Pabi coch - symbol o'r Rhyfel Mawr

Cymru a'r Rhyfel Byd Cyntaf 1914 - 1918

28 Hydref 2008

Gydag ergyd dryll un bore ym mis Mehefin 1914, dechreuwyd cadwyn o ddigwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth 10 miliwn o filwyr a gweddnewid map gwleidyddol Ewrop.

Pan lofruddiwyd Franz Ferdinand, Archddug ymerodraeth Awstria-Hwngari, gan Serbiad ifanc ym Mosnia, cefnogwyd Awstria-Hwngaria gan yr Almaen yn eu penderfyniad i ddial ac ymosod ar Serbia.

Ochrodd Ffrainc a Rwsia â Serbia a phan ymosododd yr Almaen ar Wlad Belg, ymunodd Prydain â'i chynghreiriaid yn y rhyfel, a chwalwyd seiliau heddwch Ewrop.

Rhyfel y ffosydd oedd y Rhyfel Byd Cyntaf, neu'r Rhyfel Mawr fel daeth i gael ei alw, gyda'r milwyr yn ymdrechu i ennill tir ar y ddaear ond hwn hefyd oedd y rhyfel cyntaf i ddefnyddio arfau cemegol fel nwyon gwenwynig gan newid y ffordd roedd brwydrau yn cael eu hymladd.

Gan ymestyn rhyw 440 o filltiroedd o'r Swistir i Fôr y Gogledd, roedd y Ffrynt Gorllewinol yn cynnwys ffosydd a ffensys weiren bigog. Symudodd hi bron ddim yn ystod pedair blynedd y rhyfel, er gwaethaf brwydrau'r Somme, Verdun ac Ypres.

Collodd Prydain a'i hymerodraeth bron i filiwn o filwyr yn ystod y rhyfel, y rhan fwyaf ohonyn nhw ar y Ffrynt Gorllewinol.

Colledion Cymreig

Galwodd Canghellor Prydain ar y pryd, Lloyd George am sefydlu 'Byddin Gymreig' o wahanol adrannau a chatrawdau Cymreig a thrwy ymgyrchoedd recriwtio gan bobl fel y Brigadydd Owen Thomas a'r Parchedig John Williams, Brynsiencyn, roedd 100,000 o Gymry wedi ymuno â'r fyddin erbyn mis Mai 1915.

Erbyn diwedd y rhyfel, roedd 272,000 o ddynion Cymru wedi ymladd yn y rhyfel a bron i 40,000 o'r milwyr hynny wedi eu lladd.

Un o'r brwydrau mwyaf nodedig o ran colledion Cymreig oedd brwydr Coed Mametz, oedd yn rhan o frwydr fawr y Somme. Ymladdwyd y frwydr gan bum bataliwn Gymreig, a chollwyd 4,000 o Gymry, er iddyn nhw ennill y frwydr.

Mae draig goch fawr i'w gweld yng Nghoed Mametz heddiw yn gofeb i'r milwyr o Gymru a ymladdodd ac a laddwyd yno.

Un o'r milwyr mwyaf adnabyddus i golli ei fywyd yn ffosydd Gwlad Belg oedd Ellis Humphrey Evans o Drawsfynydd, neu Hedd Wyn o roi ei enw barddol - aelod o'r Ffiwsilwyr Cymreig. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod 1917 gyda'r gerdd, Yr Arwr, sy'n disgrifio oferedd yr ymladd. Wedi anfon ei gerdd o'r ffosydd cafodd ei ladd ym mrwydr Cefn Pilkem, Ypres, chwe wythnos cyn yr Eisteddfod ym Mhenbedw. Wedi cyhoeddi o lwyfan y Brifwyl bod y bardd wedi'i ladd, taenwyd lliain du dros y Gadair a galwyd yr ŵyl honno yn 'Eisteddfod y Gadair Ddu' a daeth Hedd Wyn yn rhan o fytholeg hanes Cymru a'r rhyfel.

Wedi pedair blynedd o frwydro blin, daeth y rhyfel i ben am 11am ar 11 Tachwedd 1918 pan arwyddodd yr Almaen gadoediad.

Wedi cael ei benodi'n Weinidog Rhyfel yn 1916, roedd Lloyd George wedi disodli Asquith fel Prif Weinidog yr un flwyddyn a chwaraeodd ran flaenllaw i sicrhau fod yr Almaen yn talu'n ddrud am y rhyfel yng Nghytundeb Versailles a luniwyd gan y Cynghreiriaid yn 1919.

Y Pabi Coch

Darganfu'r milwyr wlad wahanol iawn wrth iddyn nhw ddychwelyd adref. Ar wahân i'r cynnydd yng nghostau byw a phrinder tai, roedd lefelau uchel o ddiweithdra yn wynebu'r dynion oedd yn dod yn ôl i Gymru ac yn fuan roedd Prydain yn wynebu dirwasgiad.

Cofir am y milwyr a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf ar 11 Tachwedd bob blwyddyn ac mae Sul y Cofio yn cael ei gynnal ar y Sul agosaf at ddyddiad y cadoediad gwreiddiol. Mae'r pabi coch, sy'n tyfu'n naturiol mewn pridd sydd wedi ei darfu, wedi dod yn symbol o'r cofio gan i'r blodyn ddechrau tyfu yn nghaeau gogledd Ewrop lle roedd y brwydo wedi digwydd.

Galwyd Rhyfel Mawr 1914 - 1918 yn 'rhyfel i orffen pob rhyfel', ond ddim ond ugain mlynedd yn ddiweddarach roedd hanes yn ailadrodd ei hun gyda thoriad Yr Ail Ryfel Byd ...


Straeon Digidol

Beddau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc

Perthyn

Stori am dynfa deuluol i Ffrainc lle lladdwyd aelod o'r teulu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gogledd ddwyrain

Draig goch yng Nghoed Mametz

Rhuthun a'r Rhyfel Mawr

Collodd y dref farchnad 101 o filwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Enwogion

Lloyd George

'Y Dewin Cymreig'

Bywgraffiad o Brif Weinidog Prydain ar ddiwedd y Rhyfel Mawr.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.