In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Y Pwyliaid

Yn y clip uchod, ceir hanes y Pwyliaid a ymsefydlodd yn ardal Llanybydder, Sir Gaerfyrddin. Yr hanesydd Dr. Mike Benbough-Jackson sy'n mynd ar drywydd y Pwyliaid eraill a ffodd rhag Comiwnyddiaeth wedi'r Ail Ryfel Byd ac ymsefydlu yng Nghymru.

Yn ôl cyfrifiad 1931, roedd 574 o bobl a aned yng Ngwlad Pŵyl yn byw yng Nghymru. Dangosodd y cyfrifiad nesaf yn 1951 bod dros 6,000 o breswylwyr Cymru o Wlad Pŵyl yn wreiddiol. Roedd y mewnfudwyr yma yng Nghymru am iddynt gael eu diwreiddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd; hyd yn oed wedi buddugoliaeth y Cynghreiriaid, roedd nifer fawr o Bwyliaid yn gyndyn o ddychwelyd i'w mamwlad dan reolaeth y Comiwnyddion.

Er i fwyafrif y mewnfudwyr o Bŵyl gyrraedd yn ystod canol a diwedd y 1940au, nid un grŵp unffurf oedden nhw. Roedd rhai yn filwyr oedd wedi parhau eu brwydr yn erbyn yr Almaen Nazïaidd o wahanol wledydd y Cynghreiriaid, roedd eraill yn sifiliaid tlawd wedi eu symud o'i gwlad.

Yng Nghymru, gafaelodd y Pwyliaid mewn cyfleoedd a wynebu anawsterau; er mai pitw oedd rhain i'w cymharu â'r treialon roedden nhw wedi eu hwynebu cyn hynny. Roedd ymateb y Cymry yn gymysg: croeso cynnes gan rai, ymateb oeraidd gan eraill.

Gwŷr y Fyddin a'r llywodraeth oedd y cyntaf i gyrraedd. Ond wnaethon nhw ddim cyrraedd i gyd yr un pryd, fe droediodd nifer ohonynt lwybr mwy cwmpasog. Daeth rhai yn syth o Wlad Pŵyl wedi iddi syrthio, daeth eraill drwy Ffrainc, Rwsia a rhannau o'r Ymerodraeth Brydeinig lle roedden nhw wedi gwasanaethu. Cyrhaeddodd Rudolf Olewicz yn Llanbed drwy Rwsia, Irac a'r Eidal. Daeth Stanislaw Berger, a ymsefydlodd yng Nghwmbran, ar hyd llwybr tebyg.

Gwrthwynebiad

Pan basiwyd Deddf Ailgartrefu Pwyliaid yn 1947, cafodd cymwysterau meddygon a phobl broffesiynol eraill o Wlad Pwyl eu cydnabod a sicrhawyd darpariaeth les i'r Pwyliaid hynny oedd wedi ffoi i Brydain yn ystod y rhyfel. Ond oherwydd y sefyllfa economaidd anodd wedi'r rhyfel, roedd rhai trethdalwyr yn gwrthwynebu'r syniad o roi cymorth i 'ddieithriaid'.

Hefyd, roedd nifer o'r milwyr hyn yn sefydlu perthynas gyda menywod Cymru. Fe wnaeth hyn beri gofid i Sidney J. May o Landudoch a ddywedodd mewn cyfarfod yn 1949 fod 'mercheta'r dynion hyn wedi andwyo bywydau teuluoedd'. Ar y llaw arall, roedd pobl yn canmol y Pwyliaid a oedd yn aros yn Aberporth a aeth ati i glirio'r ffyrdd gyda rhawiau pren yn ystod gaeaf caled 1946-47. Mae llai yn gwybod am ymdrechion tua 100 o filwyr Pwylaidd a helpodd i gael gwared â sieliau a bomiau o uwchdiroedd Cymru yn 1950 - cyfraniad sylweddol i Gymru yn y cyfnod wedi'r rhyfel.

Cyrhaeddodd Pwyliaid eraill ar ôl y rhyfel o ganlyniad i gynllun y Gweithiwr Ewropeaidd Gwirfoddol (EVW - European Voluntary Worker), a sefydlwyd gan Weinyddiaeth Lafur Llywodraeth Prydain yn 1946. Roedd y rhaglen EVW yn fesur newydd sbon i ddod â llafur i Brydain o wersylloedd i bobl wedi eu dadleoli yn Awstria a'r Almaen. Roedd cyflogwyr Prydain yn cael trafferth dod o hyd i weithwyr, yn rhannol o ganlyniad i godi'r oedran gadael ysgol o 14 i 15 yn Neddf Addysg 1944, ac fe fu'r EVW yn gysylltiedig ag amryw o ddiwydiannau a gwasanaethau; o byllau glo i waith domestig mewn ysbytai.

