Y Prif Weinidog, Winston Churchill, yn siarad ar radio'r BBC yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Cymru a'r Ail Ryfel Byd 1939 - 1945

16 Hydref 2008

Wedi blynyddoedd o nerfusrwydd am dwf y Natsïaid a'u bygythiad i heddwch yn Ewrop, cyhoeddodd Ffrainc a Phrydain, dan arweinyddiaeth Winston Churchill, ryfel yn erbyn yr Almaen ar 3 Medi 1939 wedi i Hitler ymosododd ar Wlad Pŵyl ddeuddydd ynghynt .

Cyn i'r brwydro ddod i ben yn 1945, roedd 15,000 o Gymry wedi eu lladd yn yr Ail Ryfel Byd a phum catrawd Cymreig wedi bod yn rhan o'r brwydro.

Parhaodd cyrchoedd awyr yr Almaenwyr ar ddinasoedd Prydain drwy gydol y rhyfel ac er bod nifer wedi credu y byddai Cymru'n ddiogel rhag y cyrchoedd yma, nid felly roedd hi. Caerdydd oedd y ddinas gyntaf yng Nghymru i gael ei bomio ym mis Mehefin 1940, ond Abertawe ddioddefodd yr ymosodiad mwyaf dwys pan gafwyd tair noson o fomio trwm ym mis Chwefror 1941 gan ladd cannoedd a dinistrio canol y ddinas. Bu cyrchoedd tebyg ar Ddoc Penfro hefyd.

Ond ni ddioddefodd Cymru cynddrwg â rhai o ddinasoedd ac ardaloedd diwydiannol Lloegr gan y blitz - bomiwyd Llundain, gan gynnwys Palas Buckingham, a dinistriwyd dinas Coventry bron yn llwyr. Lladdwyd tua 40,000 o ddinasyddion Prydain gan y cyrchoedd.

Oherwydd y bomio ar y dinasoedd mawr, penderfynodd y Llywodraeth anfon plant i ddiogelwch cefn gwlad ymhell o sŵn y bomiau. Anfonwyd dros 100,000 o ifaciwîs i loches yng Nghymru, i gefn gwlad yn enwedig - plant o Birmingham, Birkenhead a Lerpwl yn bennaf.

Gyda chynifer o ddynion ifanc wedi gadael i fynd i'r fyddin, roedd prinder gweithwyr i weithio yn y pyllau glo, oedd erbyn hyn yn cael eu rhedeg gan y Llywodraeth. Felly yn 1943, galwyd un o bob deg gŵr ifanc 18 oed i weithio dan ddaear yn hytrach nag i'r fyddin er mwyn sicrhau bod y cyflenwad glo yn parhau. Galwyd nhw'n Bevin Boys, ar ôl Ernest Bevin, y Gweinidog dros Waith a'r Gwasanaeth Gwladol. Daeth nifer o Saeson dosbarth canol a gweithiol, yn ogystal â Chymry, i feysydd glo caled de Cymru, pobl fel Ceri Lewis o Dreorci.

Ymunodd nifer o ferched â'r Fyddin Dir er mwyn sicrhau bod bwyd yn dal i gael ei gynhyrchu tra roedd y dynion yn ymladd yn y fyddin ac oherwydd y dogni ar fwyd dysgodd pobl i fyw yn gynnil a gwneud y gorau o'r bwyd oedd ar gael.

Roedd canran y menywod oedd yn ymuno â'r gweithlu yn uwch yng Nghymru nag yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig ac fe wnaeth y rhyfel ddatrys, dros dro, rai o broblemau diweithdra dirwasgiad y 1920au a'r 1930au.

Sefydlwyd nifer o ddiwydiannau rhyfel yng Nghymru, gan gynnwys stordai arfau enfawr ym Mhenybont ar Ogwr a ffatri fomiau gyfrinachol yn Rhydymwyn ger yr Wyddgrug.

Pan gyhoeddodd y Prif Weinidog, Winston Churchill, bod yr Ail Ryfel Byd drosodd ar 8 Mai 1945, cafwyd dathliadau ar hyd a lled y wlad i ddathlu Diwrnod VE - Victory in Europe.

Ond parhaodd effaith yr Ail Ryfel Byd a'r cof amdano am genedlaethau i ddod.

Erthyglau eraill:


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.