Merched y rhyfel

Margaret Street a Margaret Read yn hel atgofion am y Wrens

12 Tachwedd 2010

Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, anogwyd menywod ar draws Prydain i 'wneud eu rhan' yn ymdrech y rhyfel.

Roedd posteri ac ymgyrchoedd ar draws Prydain yn gofyn i fenywod "Ymuno â'r Wrens a rhyddhau dyn i'r llynges" ("Join the Wrens and free a man for the fleet").

Yr enw hoffus ar aelodau Gwasanaeth Menywod y Llynges Frenhinol (WRNS - Women's Royal Navy Service ) oedd y 'Wrens'. Wedi eu ffurfio'n wreiddiol yn 1917, fe chwaraeon nhw rôl werthfawr yn y ddau ryfel byd a rhyfeloedd eraill drwy gydol yr 20fed ganrif.

Trwy'r Wrens, roedd menywod yn gweld eu cyfle i weld y byd a chael swydd a oedd yn llawn antur a phrofiadau newydd. Anogwyd miloedd o fenywod i ymuno a gwneud swyddi yr oedd dynion wedi arfer â'u gwneud. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd roedd dros 74,000 o fenywod wedi ymuno.

Yn eu mysg roedd menywod sydd bellach yn aelodau o gangen gogledd Cymru o Gymdeithas y Wrens. Mae'r grŵp o ogledd Cymru a oedd yn aelodau o'r Llynges Frenhinol yn ystod yr Ail Ryfel byd wedi bod mewn cyfres o aduniadau mewn llefydd fel Lerpwl, Caernarfon a Chaergrawnt ac yn rhannu eu hatgofion drwy gynllun wedi ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr.

Margaret Street
Margaret Street yn ystod y rhyfel

I Margaret Street, o West Kirby yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw ym Mhrestatyn, y syniad o groesi'r moroedd a theithio'r byd a'i denodd hi i ymuno.

"Y cyfan yr oeddwn eisiau'i wneud oedd mynd tramor, a thybiais mai ymuno â'r Wrens oedd yr ateb perffaith i'm hysfa i grwydro," meddai Margaret, sylfaenydd Cymdeithas WRNS gogledd Cymru, a ymunodd ym 1944 yn 19 oed.

"Pan ymunais, fe'm hanfonwyd i ganolfan hyfforddi yn Mill Hill yn Llundain ac wedi hynny, yn ôl i Lerpwl," meddai Margaret, gan gofio ei siom wrth gael ei lleoli 10 milltir yn unig o'i chartref.

"Gwirfoddolais am ddyletswyddau tramor fel gwyliwr signalau, ond os oeddech o dan 21 oed roedd rhaid cael caniatâd eich rhieni i fynd tramor. Cymerodd chwe mis hir i mi ddarbwyllo fy rhieni i gytuno." O'r diwedd, ar ôl misoedd o erfyn, roedd ei rhieni'n barod i gytuno. Ychydig fisoedd wedyn, cafodd Margaret ei drafftio i Ceylon, neu Sri Lanka fel y mae'n cael ei adnabod heddiw.

Ar ôl treulio amser byr yn hwylio i'r Aifft, yna i Bombay ac draws India ar drên i Madras cyn troi tua'r de i Danishkodi daliodd Margaret fferi i Colombo, nôl ar ynys Ceylon, gyda 21 o fenywod eraill o'r llong filwrol. Oddi yno, cafodd ei hanfon i Trincomalee, ardal jyngl anghysbell ar arfordir gogledd-ddwyreiniol yr ynys.

Roedd y swyddog cyntaf wedi disgrifio'r genhadaeth fel "bywyd cwbl wahanol - bydd rhaid i chi weithio'n galed oherwydd bod harbwr enfawr yno a llawer o signalau'n mynd ymlaen drwy'r amser, ond gallwch chwarae'n galed. Mae yno nofio, picnics a barbeciws." I ferch 19 oed roedd hyn yn swnio'n rhy dda i'w wrthod. Ynghyd â chwe Wren arall, paciodd Margaret ei bagiau ac anelu am Trincomalee.

Grwp o Wrens yn 1946
Margaret Street (cefn, trydydd o'r dde) a'i
chyd-Wrens yn 1946 cyn cael eu galw nôl adref.