Doedd ymateb y gweithwyr Prydeinig i'r newydd-ddyfodiaid hyn ddim bob amser yn gadarnhaol. Roedd glöwyr yn poeni y byddai'r llafurlu o dramor yn disodli statws y gweithiwr cyffredin ym Mhrydain. Roedd y pryder hwn yn ganlyniad i ymdeimlad o ansicrwydd economaidd a oedd yn rhan annatod o feddylfryd y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel byd.

Ym mhentref Oakdale, Gwent, roedd gweithwyr o Bŵyl ac Iwgoslafia yn byw mewn hostel wedi ei adeiladu'n arbennig ar eu cyfer. Roedd cyfrinfa lleol Undeb Cenedlaethol y Glöwyr yn gwrthwynebu'r gweithwyr yma o dramor ac ni chawsant fynd i lawr y pwll nes cenedlaetholi'r diwydiant. Ond yn amlach na pheidio, diflannu wnâi'r amheuon cychwynnol unwaith roedd y Cymru a'r gweithwyr o Ddwyrain Ewrop yn gweithio ochr yn ochr a thir cyffredin wedi ei sefydlu rhwng cydweithwyr. Drwy sefydlu Undeb y Crefftwyr Pwylaidd, oedd â changhennau yn ne-ddwyrain Cymru, yn 1948, dangosodd y Pwyliaid nad gweision bach eu cyflogwyr oedd y mewnfudwyr hyn. Yn ôl Granville Thomas a fagwyd yn Oakdale, nid oedd unrhyw wrthdaro rhynddynt yn y pyllau a rhannai'r Pwyliaid a'r Cymry ddiddordeb mewn pêl-droed. Er hynny, cafwyd mân ffrygydau yng Ngwesty'r Oakdale yn y cyfnod.

Catholigion

Roedd ffydd Gatholig y mewnfudwyr o Bŵyl yn eu gosod ar wahân, yn enwedig mewn gwlad fel Cymru a oedd yn Brotestanaidd yn bennaf. Er i'w ffydd achosi ychydig o densiwn yn yr Alban lle roedd gwrthdaro enwadol yn parhau i chwarae rhan mewn gwleidyddiaeth a bywyd bob dydd ymhell i'r ugeinfed ganrif, nid yw'n ymddangos bod cymaint o wrthdaro ynglŷn â hyn wedi digwydd yng Nghymru.

Mae T.J. Stephens o Gaerfyrddin yn cofio Pwyliaid yn dod i eglwys y Santes Fair i glywed yr offeren mewn Pwyleg yn niwedd y 1950au. Yn Llandysul, lle nad oedd Eglwys Gatholig, cytunwyd mewn cyfarfod preswylwyr yn 1958 i roi Neuadd Tyssul i Gatholigion, llawer ohonynt yn Bwyliaid, ei defnyddio fel man addoli dros dro.

Fodd bynnag, roedd rhai Protestaniaid, yn Llandysul a llefydd eraill, yn dal i weld y cynnydd yn y boblogaeth Gatholig, er mor fychan, yn ddychweliad at 'Babyddiaeth'. Yn 1949, yn Nghyfarfod Cyffredinol yr Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru yng Nghaerdydd, roedd Prifathro Coleg Diwynyddol Aberystwyth yn annog ei gyd fynychwyr i beidio ag eistedd yn ôl 'a gadael i'n gwlad gael ei gymryd gan y ffydd Gatholig heb rywfaint o brotest'.

Pwyliaid Wrecsam

Mae Cwnstabl Keith Sinclair o Heddlu Gogledd Cymru wedi dysgu Pwyleg er mwyn cyfathrebu gyda mewnfudwyr o Wlad Pŵyl sydd wedi symud i Wrecsam a Sir y Fflint.

"Penderfynais ddysgu'r iaith gan fod llawer iawn o Bwyliaid wedi symud i Sir Wrecsam a Sir y Fflint ers i Wlad Pŵyl ymuno â'r Undeb Ewropeaidd yn 2004. Roedd yr ardal yma yn atyniad cryf gan fod digon o alw am waith diwydiannol," meddai.

