Ailgread o frwydrau milwyr Barbaraidd

Mae'r Barbariaid yn dod - tua 350 OC i 500 OC

29 Awst 2008

Wrth i'r Gwyddelod, y Pictiaid a'r Ellmynwyr ymosod ac ymsefydlu ar draws Ynysoedd Prydain, symudodd y llwythau a'r ieithoedd.

Tua diwedd oes yr Ymerodraeth Rufeinig yr oedd ymosod parhaol bron ar Frittania. Yn ystod y bedwaredd a'r bumed ganrif glaniodd y Gwyddelod ar hyd arfordir gorllewinol Cernyw, Cymru a Gorllewin yr Alban.

Yr oedd y Pictiaid o ogledd ddwyrain yr Alban yn ymosod ar ogledd Brittania, tra roedd y llwythau Ellmynig yn croesi Môr y Gogledd yr Eingl, y Saeson a'r Jiwtiaid. Cafodd dyfodiad y bobloedd hyn effaith ar ieithoedd yr Ynys.

Ymosodiadau'r Gwyddelod ar Gernyw oedd, yn ôl pob tebyg, yn gyfrifol am ymadawiad siaradwyr y Frythoneg am ogledd orllewin Ffrainc, oedd bryd hynny dan reolaeth y Rhufeiniaid. A nhw, gyda'r rhai oedd yn dal i siarad Galeg, ffurfiodd Brittany, neu Prydain Fach (Llydaw.) Daeth yr enw Prydain Fawr i fodolaeth er mwyn osgoi dryswch wrth gyfeirio at Brydain Fach.

Ymsefydlodd y Gwyddelod ar hyd arfordir gorllewin Cymru, er mae yna hanes sy'n dweud bod un o benaethiaid y Brythoniaid, Cunedda o dde'r Alban, wedi gorymdeithio i'r de a'u gorfodi i adael gogledd orllewin Cymru.

Arhosodd y Gwyddelod yn ne orllewin Cymru gan deyrnasu yn Nyfed a Brycheiniog, dau enw sy'n tarddu o'r Wyddeleg. Dechreuodd y Cymry ddefnyddio rhai geiriau Gwyddelig, megis cnwc a cadach. Yn ôl pob tebyg bu farw'r Wyddeleg fel iaith fyw yn Nyfed rhywbryd yn y seithfed ganrif.

Cafodd y Gwyddelod well hwyl yn yr Alban. Yn wir, o lwyth yn Iwerddon yn siarad Goedeleg, y Scoti, y daeth yr enw Scotland maes o law. Wedi'r ymsefydliad cyntaf yn y bumed ganrif, y Scoti yn y canrifoedd sy'n dilyn, ddaeth i'r brig yn y wlad, gan ddisodli'r Pictiaid yn y dwyrain a siaradwyr y Frythoneg yn y de.

Yr oedd gan siaradwyr y Frythoneg yng ngogledd Prydain elynion eraill i boeni yn eu cylch yn ogystal. Yn wir, eu brwydrau nhw yn erbyn y llwythau Ellmynig yn Lloegr sydd wedi rhoi i ni y cofnod cynharaf o farddoniaeth Gymreig, a gyfansoddwyd yn eironig felly ymhell o ffiniau presennol Cymru.

Fel yn yr Alban, fe fyddai ymosodwyr estron yn rhoi ei enw ar ran o Frittania a gollwyd i lwythau Ellmynig - Gwlad yr Eingl, Angle Land, sef England.


Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Eisteddfod

Ceidwad y Cledd, Robin Mc Bryde

Canrif o Brifwyl

Canrif o hanes Cymru a'r byd drwy lygaid yr Eisteddfod Genedlaethol.

Dysgu

Celtiaid yr Oes Haearn

Celtiaid

Dewch i ddysgu mwy am fyd Celtiaid Oes yr Haearn yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.