Cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg

Blaenddalen Beibl 1588

gan Catrin Stevens

Mae pawb yn gwybod mai yn 1588 y cafodd Armada Sbaen ei threchu gan lynges Lloegr. Ond mae'r flwyddyn hon yn un allweddol bwysig yn hanes Cymru hefyd, oherwydd yn 1588 y cafodd cyfieithiad William Morgan o'r Beibl i'r Gymraeg ei gyhoeddi gyntaf.

Y camau cyntaf

Yn 1536-43 roedd y Deddfau Uno wedi gwneud yr iaith Saesneg yn unig iaith swyddogol Cymru. Er bod pawb bron yn siarad Cymraeg yn y wlad, roedd tuedd yn awr i feddwl bod y Gymraeg yn iaith israddol. Pwrpas y Deddfau Uno, a'r cymal iaith ynddyn nhw, oedd ceisio cael gwared â'r gwahaniaethau rhwng y ddwy wlad a'u gwneud yn unffurf o ran iaith, arferion a gweinyddiaeth.

Fe wnaeth Harri VIII ddiddymu'r mynachlogydd

Ond yn yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd llawer iawn o anghytuno ynglŷn â materion crefyddol. Yn ystod teyrnasiad Harri VIII, roedd cefnogwyr y Diwygiad Protestannaidd wedi ceisio dileu'r Eglwys Babyddol o'r wlad.

Roedden nhw wedi cau'r mynachlogydd, ac wedi ysbeilio'r eglwys o'i chreiriau a'i seintiau Catholig. Yn yr eglwysi plwyf, Saesneg oedd iaith newydd y gwasanaethau, nid Lladin yr Oesoedd Canol. Roedden nhw'n defnyddio'r Beibl a'r llyfr gweddi Saesneg newydd.

Yna, pan oedd y Protestant, Edward VI (1547-53), a'i chwaer Babyddol Mari Tudur (1553-8), yn teyrnasu, bu Lloegr yn gogwyddo o un ffydd i'r llall. Ond sefyll yn ei hunfan, heb gefnogi'r naill ffydd na'r llall yn llawn, wnaeth y Cymry.

Pan ddaeth Elizabeth I i'r orsedd yn 1558, roedd cyfle i wreiddio Protestaniaeth yng nghalonnau'r bobl. Ond yng Nghymru roedd y gwasanaethau a'r Beibl Saesneg yn rhwystro hyn rhag digwydd.

Cerflun o William Salesbury, Richard Davies a William Morgan yn Eglwys Llanelwy
Mae cerflun o dri chyfieithydd y beibl yn
Eglwys Llanelwy

Gwelodd carfan o Brotestaniaid fod angen newid pethau. Yn eu plith roedd William Salesbury, ysgolhaig mwyaf ei gyfnod, a Richard Davies, Esgob Tyddewi. Roedden nhw'n deall, hefyd, fod modd gwneud defnydd o'r wasg argraffu newydd, ac fel dyneiddwyr, roedden nhw'n credu mai sail Cristnogaeth oedd y Beibl - sef Gair Duw.

Felly, aethon nhw ati, yn 1563, i sicrhau Deddf a fyddai'n caniatáu cyfieithu'r ysgrythurau i'r Gymraeg. Roedden nhw'n dadlau bod y Cymry mewn tywyllwch crefyddol, a bod hyn yn peryglu diogelwch y deyrnas. Ymhen pedair blynedd, yn 1567, roedd y Testament Newydd a'r Llyfr Gweddi Cyffredin Cymraeg yn barod. Salesbury wnaeth y rhan fwyaf o'r gwaith cyfieithu ond cafodd gymorth Richard Davies a Thomas Huet o Dyddewi hefyd. Yn anffodus, er hynny, roedd cyfieithiad Salesbury yn llawn ffurfiau rhyfedd 'na allai clust gwir Gymro ddioddef ei glywed', meddai Morris Kyffin. Yn ôl y chwedl, wrth geisio gorffen cyfieithu gweddill y Beibl, ffraeodd Salesbury a Davies ynglŷn ag ystyr un gair, a daeth y bartneriaeth i ben.

William Morgan

(g)waith gorchestol, ... dysgedig, am yr hwn ni all y Cymry fyth dalu a diolch iddo gymaint ag yr haeddodd ef

Morris Kyffin

William Morgan (1545-1604) gafodd y dasg o gwblhau'r gwaith. Cafodd Morgan ei eni yn y Tŷ Mawr, Wybrnant, Penmachno. Ar ôl astudio Lladin, Groeg a Hebraeg ym Mhrifysgol Caergrawnt, bu'n ficer yn Llanbadarn Fawr, Ceredigion, cyn symud i Lanrhaeadr-ym-Mochnant ym Mhowys. Roedd wedi'i drwytho hefyd, yn y traddodiad barddol Cymraeg.

Mae'n rhyfeddol iddo gyflawni'i gampwaith mewn ficerdy anghysbell, heb adnoddau llyfrgell wrth law, ond manteisiodd lawer ar gyfieithiad ysgolheigaidd Salesbury. Enillodd gefnogaeth frwd Archesgob Caergaint, John Whitgift, a threuliodd Morgan flwyddyn yn Llundain, yng nghartref Gabriel Goodman o Ruthun, Deon Westminster, yn llywio'r Beibl drwy'r wasg. Achub ei genedl rhag marwolaeth ysbrydol oedd nod pennaf Morgan.

Llwyddodd Morgan i greu cyfieithiad darllenadwy, cywrain a hardd. Cafodd y Beibl groeso mawr gan ei gyd-Gymry. Yn ôl Morris Kyffin eto, roedd yn 'waith gorchestol, ... dysgedig, am yr hwn ni all y Cymry fyth dalu a diolch iddo gymaint ag yr haeddodd ef'.

Cofeb i William Morgan ar wal yr eglwys yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant
Crëodd William Morgan feibl mewn Cymraeg
safonol, darllenadwy a hardd

Cafodd Morgan ei ddyrchafu yn Esgob Llandaf (1595) ac yn Esgob Llanelwy (1601). Mae cofeb iddo ef a chyfieithwyr eraill y Beibl ym mynwent cadeirlan Llanelwy [llun uchod].

Arwyddocâd y gwaith

Mewn cyfnod pan oedd statws yr iaith Gymraeg yn gwegian oherwydd y Deddfau Uno a dirywiad cyfundrefn y beirdd, llwyddodd Morgan i roi Beibl Cymraeg o safon aruchel i'r Cymry. Bu'r Beibl hwnnw yn sail i holl lenyddiaeth y canrifoedd dilynol. Sicrhaodd na fyddai'r iaith Gymraeg yn chwalu yn fân dafodieithoedd digyswllt, fel y gwnaeth sawl iaith Geltaidd arall.

Yn sicr, mae dyled Cymru i William Morgan a'i Feibl Cymraeg yn amhrisiadwy.


About this page

This is a history page for schools about the translation of the bible into Welsh. Many credit the intricate translation produced by Bishop William Morgan with the salvation of the Welsh language. Click on the Vocab button at the top of the page for help with Welsh translation.

Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

eClips

Logo eClips

Adnoddau Hanes

Clipiau fideo a sain o archif y BBC am bob pwnc ar gyfer pob oedran.

Bywyd

Llun o stori Antur Sabrina

Chwedlau

Chwedlau hen a newydd, gan gynnwys y Mabinogi, a gemau hwyliog.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.