Yr Oes Haearn: Crefydd a Chelf

Enghraifft o waith metel Celtaidd

gan Catrin Stevens

Roedd crefydd yn bwysig ym mhob agwedd ar fywydau pobl yr Oes Haearn. Roedd ganddyn nhw tua 400 o dduwiau, gan gynnwys Modron y fam-dduwies, Cernunnos, y duw corniog, ac Epona y gaseg-dduwies. Bydden nhw'n dathlu sawl gŵyl grefyddol, e.e. Calan gaeaf ar 31 Hydref; Imbolc ar 1 Chwefror; Calan Mai ar 1 Mai a gŵyl y cynhaeaf ar 1 Awst.

Y Derwyddon

Pen cerfiedig o'r Oes Haearn o Ynys Môn

Y derwyddon oedd yn arwain y defodau crefyddol. Roedden nhw yn garfan bwerus ym mhob llwyth. Roedd yn rhaid iddyn nhw hyfforddi am ugain mlynedd, gan ddysgu popeth ar eu cof. Doedden nhw ddim yn cael ysgrifennu'r wybodaeth i lawr. I'w helpu i gofio bydden nhw'n creu patrymau o dri o bethau - roedd y rhif tri yn sanctaidd iddyn nhw. Roedd y ffurf 'trisgell' yn boblogaidd yng nghelf y cyfnod, ac mae i'w weld ar darian Tal-y-llyn a phlac o Lyn Cerrig Bach.

Caiff y derwyddon eu cysylltu ag aberthu dynion ac â chwlt y pennau. Mae darganfyddiad 'Dyn y Llyn Du', mewn mawnog yn Swydd Gaer, yn cadarnhau hynny. Mae'n ymddangos i'r dyn hwn gael ei grogi, ei drywanu a'i foddi, yn ddefodol. Mae penglogau dynol wedi cael eu darganfod wrth byrth rhai bryngaerau (ond nid yng Nghymru).

Does dim rhyfedd fod y Rhufeiniaid yn ofni pŵer y derwyddon ac wedi mynd ati i ddinistrio'u canolfan sanctaidd ar Ynys Môn yn llwyr, yn OC60-61.

Celf

Roedd llefydd dyfrllyd, fel ffynhonnau neu lynnoedd yn gysegredig i bobl yr Oes Haearn. Bydden nhw'n taflu eu trysorau i'r dŵr - yn rhoddion i'w duwiau. Yn 1911, cafwyd hyd i gelc Llyn Fawr, ger y Rhigos, ym Morgannwg. Ynddo, roedd y gwrthrych cynharaf sydd wedi'i ddarganfod o'r Oes Haearn yng Nghymru. Ar y cleddyf hwn mae celf sy'n perthyn i arddull cyfnod Halstatt o'r wythfed i'r seithfed ganrif CC. Cafodd ei enwi ar ôl pentref Halstatt yn Awstria, lle cafodd gwrthrychau o gyfnod cynnar yr Oes Haearn eu darganfod. Mae'n debygol i'r gwrthrychau gael eu hoffrymu yn Llyn Fawr dros sawl canrif.

Plac efydd â chynllun trisgell o Lyn Cerrig Bach

Cafwyd hyd i'r ail gelc pwysig yn Llyn Cerrig Bach ar Ynys Môn, gan weithwyr yn adeiladu maes awyr y Fali, yn 1943. Mae'n dyddio o'r ail ganrif CC i'r ganrif gyntaf OC. Roedd 144 o ddarnau metel o statws uchel yn y celc hwn, yn eu plith cleddyfau, pennau gwaywffyn, darnau o dariannau ac o gerbydau rhyfel, trymped efydd, bariau arian, dau grochan a dwy gadwyn caethweision - y cyfan wedi'u hoffrymu i'r duwiau Celtaidd. Mae nifer o'r gwrthrychau hyn yn arddull celf cyfnod La Tène (wedi'i enwi ar ôl safle Oes Haearn ar lan Llyn Neuchatel yn y Swistir). Mae'n amlwg nad sbwriel oedd y darnau hyn, ac mae celciau tebyg o offer milwrol gwerthfawr, wedi'u hoffrymu'n ddefodol, wedi'u darganfod mewn safleoedd gwlyb ar draws Ewrop. Mae ambell wrthrych unigol wedi cael ei ddarganfod hefyd, e.e. pentan gwych o haearn gyr ar siâp pennau teirw, mewn pwll yng Nghapel Garmon a thancard o bren ywen â'r ddolen wedi'i haddurno'n gelfydd yn Nhrawsfynydd.

Mae crefft y gof yn amlwg yn y darnau metel hyn. Mae'n amlwg, hefyd, fod statws y gof yn uchel yn yr Oes Haearn. Yr oedd yn artist yn ogystal ag yn grefftwr. Ar y darnau yn arddull La Tène mae patrymau haniaethol chwyrlïol a llinellau diddiwedd. Mae anifeiliaid wedi'u darlunio hefyd, weithiau'n naturiolaidd, fel y baedd gwyllt ar yr helmed ym mryngaer Gaer Fawr ger y Trallwng, ac weithiau'n haniaethol.

Gwaddol yr Oes Haearn

  • Mae patrymau celf Geltaidd yn dal i ysbrydoli artistiaid heddiw.
  • Roedd yr iaith Gelteg yn cael ei siarad ar draws gogledd Ewrop yn ystod y cyfnod hwn. O Gelteg datblygodd Brythoneg, mamiaith Cymraeg, Llydaweg a Chernyweg; a Goedeleg, mamiaith Gwyddeleg, Gaeleg a Manaweg. Erbyn heddiw'r Gymraeg yw'r fwyaf bywiog ac amlaf ei defnydd o'r ieithoedd Celtaidd hyn. Mae ymdeimlad o berthyn fel Celtiaid yn parhau ymysg y cenhedloedd hyn hyd heddiw.
  • Mae hanesion rhai o'r duwiau Celtaidd yn rhan o chwedlau gwych y Mabinogi.
  • Ddiwedd y ddeunawfed ganrif, cafodd cwlt y derwyddon ei atgyfodi gan Iolo Morgannwg, pan greodd Orsedd Beirdd Ynys Prydain. Er bod pawb, bellach, yn gwybod mai Iolo oedd wedi creu'r derwyddon hyn o'i ddychymyg ei hun, mae urdd derwydd a swydd archdderwydd Gorsedd y Beirdd yn dal yn bwysig yn niwylliant Cymru heddiw.

About this page

This is a history page for schools about religion and art in Iron Age or Celtic Britain. The druids were the powerful religious leaders of Celtic society and it is thought that the examples of Celtic art found in many sites in Wales were offerings to the gods. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Logo eClips

Adnoddau Hanes

Clipiau fideo a sain o archif y BBC am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.