Eisteddfod yn yr Aifft, 1943

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Darlledwyd Eisteddfod Cairo yn anterth yr Ail Ryfel Byd ar 31/10/1943. Yn y clip hwn, mae'r Archdderwydd yn cyhoeddi enillydd y Gadair, gyda'r gri 'A oes heddwch!', a'r tenor John Evans o Frynsiencyn yn canu Cartref.

17 Hydref 2008

Pyramid yn yr Aifft adeg y rhyfel
Pyramid yn yr Aifft adeg y rhyfel. (Drwy
garedigrwydd Elias Jones a Gordon Lyles.)

Cynhaliwyd Eisteddfod Cairo yn 1943, dan adain Cymdeithas Gymreig Cairo ar gyfer y milwyr Cymreig oedd wedi eu lleoli yn yr Aifft .

Fe'i trefnwyd gan y Parch J Madoc Jones a Richard Aethwy Jones oedd yr Archdderwydd a ynganodd y gri draddodiadol, A Oes Heddwch! Enillwyd y gadair gan W J Jones o Gaernarfon a'r Gwir Barchedig Llewellyn Gwyn, Esgob yr Aifft a Swdan, oedd Llywydd y Dydd.

Darlledwyd Eisteddfod Cairo gan y BBC yn 1943 a chlywodd y gwrandawyr nôl yng Nghymru y tenor John Evans o Frynsiencyn yn canu 'Cartref' dan dipyn o emosiwn - gallwch wrando ar y gân a'r seremoni gadeirio yn y clip uchod.

Ymysg y darnau eraill a ganwyd yn yr Eisteddfod mae Sosban Fach a Wele'n Sefyll Rhwng y Myrtwydd, ynghyd ag ambell gân Saesneg!

Un milwr sy'n cofio'r achlysur yn dda ydy Elias Jones o Amlwch, aelod o'r Llu Awyr yn yr Aifft rhwng 1940 - 1945. Roedd am gyfnod yn weithiwr weirles ar yr awyrennau yn gyfrifol am anfon rhagolygon y tywydd a chludo sypleis i El Alamein.

"Gan fod cannoedd o Brydeinwyr yng Nghairo roedd 'na gapeli yno hefyd, ac mi wnaeth y Cymry gymryd un ohonynt drosodd fel Capel Cymraeg Cairo. Roedd un o'r prif Gapleiniaid yn y Dwyrain Canol yn dod o Lannerchymedd ac mi fydden ni'n cyfarfod yn y Capel Cymraeg bob nos Sul, yna mynd ymlaen i fwyty Eidalaidd a chanu caneuon Cymraeg drwy'r nos.

Elias Jones
Elias Jones yn ei iwnifform

"Roedd eisteddfod yn cael ei chynnal yn y Capel Cymraeg bob blwyddyn. Doeddwn i ddim yn un i gymryd rhan mewn eisteddfodau fel arfer ond mi wnes i fwynhau gwylio pawb yn cystadlu. Un peth sy'n aros yn y cof ydy'r 'steddfod gyntaf - yn y YMCA dwi'n meddwl. Daeth bachgen ifanc i fyny i ganu, a'r neuadd yn llawn o soldiwrs y fyddin a'r awyrlu ar leave o'r anialwch. A dyna'r hogyn yma, John Evans o Frynsiencyn, yn canu 'Cartref' - roedd na ddagrau yn ll'gadau pawb.

"Dwi'n cofio'r BBC yn darlledu o'r Aifft ar Ddydd Gwŷl Dewi Sant yn 1941 hefyd. Mi wnaethon nhw ofyn i ni, giang o fois Cymraeg, ddweud gair ac mi nes i glywed fod pawb adref yn Amlwch yn gwrando.

"Cof arall ydy bod ar diwti un noson a gyrru neges morse code o Cairo i Algiers. Ar ôl gorffen mi ofynnais i'r boi mewn morse code o ble roedd yn dod - "Wales" gyrrodd yn ôl. "Where in Wales?" gofynnais. "Anglesey," meddai, "Amlwch." Roeddwn yn ei 'nabod o'n iawn ac felly roedden ni'n gallu siarad Cymraeg ar yr awyr heb boeni bod neb yn gwrando arnon ni."

Bu Elias Jones yn dweud ei hanes wrth dîm bws BBC Cymru. Gallwch ddarllen mwy o hanes Elias Jones a gweld ei luniau o'r cyfnod ar wefan BBC Lleol


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.