Thomas Pennant

top
Thomas Pennant

Naturiaethwr ac awdur toreithiog o'r 18g, sy'n enwog am ei lyfr 'A Tour In Wales'.

Dyddiau cynnar

Sgweiar plasty Downing ym mhlwy' Chwitffordd ger Treffynnon oedd Thomas Pennant, a hynny am ran helaeth o'i fywyd, ac y mae ei lyfr 'The History of the Parishes of Whiteford and Holywell' yn rhoi darlun o'r ardal hon ar droad y 18fed ganrif.

Yr oedd Pennant yn enwog drwy Ewrop ac America drwy ei lyfrau teithio poblogaidd. Hefyd, roedd yn adnabyddus fel naturiaethwr ac yn un o swolegwyr amlycaf ei oes.

Ganwyd Pennant ym 1726 yn Nhre Eden Owain, yr hynaf o bedwar o blant. Bu farw ei frawd yn ei fabandod ym 1728, a ganwyd iddo chwiorydd o efeilliaid y flwyddyn ganlynol.

Dechreuodd ei addysg ffurfiol fel myfyriwr preswyl yn Ysgol Ramadeg Wrecsam pan oedd yn saith oed. Ym 1740 symudodd i Ysgol yn Fulham ac oddi yno, ym 1744, enillodd fynediad i Goleg y Frenhines yn Rhydychen. Yna, ym 1748, aeth i Goleg Oriel - ond yn rhyfedd iawn gadawodd Rydychen heb raddio.

Hanes Naturiol

Cofgolofn i Thomas Pennant
Cofgolofn i Thomas Pennant

Ei ddiddordeb cyntaf oedd daeareg, ac i hybu hyn ymwelodd ag ardaloedd Gororau Cymru, Eryri ac Iwerddon yn chwilio am ffosiliau. Bu hefyd yn cyfnewid enghreifftiau efo casglwyr eraill yn Sisili, Norwy a Sweden, ac y mae gweddillion ei gasgliad bellach yng ngofal yr Amgueddfa Brydeinig - Hanes Naturiol.

Cafodd ei draethodau cyntaf eu cyhoeddi yn Nhrafodaethau Athronyddol y Gymdeithas Frenhinol. Papurau oedd y rhain yn cofnodi canlyniadau arbrofion a wnaeth efo gwahanol fwynau mewn ffwrnais a adeiladodd yn Nowning.

Ei waith mawr cyntaf oedd British Zoology a gychwynnodd ym 1761 ac a'i cyhoeddodd ym 1766. Er i'r cyfanwaith gael ei ysgogi a'i ysgrifennu ganddo i raddau helaeth iawn, y syndod yw, na roddodd Pennant ei enw wrtho.

Rhwng 1769 a 1787 cynhyrchodd sawl cyfrol o bwys ym maes Swoleg - a chyfieithwyd rhai ohonynt i ieithoedd eraill. O ganlyniad i hyn, ym 1791, etholwyd ef yn aelod o Gymdeithas Athronyddol America a chafodd anrhydeddau eraill ledled Ewrop ac America.

Teithiau Thomas

Nicholas Crane yn dilyn taith Pennant

Yn ystod ei oes teithiodd lawer efo'i 'drysor o was' - chwedl Pennant ei hun am ei arlunydd cywrain, Moses Griffith, a hynny yng Nghymru, Prydain a'r Cyfandir ac ym 1778 a 1783 cyhoeddodd mewn tair cyfrol ei waith enwog 'Tours of Wales.'

Ym 1790 cyhoeddodd Account of London - a oedd, yn ôl y cyflwyniad i fod ei waith safonol olaf. Ym 1795 a 1796, fodd bynnag, ysgrifennodd a chyhoeddodd 'The History of the Parishes of Whiteford and Holywell.'

Priododd ddwywaith. Ym 1759 ag Elizabeth Falconer o Gaer - a ganwyd iddynt fab a merch - David ac Arabella. Bu farw Elizabeth, ei briod, yn 1764, o'r frech wen. Ail briododd ym 1777 ag Anne Mostyn, chwaer ei gymydog Syr Roger Mostyn, a ganwyd iddynt hwythau fab a merch, Thomas a Sarah.

Yn ogystal â hyn oll, bu'n sgweiar ac ustus heddwch cydwybodol a dylanwadol yn ei filltir sgwâr fel y tystia'r gofeb fechan hardd iddo yn Eglwys y Plwy', Chwitffordd.

Yn 2007 fe wnaeth y cyflwynwr teledu, Nicholas Crane ddilyn llwybr Thomas Pennant ac ail-greu ei daith yn yr Alban yng nghyfres y BBC, 'Great British Journeys'.

Diolch i Gymdeithas Thomas Pennant am y bywgraffiad yma a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar BBC Lleol.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.