Llechi: Creithiau'r Streic Fawr

top
Bethesda a Chwarel y Penrhyn (Llun: Kath Evans)

Hanes streic fawr Chwarel y Penrhyn 1900-03 gan Grahame Davies.

Mae'r stori hon yn cychwyn fwy na 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl, pan grëwyd caenau llechi gogledd-orllewin Cymru gan symudiadau folcanig a brigwthiadau daearegol anferth.

Yng Nghymru mae hyn yn fwy na gosodiad daearegol syml, oherwydd mae hon yn wlad lle mae daeareg yn wyddoniaeth cymdeithasol; gwlad sydd â'i hanes wedi cydgysylltu'n agos â siâp a gwneuthuriad y creigiau y ffurfiwyd hi ohonyn nhw.

Yn rhannol, y cyfychluniau sy'n gyfrifol. Profodd tirwedd fynyddig Cymru i fod yn rwystr i oresgynwyr Sacsonaidd, yna i Normaniaid, ac fe amddiffynnodd ddatblygiad cymdeithas Geltaidd ar gyrion y genedl-wladwriaeth gryfaf yn y byd yn ei dydd.

Llechi
Llechi wedi eu naddu yn Amgueddfa Lechi Llanberis

Hefyd mae'r cynnwys yn gyfrifol. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, darparodd y mynyddoedd hyn y cyfoeth mwynol a adeiladodd genedl fodern Cymru ac a ddylanwadodd yn fawr ar y strwythur gymdeithasol, y dosbarthiad, y boblogaeth a'r ymddangosiad ffisegol mae'r wlad wedi ei etifeddu heddiw.

Cymoedd de Cymru yw'r esiampl berffaith o hyn, ond mae hefyd yn wir am rannau o orllewin Cymru, o ogledd-ddwyrain Cymru, ac yn enwedig o ardaloedd chwarelyddol gogledd-orllewin Cymru, lle mae gweithiau oriel cenedlaethau o chwarelwyr wedi trawsffurfio'r mynyddoedd i fod yn sigwratau llwyd grisiog.

Yn ei ddydd roedd diwydiant llechi Cymru unwaith yn cyflogi miloedd o bobl, yn anfon ei gynnyrch o gwmpas y byd ar y rheilffyrdd a'r môr, gwnaeth rhai buddsoddwyr yn gyfoethog iawn, a gwnaeth eraill yn fethdalwyr. Yn anterth y diwydiant, yn rhan olaf y 19eg Ganrif, fe drodd yr elw anferth a wnaed o lechi ardaloedd anferth o ogledd Cymru i fath o Klondike Celtaidd, gyda hapfuddianwyr, cwmnïau a grwpiau bychain o weithwyr mentrus yn agor degau o gloddfeydd newydd yn y gobaith o wneud ei ffortiwn o aur llwyd Gwynedd.

Cymunedau Cymraeg eu hiaith

O gwmpas y gweithiau hyn y tyfodd y cymunedau a gyflenwodd y gweithlu - llefydd tebyg i Blaenau Ffestiniog, Talysarn, a Bethesda.

Yn wahanol i ardaloedd glofaol de Cymru a oedd yn ymledu yn ystod yr un cyfnod, doedd yr ardaloedd chwarelyddol ddim yn denu gweithlu o'r tu allan i Gymru i raddau helaeth, ond yn hytrach o ardaloedd gwledig gogledd-orllewin Cymru.

Y canlyniad oedd rhwydwaith o gymunedau a oedd i raddau helaeth yn Gymraeg eu hiaith, ac mae hynny'n dal yn wir heddiw. Roedden nhw hefyd yn anghydffurfiol eu crefydd ac yn radical eu gwleidyddiaeth. Yn y cymunedau hynny roedd arian sbâr prin y bobl - a gâi ei gyfri mewn ceiniogau - yn mynd i adeiladu capeli ac i ariannu addysg gymunedol, yn fwyaf nodedig helpu i sefydlu Prifysgol Cymru.

Castell y Penrhyn
Castell y Penrhyn

Roedd y gwerthoedd hynny mor wahanol i rai perchnogion y chwareli, a oedd, i raddau helaeth, yn geidwadol, yn Saesneg eu hiaith ac yn Anglicanaidd. Roedd eu harian sbâr toreithiog - a gyfrwyd mewn miloedd - yn mynd ar fuddsoddiadau tramor neu ar brosiectau personol fel y castell Penrhyn ffantasi a adeiladwyd ar gyrion Bangor, ac sydd nawr yn adeilad nodedig o eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Roedd buddsoddiadau'r Arglwydd Penrhyn a oedd yr un mor llewyrchus mewn llechi Cymru ac mewn siwgr o'r Caribî wedi ei arwain i roi'r llysenwau 'Sugar' a 'Slate' i'w ferched Emma.

Roedd yna eithriadau i'r rheol wrth gwrs. Roedd yn well gan nifer o chwarelwyr wario'u harian yn y dafarn yn hytrach nag ar gapeli, a doedd pob perchennog chwarel ddim yn rhydd o ysgogiadau dyngarol.

Terfyn ar undebau

Ond roedd y llinellau bai rhwng y ddwy ochr mor ddwfn ac unrhyw raniad mewn strata daearegol, a doedden nhw ddim ond angen cynhyrfiad bychan i'w chwalu ar agor.

