Y Bleidlais i Fenywod

Blwch pleidleisio

gan Catrin Stevens

Ganrif yn ôl, doedd dim hawl gan fenywod i bleidleisio mewn etholiadau seneddol na sefyll fel aelodau seneddol ym Mhrydain. Ond roedd dwy o wledydd yr Ymerodraeth Brydeinig, Seland Newydd (1893) ac Awstralia (1902), eisoes wedi rhoi'r bleidlais i fenywod.

Yn raddol, yn sgil ehangu'r bleidlais i ddynion yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dechreuodd yr ymgyrch dros hawliau menywod ym Mhrydain. Menywod dosbarth canol, addysgedig, Seisnig oedd yn arwain y ffordd. Yn Lloegr y cafodd y cymdeithasau blaengar eu sefydlu a changhennau ohonyn nhw fu'n ymgyrchu yng Nghymru.

Llun o grŵp dirwest o Amgueddfa Conwy
Roedd y mudiad dirwest yn boblogaidd gyda merched Cymru

Er bod gan y Cymry fudiadau bywiog i fenywod, yn cael eu harwain gan gymeriadau cryf a phenderfynol, fel Cranogwen a Ceridwen Peris, yn y cyfnod hwn, roedden nhw'n gweithio yn bennaf dros ddirwest, yn hytrach na thros sicrhau hawliau gwleidyddol i fenywod.

Y camau cyntaf

Cafodd canghennau cyntaf y National Union of Women's Suffrage Societies (NUWSS) eu sefydlu yng Nghymru yn Llandudno a Chaerdydd, yn 1907.

Erbyn 1912-13, cangen Caerdydd oedd y fwyaf ym Mhrydain, ac eithrio cangen Llundain. Tactegau'r NUWSS oedd deisebu, gorymdeithio a llythyru'n heddychlon, drefnus i newid y drefn. Dyma'r mudiad mwyaf poblogaidd o bell ffordd yng Nghymru. Sefydlwyd 28 cangen ar draws y wlad. Dyma'r swffragwyr.

Ond roedd menywod eraill yn credu bod angen iddyn nhw fod yn llawer mwy ymosodol a radical, ac felly, cafodd y Women's Social and Political Union (WSPU), ei sefydlu gan Emily Pankhurst yn 1903. Amcan y WSPU oedd sicrhau cyhoeddusrwydd i'r achos, trwy ddulliau treisgar os oedd rhaid. Ei slogan oedd 'Gweithredoedd nid Geiriau'. Dyma'r swffragetiaid.

Swffragwyr a Swffragetiaid a Chymru

San Steffan
Bu Tŷ'r Cyffredin yn darged i'r swffragetiaid

Roedd yr holl ymgyrchwyr hyn yn meddwl y byddai'r Blaid Ryddfrydol yn eu cefnogi, yn enwedig wedi iddi gael llwyddiant ysgubol yn etholiad 1906.

Ond nid felly y bu. Ac felly, dechreuodd ymgyrch ddwys yn erbyn gwleidyddion y blaid. Aeth y menywod ati i weiddi ar draws y Prif Weinidog, Asquith, wrth iddo fe annerch Eisteddfod Genedlaethol Llundain, yn 1908. Ymatebodd yr Archdderwydd, Dyfed, yn fygythiol, 'Os beiddiant i ddod eto fyddai hi ddim yn rhyfedd petai rhai ohonynt yn colli'u bywydau!'

Un o'r gwleidyddion Rhyddfrydol mwyaf amlwg oedd y Cymro, David Lloyd George, a chafodd e'i dargedu yn benodol. Gosododd Catherine Griffiths, merch i löwr, duntacs ar ei sedd yn Nhŷ'r Cyffredin. Daeth criwiau o swffragetiaid i weiddi ar draws ei areithiau yng Nghaernarfon, yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ac yn ei bentref genedigol, Llanystumdwy, yn 1912. Adweithiodd dilynwyr Lloyd George yn chwyrn. Yn Llanystumdwy, ymosododd y dyrfa ar y menywod, gan dynnu'u dillad uchaf a'u gwalltiau, a bygwth eu taflu i afon Dwyfor!

Margaret Haig Thomas
Carcharwyd Iarlles Rhondda o'r WSPU

Ymhlith arweinwyr y WSPU roedd Rachel Barrett o Gaerfyrddin. Bu hi'n drefnydd yng Nghymru am gyfnod a chafodd ei charcharu yn 1913. Aeth ar streic newyn a dioddefodd anfri'r Ddeddf Cath a Llygoden, lle câi menywod ar streic eu hanfon adre nes eu bod yn gwella, ac yna'u hail-garcharu.

Arweinydd arall oedd y ryfeddol Margaret Haig Thomas (Mackworth) - Iarlles Rhondda, a gafodd ei charcharu am roi blwch post ar dân yng Nghasnewydd. Yn Llundain, sefydlodd Margaret Mansell-Moullin gangen o'r WSPU, y Cymric Suffrage Society, a'i holynydd y Forward Cymric Suffrage Movement yn 1911-13, i ddenu merched o Gymru. Bydden nhw'n gwisgo bathodynnau'r ddraig goch a'u harwyddair oedd 'O Iesu n'ad gamwaith'.

Eto, ar y cyfan, prin fu cefnogaeth y Cymry i'r ymgyrchu hyn. Ymunodd rhai â'r gymdeithas yn erbyn rhoi'r bleidlais i fenywod. Roedd cangen Casnewydd yn argraffu pamffledi yn Gymraeg.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

Pan dorrodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914, penderfynodd y swffragetiaid roi heibio'u hymgyrchu, dros dro, a chanolbwyntio ar gefnogi'r ymgyrch ryfel. Llafuriodd menywod mewn swyddi anodd a newydd iddyn nhw - yn y ffatrïoedd arfau ac yn gyrru tramiau a bysys, gan brofi eu bod yn gwbl deilwng o'r hawl i bleidleisio dros ddyfodol eu gwlad.

Ennill yr hawl

Megan Lloyd George
Megan Lloyd George: AS benywaidd cyntaf Cymru

Felly, yn 1918, cafodd pob menyw dros 30 oed, a oedd yn ddeiliad tŷ neu'n wraig i ddeiliad tŷ, yr hawl i bleidleisio. Ond ni chafodd pob menyw'r bleidlais tan 1928.

Megan Lloyd George oedd Aelod Seneddol benywaidd cyntaf Cymru yn 1929. Eto, tenau iawn fu cynrychiolaeth o'r fath yn San Steffan yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Yna, yn 1997, pan gafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei sefydlu, roedd hanner Aelodau'r Cynulliad yn fenywod.


About this page

This is a history page for schools about the Welsh contribution to the campaign to give women the right to vote. Women in Britain were not allowed to vote until 1918. The Suffragettes were one of the most prominent leaders of the campaign. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Logo eClips

Adnoddau Hanes

Clipiau fideo a sain o archif y BBC am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.