Barddoniaeth

Yr Oes Arwrol - tua 550 OC i 750 OC

29 Awst 2008

Erbyn yr wythfed ganrif yr oedd y Frythoneg wedi datblygu'n sawl iaith gwahanol, oedd yn cynnwys Cymraeg Cynnar.

Yr oedd gwaith y beirdd Cymreig cyntaf, fel Aneirin a Thaliesin, yn tarddu o draddodiad y derwyddon.

Rhyw bryd rhwng 400 a 700 OC datblygodd pedair iaith allan o'r Frythoneg: Cymraeg Cynnar, Llydaweg, Cernyweg a Chymbrieg, oedd yn cael ei siarad yng ngogledd Lloegr a de'r Alban, ac sydd bellach wedi marw.

O'r ychydig dystiolaeth sydd gennym o'r Frythoneg mae yna debygrwydd â'r Lladin. Yr oedd terfyniadau cyflyrol yn y ddwy iaith, ond fe ddiflannodd y rheini wrth i'r iaith newid. Yn ôl y cyfieithydd Tony Conran mae'n bosib mai adwaith oedd hyn i ymadawiad y Rhufeiniaid a'r goresgyniadau a ddilynodd, wrth i'r pwysedd enfawr ar fywyd ym Mhrydain effeithio ar yr iaith.

Dyma'r Oes Arwrol ac oes y beirdd Cymreig cynharaf. Mae'r hanesydd Nennius yn y 9fed ganrif yn cyfeirio at bum bardd Prydeinig oedd yn enwog yn y chweched ganrif. Yn anffodus nid yw gwaith Talhaiarn Cataguen, Bluchbard a Cian wedi goroesi. Ond mae'r ddau arall, Aneirin a Taliesin, yn cael eu cydnabod fel awduron barddoniaeth Gymreig gynharaf, ac maen nhw'n cael eu hadnabod fel y Cynfeirdd.

Aneirin yw awdur Y Gododdin, sydd i'w gael mewn llawysgrif yn dyddio o'r drydedd ganrif ar ddeg, Llyfr Aneirin, sy'n cael ei gadw yn Llyfrgell Dinas Caerdydd. Mae'r gerdd yn adrodd ymgais drychinebus llwyth y Gododdin, pobl o dde'r Alban sy'n siarad Cymbrieg, i gipio Catraeth yn Sir Efrog o ddwylo llwyth Almaenig tua 595 OC. Lladdwyd bron pob un o'r 300 aeth i'r frwydr. Yr oedd Aneirin ymhlith yr ychydig a oroesodd. Marwnad i'r ymladdwyr yw'r gerdd.

Fel bardd Y Gododdin, nid yw Aneirin yn annhebyg i'r derwyddon oedd yn cadw hanes y llwyth yn fyw. Mae'r gerdd nid yn unig yn ddatganiad artistig ond hefyd yn ddefod sy'n sicrhau na fydd yr ymladdwyr na'u haberth fyth yn mynd yn angof. Mae un o'r rhai a laddwyd yn cael ei gymharu â'r Arthur cyfrin, y cyfeiriad cynharaf yn llenyddiaeth y byd at y person chwedlonol hwn.

Pan oresgynnwyd y teyrnasoedd Cymbriaidd mae'n ymddangos bod eu diwylliant a'u llenyddiaeth wedi dod o hyd i gartref newydd yng Nghymru, mae'n bosib am fod yr uchelwyr a'r mynachod Celtaidd wedi ceisio lloches yno.

Yr oedd siaradwyr Cymraeg yn deall Cymbrieg ac fe ddaeth y Gododdin yn gerdd adnabyddus. Yn wir, mae'r bardd Tywysog Owain Cyfeiliog o Bowys yn y 12fed ganrif yn cyfeirio ati yn ei gerdd Hirlas Owain sydd, yn wahanol i'r Gododdin, yn dathlu buddugoliaeth.

Yn wahanol i'w gyfoeswr Aneirin, mae Taliesin yn cael ei gysylltu â nifer o gerddi. Ychydig o fanylion sydd am ei fywyd ond credir ei fod yn hanu'n wreiddiol o Bowys ac fe symudodd i'r Gogledd lle cafodd ei noddi gan Urien, Brenin Rheged, sef y Cumbria fodern. Mae Taliesin yn gymeriad mythaidd ac yn cael ei bortreadu fel siaman neu gonsuriwr yn chwedloniaeth gynnar Cymru.

Cafodd gwaith y ddau fardd yma ei astudio gan y beirdd a'u dilynodd ac maen nhw'n dal i gael eu hastudio heddiw. Yr oeddent yn feistri ar eu crefft gan ysbrydoli ysgrifenwyr y canrifoedd, ac maen nhw'n taflu goleuni ar yr hyn ddigwyddodd ym Mhrydain ar ôl i'r Rhufeiniaid adael.


Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Eisteddfod

Ceidwad y Cledd, Robin Mc Bryde

Canrif o Brifwyl

Canrif o hanes Cymru a'r byd drwy lygaid yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dysgu

Celtiaid yr Oes Haearn

Celtiaid

Dewch i ddysgu mwy am fyd Celtiaid Oes yr Haearn yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.