Dyna beth ddigwyddodd ym Mis Ebrill 1900, pan wrthododd rheolwr chwarel y Penrhyn yr hawl i'r gweithwyr gasglu taliadau undeb ar diriogaeth y chwarel fel ymgais i roi terfyn ar weithgaredd undebol. Dechreuodd y weithred hon yr hyn a ddatblygodd i fod yn un o anghydfodau diwydiannol hiraf a chwerwaf yn hanes Prydain - anghydfod sy'n dal i atsain hyd heddiw.

Protestiodd rhai dynion am y cyfyngiad ac fe gawson nhw'u diarddel yn syth o'r lleoliad; cerddodd y gweddill allan - bron 3,000 ohonyn nhw.

Cafodd tua 400 eu denu nôl i'r gwaith, ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, gan anrheg o sofren ac addewid o godiad cyflog; fe ddaethon nhw i gael eu galw'n "Fradwyr" gan y streicwyr. Byddai teuluoedd a oedd yn deyrngar i'r streic yn rhoi hysbysiadau yn eu ffenestri yn dweud: "Does dim bradwr yn y tŷ hwn".

Carreg i goffau'r streic ym Methesda
Carreg i goffau'r streic tu allan i gapel Jerusalem, Bethesda. Llun: Kath Evans

Llusgodd y misoedd yn eu blaen. Cafwyd rhai helyntion, a chafodd y Ddeddf Derfysg - a rybuddiai'r protestwyr i wasgaru gan awdurdodi defnyddio grym yr heddlu neu hyd yn oed grym militaraidd petai raid - ei darllen ar un achlysur. Yr un pryd cynhaliodd yr undeb a pherchennog y chwarel, yr Arglwydd Penrhyn, ymgyrchoedd croes calonnau a meddwl byd eang trwy golofnau'r papurau newydd, a fu'n dilyn yr anghydfod â chryn ddiddordeb.

Ond yn y diwedd, nid y calonnau na'r meddyliau a ddatrysodd y mater, ond stumogau gweigion teuluoedd y streicwyr. Aeth y dynion yn ôl i'r gwaith ym mis Tachwedd 1903, gyda'u hundeb yn dal i fod heb ei gydnabod. Roedden nhw wedi para'n gryf am dair blynedd a saith mis.

Enw lle Hebreaidd yw Bethesda, un o nifer a fabwysiadwyd gan bentrefi Cymraeg a oedd â'u crefydd anghydffurfiol yn hoffi menthyg awdurdod a mawredd teitlau Beiblaidd ar gyfer cymunedau yn ogystal ag enwau personol.

Ystyr 'Bethesda' yw "Tŷ Heddwch", ond doedd y gymuned ddim wedi llwyddo i fod yn hynny o bell ffordd yn ystod tair blynedd chwerw'r streic.

Dros ganrif yn ddiweddarach, mae pobl y pentref yn dal i gofio pa deuluoedd oedd yn streicwyr a pha rai oedd yn "Fradwyr".

Iacháu clwyfau hanes

Er bod y diwydiant llechi Cymreig ei hun wedi crebachu i fod yn rhan fechan iawn o'i faint gwreiddiol, mae atgofion a gwerthoedd y diwydiant, a'r cymunedau a ffurfiwyd i'w wasanaethu, yn dal yn fyw.

Mae'r corff o lenyddiaeth sy'n edrych ar yr angerdd a'r gwrthdaro a achoswyd gan y streic wedi tyfu dros y blynyddoedd, ac ym mis Rhagfyr 2003 cyhoeddwyd dau lyfr newydd am y streic yn ystod blwyddyn ei 100ed pen-blwydd. Mae nofel Gymraeg Eigra Lewis Roberts Rhannu'r Tŷ yn adrodd stori'r rhaniadau a achoswyd gan yr anghydfod.

Hefyd mae Gwasg Gomer wedi ailargraffu cyfrol glasurol John Sheridan Jones (newyddiadurwr ar y Daily News) a ysgrifennodd ym 1903 ac sy'n adrodd hanes y streic, What I Saw in Bethesda. Mae'r llyfrau hyn, ac eraill tebyg iddyn nhw, yn dystiolaeth o'r diddordeb parhaus mae'r streic yn ei fynnu.

Pesda Roc

Yn 2003, cynhaliodd grwpiau lleol ym Methesda gyfres o ddigwyddiadau i goffau'r streic, sydd wedi gwneud y gymuned yn le pererindod ar gyfer undebwyr llafur, a'i gwneud yn ddelwedd eiconig o hanes diwydiannol a chymdeithasol Cymreig.

Roedd yna gyngherddau corau meibion, perfformiadau ysgolion, darlleniadau a darlithoedd hanesyddol. Y cyweirnod oedd yr angen i gofio ond hefyd i faddau. Dyfynnwyd geiriau'r awdur Ernest Roberts, hanesydd y streic: "Yr unig beth y gallwn ei wneud heddiw yw edmygu'r rhai a lwyddodd i ddal tan y diwedd, ond rhaid i ni beidio â chondemnio'r rhai a fethodd wneud hynny."

Roedd yna symbolaeth gref o'r awydd i iacháu clwyfau hanes wrth i berchnogion presennol chwarel y Penrhyn, cwmni adeiladu McAlpine, dalu am blac llechen i goffau'r streic, a gafodd ei dadorchuddio fel rhan o'r dathliadau coffau. Fe dalodd y cwmni hefyd am yr arysgrif ar y llechen gan y Prifardd Ieuan Wyn, sy'n darllen:

"Yn dlawd ac mewn dyledion - aeth ystyr
I Fethesda'r galon,
A byw yw co'r henfro hon
O'r helynt a'r treialon".


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.