"Er eu bod yn ymwybodol fod yna iaith Gymraeg, i fod yn onest nid yw rhai yn dysgu Saesneg! Gan fod cymuned Bwylaidd mor fawr yma, mae ganddyn nhw fywyd cymdeithasol da eu hunain. Mae siop a deli Pwylaidd i'w gael yn Wrecsam hefyd."

Yn 1946, daeth mewnlifiad cynharach i ardal Wrecsam pan sefydlwyd ysbyty ym mhentref Penley ger Wrecsam.

"Mae'r Pwyliaid diweddaraf yn bennaf wedi dod i'r ardal oherwydd y cyfleoedd gwaith ac nid oherwydd bod perthynas iddynt yn byw yma." meddai Keith Sinclair. Gefeillwyd Sir Wrecsam gyda Racibórz yng Ngwlad Pŵyl yn 2004.

    Yn fuan wedi iddynt gyrraedd, ffurfiodd y Pwyliaid sefydliadau a helpodd iddynt gadw eu hunaniaeth a chreu cysylltiadau gyda'r gymuned Gymreig oedd yn eu derbyn. Mae'r corau meibion Pwylaidd ac ymweliadau ag ysgolion gan blant Pwylaidd yn cludo anrhegion wedi eu gwneud â llaw adeg y Nadolig yn enghreifftiau o'r pontio oedd yn digwydd o ddiwedd y 1940au ymlaen. I'r mewnfudwyr llai ffodus, yr anabl a'r henoed, oedd heb unrhyw deulu i'w helpu, sefydlodd Cymdeithas Dai'r Pwyliaid gartref yn hen safle'r awyrlu ym Mhenrhos, Gwynedd yn 1949.

    Roedd arweinwyr y gymuned Bwylaidd yn pwysleisio'r cwlwm a deimlent gyda'u gwlad fabwysiedig. Mewn cyfweliad i'r rhaglen Eagles in Exile, a ddarlledwyd gan y BBC yn 1974, dywedodd Colonel Szul o fferm Pen-y-castell ger Llanrhystud nad oedd yn teimlo fel Prydeiniwr, ond ei fod yn teimlo fel Cymro, cyn cymharu'r mynyddoedd, y cyfeillgarwch a chroeso'r Cymry gyda rhai Glwad Pŵyl. Dewisodd Pwyliaid fel Colonel Szul, a oedd yn aml yn sefyll i gael tynnu ei lun yng ngwisg genedlaethol Gwald Pŵyl, ffermio yng ngorllewin Cymru gan ei fod yn caniatáu iddynt ryw elfen o annibyniaeth. Cynyddodd y boblogaeth Bwylaidd yn Sir Gaerfyrddin o 3 yn 1931 i 169 ugain mlynedd yn ddiweddarach.

    Dri deg mlynedd ar ôl darlledu Eagles in Exile, agorodd y farchnad lafur Brydeinig i weithwyr o Wlad Pŵyl. Yn wahanol i Bwyliaid y 1940au, roedd y rhai a gyrhaeddodd ar ôl 2004 yn gallu cadw mewn cysylltiad gyda Gwlad Pŵyl drwy gyfrwng ffôn symudol a'r rhyngrwyd, a dychwelyd i'w mamwlad bryd bynnag y dymunent heb ofni cael eu herlid. Ymddangosodd bwyd Pwylaidd mewn siopau cornel ac ail fedyddiwyd Wrecsam yn 'Warsaw fechan'. Er hynny, yn ôl safonau'r unfed ganrif ar hugain, profwyd caledi gan lawer wrth gymryd swyddi caled am dâl bach.

    Boed yn chwilio am gyfleoedd gwell neu'n dianc rhag rhyfel, mae mewnfudwyr o Bŵyl i Gymru wedi wynebu'r her o addasu i genedl newydd a byw yn bell o'u cynefin.

    Dr Mike Benbough-Jackson


    Mudo

    Mudo

    Pwyliaid Penrhos

    Clip fideo yn dangos Pwyliaid a ymgartrefodd ger Pwllheli.

    Dysgu

    Hen arian

    Ar daith

    Adnodd Hanes i blant oed cynradd am bobl a ymfudodd i bedwar ban byd.

    Y Gymraeg

    Barddoniaeth Taliesin

    Hanes yr iaith

    O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

    Hanes Cymru

    Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

    Creu'r genedl

    Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

    Llywio drwy’r BBC

    BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.