Masg nwy a deunyddiau eraill o gyfnod yr Ail Ryfel Byd

Bywyd bob dydd a chefn gwlad

24 Hydref 2008

Gyda mygydau nwy yn cael eu dosbarthu i bobl a phlant, tadau, gwŷr a meibion i ffwrdd yn y fyddin, ofn y bomiau a bwyd fel siwgr, wyau a menyn yn cael eu dogni, fe ddaeth yr Ail Ryfel Byd â newid byd mawr i bobl Cymru.

Roedd rhaid dysgu coginio gyda wyau powdr a dyfeisio ryseitiau newydd i wneud y gorau o'r ychydig fwyd oedd ar gael.

Ond roedd pethau haws i drigolion cefn gwlad yn ôl Hafina Clwyd, a fagwyd ar fferm yng Ngwyddelwern yng ngogledd ddwyrain Cymru: "Yr oeddym ni'n ffodus dros ben o gymharu â thrigolion y trefi - nid oedd y bomiau'n disgyn arnom ac yr oedd yna gyflawnder o fwyd rhad ac am ddim ar gael o'r caeau a'r gwrychoedd i atodi'r dogni. Er enghraifft: cwningod a ffesantod, crabas a mafon duon a chochion, cnau a wyau sguthanod, eirin gwyllt a physgod."

Cofia Eleanor Roberts o Garndolbenmaen am bobl y pentref yn gofyn iddi am fwyd o'r fferm wartheg lle roedd yn byw gyda'i mam a'i nain a thaid: "Roedd wastad rywun eisiau menyn a llaeth enwyn. Byddai hen wragedd mewn dillad duon llaes yn cythru amdanaf ar fy ffordd i'r ysgol. 'Dwedwch wrth eich mam mod i isio pwys neu hanner pwys o fenyn,' fel bo'r galw, 'o, a thropyn o laeth.'

"Rhaid fyddai danfon menyn i rai. ... Anodd iawn a phrin y papur lapio amser rhyfel. Yn ystod poethder ambell haf lapiwyd y menyn hefo deilen riwbob - ar sylfaen o soser neu blât."

Roedd Mr JP Owen o Lanrwst yn gweithio ar y tir yn ystod y Rhyfel ac mae'n cofio merched o ddinasoedd Lloegr yn dod i weithio fel aelodau o'r Fyddin Dir yn ardal Llanrwst i godi tatws a chario ŷd: "Ddaru nhw ddŵad i fedru gweithio'n dda - fysen ni byth wedi codi bwyd hebddyn nhw.

"Ond roedd rations yn dal i fod. Dwi'n cofio rhai yn dod i fyny o'r trefi, eisiau rhywbeth i'w fwyta. Doedden ni ddim yn cael rhoi wyau wrth gwrs, er roedden ni'n medru rhoi rhyw gwningen bach weithiau."

Blacowt
Un o'r pethau flinai fwyaf ar bobl erbyn diwedd y rhyfel oedd y blacowt - roedd rhaid diffodd goleuadau, gorchuddio'r ffenestri a chau siopau yn gynnar er mwyn cuddio unrhyw oleuni rhag awyrennau bomio'r Almaen.

"Amser rhyfel y tywyllwch dudew oedd waetha," meddai Elaenor Roberts. "Nid oedd gennym drydan na gas. Cario'r paraffin o'r siop fach leol. Roeddynt yn gwerthu burum a da-da ond roedd rhaid cael cwponau i gael da-da.

"Rhaid oedd gorchuddio ffenestri'r tŷ hefo ryw lian du. Blacowt oedd hynny i mi. Ond ar noson oer aeafol a sŵn trwm yn yr awyr - awyrennau rhyfel yn mynd i Lerpwl - caem dynnu'r bwrdd crwn at y tân a rhoi y lamp baraffîn arno - a medrwn weld i fyny'r simdde a gwrando'r criced yn nhu ôl y grât. "

Roedd pobl wedi dod i arfer â byw heb oleuni meddai Gwladys Hughes o Amlwch: "Dwi'n cofio cerdded ar hyd stryd Bangor mewn tywyllwch dudew a phawb yn bympio i mewn i'w gilydd ac yn deud 'Esgusodwch fi'," meddai. "Doedd gan neb ofn o gwbl yn cerdded yn y tywyllwch yn y nos - doedd na ddim trwbl yr adeg honno"

Carcharorion
Daeth pobl yn fwy cyfarwydd ag ehangu eu gorwelion a dilyn digwyddiadau ym mhellafoedd byd a chwrdd â phobl o gefndiroedd gwahanol, naill ai'n faciwîs, neu'n filwyr wedi eu lleoli yma, fel y GIs o America.

Daeth llawer hefyd i gysylltiad â charcharorion rhyfel. Sonia Gwladys Hughes fel y cofia nifer o Eidalwyr ac Almaenwyr o wersyll carcharorion ym Mangor yn dod i gael triniaeth i'r ysbyty lle roedd hi'n nyrs: "Dwi'n cofio'r Eidalwr cynta yn dod i gael ei drin," cofia. "Roedd ganddo fo apendiseitis drwg. Roedd o'n gweiddi ac yn pledio yn meddwl ein bod ni'n mynd i'w ladd o oherwydd yr holl bropaganda roeddan nhw wedi ei gael. Wrth fynd i mewn i gael llawdriniaeth, a finna'n mynd i mewn efo fo, roedd o'n gweiddi 'No knife, no knife!' yn siŵr y basa fo'n cael ei ladd.

"Toedd ganddon ni ddim drwgdeimlad yn eu herbyn - wedi cael eu gorfodi i ymuno oeddan nhw, wedi cael eu conscriptio," meddai.

Mae Hafina Clwyd hefyd yn cofio carcharorion yn dod i weithio ar y fferm: "Yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn fechgyn hynaws iawn - yr wyf yn dweud 'bechgyn' yn hytrach na dynion gan bod nifer ohonyn nhw'n ifanc iawn.

"Yr oedd hi'n arferiad mynd i fferm Taid a Nain yn Nhrefnant (rhwng Dinbych a Llanelwy) bob nos Nadolig ac un flwyddyn aethom â Leo [carcharor oedd yn aelod o Lu Awyr yr Almaen] hefo ni. Cofiaf ef yn ei ffurfwisg las yn wylo, nid yn unig yn ei hiraeth, ond hefyd am ei fod yn cael ei drin fel aelod o'r teulu ac yn gwerthfawrogi croeso fy nain. Dysgodd fy chwaer a minnau i ganu 'Stille nacht, heilige nacht' yn yr Almaeneg. Bu hwn yn party piece gennym am flynyddoedd!

"Byddaf yn meddwl yn aml pa mor ffodus fu'r efaciwîs (cawsant gartrefi clyd a gofal) a'r POW's - rheiny hefyd yn cael lletygarwch a chryn dipyn o ryddid. (Hynny yw, o'u cymharu a beth a ddigwyddodd i rai o'r carcharorion Prydeinig yn yr Almaen a Siapan). Yn y rhan hon o'r byd yr oedd bywyd yn nefoedd o'i gymharu â Lerpwl a Llundain ac ni wyddem ddim am 'Abertawe'n fflam'."

Roedd y Llywodraeth yn ymwybodol iawn bod y caledi roedd pobl yn ei wynebu yn effeithio ar ysbryd y bobl gymaint â'r rhyfel ei hun a threfnwyd sawl ymgyrch bropaganda i geisio codi eu hysbryd, drwy bamffledi, posteri, hysbysebion sinema a darllediadau radio.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.