Gwilym Owen a glowyr y de orllewin

top
Gwilym Owen

Mae gen i le mawr i ddiolch i'r cyfaill Sulwyn Thomas. Wna i ddim rhestru'r holl resymau ond un o'r rhai pennaf ydi'r ffaith mai ef aeth â fi i Bontyberem am y tro cyntaf erioed.

Yr esgus dros fynd â fi yno oedd mai yno, yn ei farn ef, oedd y lle gorau i ganfod criw o lowyr Cymraeg parablus, cyfeillgar a deallus. Ac, fel arfer, yr oedd yn gwbl gywir.

Yr ymweliad cyntaf

Mil naw saith dau oedd hi a'r tywydd yn ofnadwy. Doedd glofa Pentremawr ddim yn lle arbennig o ddeniadol ynghanol y niwl a'r glaw. Pwll drifft oedd o, doedd dim siafft yno dim ond glowyr yn diflannu i dwll mawr ac i grombil y cwm.

Ond er mor oeraidd a gwlyb oedd y tywydd; roedd y croeso a'r ymateb â gawsom fel criw ffilmio yn arbennig o gynnes. A'r hyn a'm trawodd yn fwy na dim oedd y gymdeithas glos, gymdogol a fodolai ymhlith y gweithwyr a'r cadernid oedd yn eu sgwrs wrth fynd ati i drafod oblygiadau mynd ar streic yn nyddiau Llywodraeth Ted Heath.

Teimlo'r emosiwn

A dyna fynd yn ôl ddeuddydd yn ddiweddarach i aros y tu allan i Neuadd Pontyberem lle'r oedd y glowyr yn cyfarfod i benderfynu sut i weithredu.

Doeddan ni ddim yn cael mynd i mewn. Roedd hynny wedi ei esbonio inni gan y cadeirydd, William Evans, Carwe, a'r ysgrifennydd, Howard Jones. Ond wrth sefyll y tu allan i'r drysau roedd rhywun yn gallu clywed a theimlo'r emosiwn o fewn y muriau. Doedd dim dwywaith sut roedd y gwynt yn chwythu. Roedd bois Cwm Gwendraeth am sefyll fel un gŵr. Doedd dim plygu i fod!

Ac yn ystod y streic ei hun fe ddaeth criw Pentremawr i'r stiwdio yng Nghaerdydd i gymryd rhan mewn rhaglenni byw a minnau yn gwneud fy ngorau glas i dynnu blewyn neu ddau o'u trwynau. Ond ymdrech gwbl ddiwerth oedd hynny, roedd yr hogiau a'u teuluoedd yn gwbl ddi droi'n ôl.

A thros y blynyddoedd mi gedwais i mewn cysylltiad â nhw wedi iddyn nhw orfod symud i lofa Cynheidre ac, yn ogystal â hynny, fe ddois i adnabod glowyr y Betws ac Abernant a mawr fyddai'r tynnu ar goes y gog hwn a fentrai ddadlau gyda choliars y Gorllewin.

Streic fawr '84

A phan ddaeth streic fawr anffodus '84, yn ôl i'r ardal hon yr awn i ac yng nglofa Cynheidre yr oeddwn i y bore hwnnw pan aeth y bechgyn yn ôl at eu gwaith wedi colli popeth ond eu hunan barch.

Roeddan nhw'n gwybod fod dyddiau'r diwydiant yr oeddan nhw'n aberthu'r cyfan bron drosto wedi eu rhifo gan 'Yr hen wyddeles' yn rhif deg Stryd Downing. Ac ar y stryd ym Mhontyberem y treuliais i'r diwrnod hwnnw gydag uned ddarlledu allanol Radio Cymru.

A diwrnod cymysglyd ei emosiwn oedd o. Rhyddhad ar y naill law fod y cyni a'r dioddef drosodd ond pryder, ar y llaw arall, mai llawenydd dros dro fyddai'r cyfan.

Ond roedd yna groeso yn Caffi Cynnes. Roedd y Gymraeg yn llifo oddi ar wefusau pawb dros baned o goffi a thamaid o fwyd. Rywsut, roeddwn i'n teimlo fod yna ddigon o gadernid yn y cwm i wynebu problemau'r dyfodol.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mi fuais i'n ôl i weld a lwyddon nhw.

Ysgrifennwyd y darn hwn yn wreiddiol ar gyfer gwefan BBC Lleol i Mi yn 2004


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.