Stori milwr o Gymro

top
Griffith Jones

Mae hanes Griffith Jones, gŵr ifanc o'r Ffôr yn Eifionydd, yn stori sy'n nodweddiadol o'r profiad Cymreig o frwydro yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

05 Tachwedd 2010

Cafodd y gŵr 23 mlwydd oed ei recriwtio yn nghapel Ebeneser, y Ffôr, gan neb llai na John Williams, Brynsiencyn. Wedi ei ysbrydoli gan areithio tanbaid y pregethwr dawnus, oedd yn gyfrifol am annog cannoedd o fechgyn Cymru i listio, aeth i dorri ei enw yn y fan a'r lle yn y set fawr.

Yn pwyso ar ganllaw'r set fawr roedd ei fam yn ei dagrau yn erfyn arno i beidio.

Ond dan anogaeth y Parchedig John Williams, rhoddodd ei enw i lawr. O fewn misoedd roedd wedi ei ladd yn frwydr enwocaf o ran colledion Cymreig, sef Brwydr Coed Mametz yn y Somme.

Er i filwyr y pum bataliwn Cymreig a'i hymladdodd ennill y frwydr honno, collodd 4,000 ohonynt eu bywydau. Mae draig goch fawr i'w gweld yng Nghoed Mametz heddiw yn gofeb i'r milwyr o Gymru a ymladdodd ac a laddwyd yno.

Medal efydd Griffith Jones
'Ceiniog y Brenin' a roddid i deuluoedd y
milwyr a laddwyd.

Roedd John Williams wedi ei benodi yn gaplan anrhydeddus i'r 'Fyddin Gymreig' a grëwyd Lloyd George, y Canghellor ar y pryd. Byddai'n pregethu o'r pwlpud mewn iwnifform ond ni aeth ef ei hun ar gyfyl yr ymladd.

Ni fu mam Griffith Jones erioed yn y capel wedi hynny.

Adroddir y stori hon yn y gyfrol Epil Gwiberod yr Iwnion Jac sef casgliad o erthyglau gan gyn golofnydd y Cymro, a nai Griffith Jones, Geraint Jones. Daeth i'r amlwg ynghyd â llythyrau a anfonodd at ei deulu mewn prosiect gan Brifysgol Caerdydd o'r enw Cymry'r Rhyfel Mawr Ar-lein, sy'n casglu lluniau, eitemau, atgofion a straeon am y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn ôl arweinydd y prosiect Dr Gethin Matthews mae astudio'r llythyrau a'r pytiau hyn o hanes teulu o'r Rhyfel Byd Cyntaf yn rhoi darlun i haneswyr o sut y cafodd cymdeithasau a chymunedau Cymreig eu newid gan y profiad o ryfel, yn enwedig agweddau at y capel.

Oherwydd i'r capeli gefnogi'r rhyfel ac i bobl fel y Parchedig John Williams annog bechgyn ifanc i listio, collodd y capel ei hygrededd fel conglfaen cymdeithas a chael ei weld gan lawer fel sefydliad rhagrithiol, meddai Dr Matthews.

Mae llythyrau Griffith Jones a gyfranwyd at y prosiect yn dangos y cysylltiad agos rhwng y cartref a maes y gad yn ystod y Rhyfel Mawr. Roedd cyfathrebu cyson rhwng y milwyr a'u hanwyliaid sy'n dangos fod y rhyfel hwn yn un oedd yn 'agos i gartref' meddai Dr Matthews.

Mae'r brifysgol wedi cynnal cyfres o sioeau teithiol dros haf 2010 i gasglu eitemau teuluol fel rhain ac aethant ati i annog pobl i sganio eu hen luniau, llythyrau ac eitemau'n ymwneud â'r rhyfel cyn i'r darnau hyn o hanes fynd ar goll.

"Mae perygl bod y teulu'n anghofio am yr eitemau sydd ganddyn nhw a'u bod yn cael eu taflu. Dim ond y genhedlaeth hŷn erbyn hyn sydd yn cofio pwy ydy'r bobl yn y lluniau neu'r llythyrau - nawr yw'r amser i sganio'r deunydd yma er mwyn eu diogelu at y dyfodol," meddai Dr Matthews.

Daeth y prosiect i ben fis Chwefror 2011 ac mae'r deunydd sydd wedi ei gasglu yn cael ei arddangos ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol, Casgliad y Werin.


Straeon Digidol

Beddau'r Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc

Perthyn

Stori am dynfa deuluol i Ffrainc lle lladdwyd aelod o'r teulu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Gogledd ddwyrain

Draig goch yng Nghoed Mametz

Rhuthun a'r Rhyfel Mawr

Collodd y dref farchnad 101 o filwyr yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Enwogion

Lloyd George

'Y Dewin Cymreig'

Bywgraffiad o Brif Weinidog Prydain ar ddiwedd y Rhyfel Mawr.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.