Brad y Llyfrau Gleision 1847

Ysgol Miss Barlleg, Conwy, 1885. O gasgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

gan Catrin Stevens

Oherwydd terfysgoedd yr 1830au a'r 40au cynnar, roedd rhai pobl yn meddwl bod y Cymry yn bobl wyllt ac anystywallt.

Roedd William Williams, AS Coventry, ond o Lanpumsaint yn wreiddiol, yn credu y byddai rhoi addysg i'r Cymry yn eu gwareiddio. Galwodd am sefydlu comisiwn i ymchwilio i addysg yng Nghymru, ac yn arbennig i weld 'pa ddulliau oedd yna i'r gweithiwr cyffredin gaffael gwybodaeth o'r iaith Saesneg'.

Cafodd tri chomisiynydd cydwybodol eu penodi: R.R.W. Lingen, A.C. Symons a H.R. Vaughan Johnson. Saeson a bargyfreithwyr Uchel-eglwysig oedden nhw. Yn eu tro, gofynnon nhw am gymorth clerigwyr eglwys Loegr a mân fonedd i gasglu gwybodaeth ar draws Cymru. Ar ôl blwyddyn yn teithio'r wlad, cafodd adroddiad swmpus, mewn tair cyfrol â chloriau glas, eu cyhoeddi.

Cynnwys y llyfrau gleision

Addysg

Roedd y llyfrau gleision yn dilorni holl ffordd-
o-fyw y Cymry

Cyflawnodd y comisiynwyr eu brîff o safbwynt addysgol yn ddigon boddhaol, oherwydd roedd safon addysg yng Nghymru a Lloegr yn y cyfnod hwn yn echrydus o isel. Cymdeithasau crefyddol - y Gymdeithas Genedlaethol a'r Gymdeithas Brydeinig oedd yn cynnal nifer o'r ysgolion hyn, ond câi eraill eu rhedeg gan hen wragedd, cyn-filwyr a chymeriadau amheus ac annysgedig.

Tynnodd yr adroddiad sylw at ddiffyg hyfforddiant a gwybodaeth yr 'athrawon' hyn - dim ond 12.5% oedd wedi derbyn unrhyw hyfforddiant. Roedd dysgu, medden nhw, yn un o'r swyddi isaf ei statws yn y gymdeithas. Roedden nhw'n feirniadol iawn o adeiladu gwael llawer o'r 'ysgolion' ac o'r diffyg adnoddau ynddyn nhw.

Canmolon nhw rai ysgolion er hynny, a chafodd Ysgolion Sul glod am eu bod yn llwyddo i ddysgu gweithwyr cyffredin i ddarllen Cymraeg.

Agweddau eraill

nid yw'r elfen Gymraeg fyth ar frig yr ysgol gymdeithasol ... mae'r iaith yn ei gadw (y Cymro) dan yr hatshys ... Iaith amaethyddiaeth hen ffasiwn a diwinyddiaeth yw hi ... tra bod y byd o'i amgylch i gyd yn Saesneg

Adroddiad addysg 1847

Ond aeth y comisiynwyr ymhell y tu hwnt i'w brîff. Gwnaethon nhw sylwadau cas a dilornus ar ffordd y Cymry o fyw - yn arbennig felly'r iaith a'r grefydd anghydffurfiol. Yn ôl y comisiynwyr, roedd y Cymry'n genedl frwnt - meddai'r Parch. J. Pugh: 'Maen nhw'n caniatáu i foch ddod i mewn (i'w cartrefi) yn aml. ... Mae toiledau yn brin iawn'. Roedden nhw'n honni bod y Cymry yn ddiog, yn anwybodus ac yn anfoesol. Ac ar yr iaith Gymraeg yr oedd y bai pennaf am hynny. Yn ôl Lingen, 'p'run ai yn y wlad neu yn y ffwrneisi, nid yw'r elfen Gymraeg fyth ar frig yr ysgol gymdeithasol ... mae'r iaith yn ei gadw (y Cymro) dan yr hatshys ... Iaith amaethyddiaeth hen ffasiwn a diwinyddiaeth yw hi ... tra bod y byd o'i amgylch i gyd yn Saesneg'.

Roedden nhw'n dadlau, hefyd, fod merched Cymru yn anfoesol gan eu bod yn 'caru ar y gwely'. Ac roedd y capeli anghydffurfiol yn cefnogi'r fath ymddygiad gwarthus, trwy annog pobl ifanc i gerdded adref o'r capel yn hwyr y nos, heb eu goruchwylio.

Yr ymateb i'r adroddiad

Bu'r ymateb yn amrywiol iawn:

Llyncodd llawer o'r Cymry'r cynnwys a theimlo cywilydd eu bod yn Gymry.

  • Gwylltiodd llawer o Gymry, yn eu plith Eglwyswyr amlwg, oherwydd cynnwys enllibus yr adroddiad. Brwydrodd rhai yn ôl trwy geisio profi nad oedd y comisiynwyr yn gymwys i'r gwaith - doedden nhw'n gwybod dim am addysg nac am Gymru. Ymhlith y rhain roedd Thomas Phillips, cyn-faer Casnewydd, a ysgrifennodd lyfr i amddiffyn y Cymry, ac Ieuan Fardd a gychwynnodd y cylchgrawn Y Gymraes, i brofi bod merched Cymru yn barchus a phur. Cyfansoddodd R.J.Derfel gerdd am yr adroddiad a'i galw yn 'Brad y Llyfrau Gleision', er cof am yr hen chwedl am Frad y Cyllyll Hirion, pan dwyllodd yr Eingl-Saeson y Cymry cynnar i gael ymsefydlu ar Ynys Prydain.
  • Cafodd y Methodistiaid eu cynddeiriogi gan y feirniadaeth ar yr anghydffurfwyr, a dechreuon nhw weithredu yn wleidyddol er mwyn newid y sefyllfa. Rhoddodd hyn hwb i dwf y blaid Ryddfrydol yng Nghymru.
  • Ond llyncodd llawer o'r Cymry'r cynnwys a theimlo cywilydd eu bod yn Gymry.
  • Ymatebodd y capeli trwy annog eu haelodau i fyw yn barchus a throi'u cefnau ar hen arferion gwerin Cymru.
  • Trodd llawer eu cefnau hefyd ar yr iaith Gymraeg a chredu mai'r Saesneg oedd iaith 'dod ymlaen yn y byd' - agwedd sydd ddim wedi diflannu'n llwyr yng Nghymru, hyd yn oed heddiw.

Creodd y Llyfrau Gleision hollt yn seice'r Cymry. Ar y naill law, aeth llawer ohonyn nhw i gredu eu bod yn israddol; ar y llaw arall, cafodd rhai eu hysbrydoli i frwydro yn erbyn y fath feirniadaeth a thros eu hawliau fel Cymry Cymraeg.


About this page

This is a history page for schools about a controversial report on education in Wales in 1847 which came to be known as 'Brad y Llyfrau Gleision' ('The Treachery of the Blue Books'). The report caused a furore because of its attack on the Welsh language and morality. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Logo eClips

Adnoddau Hanes

Clipiau fideo a sain o archif y BBC am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.