, wedi cystadlu am y gadair, ar y thema 'Arwr', yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw.

Hedd Wyn
Daeth y bardd Hedd Wyn yn un o 'eiconau'y Rhyfel Mawr yng Nghymru

Yn ystod seremoni'r cadeirio, cyhoeddwyd bod y bardd buddugol wedi syrthio ar faes y gad, a chafodd y gadair ei gorchuddio â lliain du. Heddiw, mae ei fedd yn un o filoedd beddau unffurf y Rhyfel Byd Cyntaf, yng Ngwlad Belg a Ffrainc.

Y Ffrynt Cartref

Roedd galw mawr am lo de Cymru ar gyfer y llynges yn ystod y rhyfel. Ond erbyn 1915, roedd y glowyr yn teimlo eu bod yn cael eu hecsbloetio, ac ym mis Gorffennaf aethon nhw ar streic. O ganlyniad, penderfynodd y wladwriaeth wladoli a rheoli'r diwydiant glo tan ddiwedd y rhyfel.

Cyfrannodd menywod Cymru lawer at yr ymdrech ryfel: yn nyrsys, yn llenwi swyddi'r milwyr, yn y Fyddin Dir, ac yn y ffatrïoedd arfau ym Mhenybont-ar-Ogwr, er enghraifft - gwaith peryglus, lle byddai'r swlphwr yn troi'u crwyn yn felyn, fel 'caneris'. Eto, cafodd y merched fwy o ryddid, a chyflogau uwch na chynt.

Nyrsus o'r Rhyfel Byd Cyntaf - llun o Amgueddfa Mynwy
Nyrsus yn ystod y rhyfel

Roedd sawl gwersyll i garcharorion rhyfel yng Nghymru. Yn eu plith roedd Fron-goch, ger y Bala, ond yno y carcharwyd gwrthryfelwyr Byddin Rhyddid Iwerddon am gyfnod.

Effeithiau'r Rhyfel Mawr ar Gymru

Roedd yr arweinwyr yn credu mai dyma'r rhyfel fyddai'n rhoi terfyn ar bob rhyfel. Cafodd effaith fawr ar Gymru:

  • Cafodd cenhedlaeth gyfan o ddynion ifanc eu colli - mae cofebion, fel yr un uchod yn Llanbedr-Pont-Steffan, i gofio amdanyn nhw ymhob pentref a thref.
  • Roedd y wladwriaeth wedi ymyrryd yn uniongyrchol mewn sawl maes: amaethyddiaeth, y diwydiant glo, iechyd ... a byddai hyn yn datblygu yn ystod yr ugeinfed ganrif.
  • Yn wleidyddol, daeth y Blaid Lafur newydd yn fwy a mwy poblogaidd - yn enwedig yng Nghymru.
  • Yn bennaf, oherwydd i'r telerau heddwch beichus yng Nghytundeb Versaille, 1919, gosbi'r Almaenwyr mor llym, arweiniodd hyn at Ail Ryfel Byd yn 1939.

About this page

This is a history page for schools about World War I and Wales. Thousands of young Welshmen fought in the war against Germany and Austria, and most towns and villages have a war memorial to the soldiers that lost their lives. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Logo eClips

Adnoddau Hanes

Clipiau fideo a sain o archif y BBC am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.