"Roedd Trincomalee yn fwrlwm o weithgarwch. Bryd hynny roedd y rhyfel yn Ewrop drosodd felly roeddent wedi anfon llongau o'r llynges gartref a llynges y Canoldir i ymuno â Llynges y Dwyrain Pell, yn barod i oresgyn Japan. Roedd yn harbwr enfawr, un o'r mwyaf yn y byd ar y pryd ac roedd yn llawn dop gyda llongau'n anfon signalau i'w gilydd drwy'r amser. Gan fod cynifer o longau roeddech bron yn gallu cerdded o un llong i'r llall," cofia Margaret.

Roedd Margaret ar ddyletswydd pan ddaeth y signal drwodd bod y bom atomig wedi ffrwydro, a phan gyhoeddwyd diwrnod VJ.

"Ni allech gredu sut roedd yn teimlo; roedd pawb yn hynod gyffrous. Roedd y morwyr yn taflu eu hetiau yn yr awyr a chawsom ddiodydd am ddim. Roedd yr holl bobl leol yn ogystal â'r morwyr o gwmpas yr harbwr mewn hwyliau da. Pan ddaeth y machlud, roedd yr holl longau wedi'u goleuo ac roedd cannoedd ar filoedd o dân gwyllt yn cael eu cynnau - roedd yn brofiad rhyfeddol," meddai Margaret.

Ynghyd â miloedd o Wrens eraill cafodd Margaret ei dadfyddino ym 1946, ond mae'n parhau i fod yn aelod gweithgar o gangen Rhyl y Wrens.

Roedd Margaret Read yn 24 oed pan atebodd yr alwad i ymuno â'r WRNS. Cafodd ei hanfon i Blundellsands yn Lerpwl i gael ei hyfforddi cyn cael ei drafftio i Machrihanish ar Benrhyn Kintyre yn yr Alban.

Margaret Read
Margaret Read yn ei hiwnifform yn ystod y rhyfel

"Roeddwn yn gweithio dan y ddaear mewn PCB - adeilad amddiffynnol ar gyfer cyfathrebu [protective communications building]. Roeddwn yn wyliwr dosbarthu signalau neu 'bunting tossers' fel roeddem yn cael ein galw. Pan dderbyniom negeseuon, roedd rhaid i ni ddarganfod a oedd yn gyfrinachol neu beidio. Yna penderfynu pwy oedd y bobl iawn i'w dosbarthu nhw iddynt," meddai Margaret, sydd yn 93 oed, ac yn aelod hynaf cangen y Rhyl o'r Wrens.

Roedd Machrihanish yn un o dair gorsaf brysuraf adran awyr y llynges ym Mhrydain ac yn fwrlwm o weithgarwch yn ystod y rhyfel. Câi ei ddefnyddio i hyfforddi peilotiaid i esgyn awyrennau o lain awyr byr, maint dec llong.

Yno y clywodd Margaret dros yr uchelseinydd fod Buddugoliaeth yn Ewrop wedi'i chyhoeddi.

"Roeddwn ar ddyletswydd pan gawsom wybod am Ddiwrnod VE - roedd gyda'r nos a byddai'r cadoediad gyda'r Almaen yn cael ei lofnodi'r diwrnod wedyn. I ddathlu, rhoddwyd caniatâd 'Splice the mainbrace' i'r rheiny oedd ar y llongau rhyfel, gan gynnwys y Wrens, sef caniatâd i gael diod.

"Cawsom ychydig o rỳm. Roedd yr holl ddynion yn ei yfed yn rheolaidd ond doedden ni wedi'i gael o'r blaen. Aethom i gyd draw a'r cyfan oedd gennym oedd ein mygiau. Roedd casgen fawr gyda bandiau pres disglair o'i chwmpas a rhoddodd swyddog y diwrnod ychydig i ni i gyd. Roedd un o swyddogion y Wrens yno gyda gwydraid o ddŵr - doedd hi ddim eisiau criw o Wrens meddw!" meddai Margaret gan chwerthin.

Er eu bod wedi gweithio'n galed dros oriau hir, mae Margaret yn mynnu bod y cwlwm y mae'r Wrens yn ei rannu wedi'u helpu nhw, cwlwm sy'n dal i fodoli heddiw.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am gynllun Arwyr yn Ôl 2 y Gronfa Loteri fawr ffoniwch y llinell gymorth ceisiadau ar 0845 00 00 121 neu ewch i'w gwefan www.cronfaloterifawr.org.uk.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.