Y Sant John Roberts

top
Sant John Roberts

Merthyr Catholig a gafodd ei wneud yn sant.

Y mab fferm hwn o Drawsfynydd oedd un o ferthyron mwyaf diweddar Prydain.

Magwyd John Roberts yn Nhrawsfynydd, yn fab hynaf i deulu a allai olrhain eu cyndeidiau yn ôl i dywysogion gogledd Cymru.

Cafodd ei eni ar fferm Rhiw Goch ym 1577 ac mae'n debyg iddo gael ei fedyddio yn Eglwys St. Madryn, Trawsfynydd. Credir iddo fyw wedyn naill ai yn y Gelli Goch neu Dyddyn Gwladys, Trawsfynydd.

Addysg

Credir iddo gael ei addysg gynnar gan hen fynach a ddifeddiannwyd o Abaty Cymer, wedi i Harri'r VIII gau'r mynachlogydd ac mae'n amlwg fod teulu John Roberts yn ddigon cefnog i'w anfon i'r coleg.

Saith ffaith ... am John Roberts

John oedd mab hynaf Robert ac Anna Roberts. Ellis, Cadwaladr, Gwen, Margaret ac Ellen oedd ei frodyr a'i chwiorydd.
Mae'n debyg fod Maelgwn Gwynedd, Rhodri Fawr, Hywel Dda, Gruffydd ap Cynan Owain Gwynedd ymysg ei hynafiaid uniongyrchol.
Ymysg ei hynafiaid anuniongyrchol nodir Dewi Sant, Uthr Pendragon, y Brenin Arthur, Owain Glyndŵr, Llewelyn Fawr a Llewelyn ein Llyw Olaf.
Yn Rhiw Goch hefyd y magwyd Robert Lloyd, aelod seneddol cyntaf Meirionydd a chefnder John Roberts.
Ef oedd y mynach cyntaf i ddychwelyd i Loegr wedi i Harri'r VIII ddiddymu'r mynachlogydd.
Ddiwedd y 1950au a dechrau'r 60au daeth nifer o Wyddelod ar bererindod i Drawsfynydd gan gasglu yn neuadd y pentref.
Ar Orffennaf 21, 1960, dathlwyd ei fywyd yn Rhiw Goch a daeth dros fil o Gatholigion o bob rhan o ogledd Cymru yno.

    Ymunodd â Choleg St. Ioan, Rhydychen, ar Chwefror 26, 1595, cyn gadael a mynd i astudio'r gyfraith yn Furnival's Inn, Llundain.

    Cafodd ei fagu yn Brotestant, ond tra'n teithio'r Cyfandir, ymunodd â'r ffydd Gatholig yn eglwys gadeiriol Nôtre Dame, Paris.

    Yna, aeth i Bordeaux ac wedyn i'r Coleg Saesneg yn Valladolid, Sbaen. Wedi blwyddyn yma aeth i Abaty St. Benedict, Valladolid, lle daeth yn aelod o Urdd Sant Benedict yn 1598, gan newid ei enw i Juan de Mervinia er anrhydedd i'w sir enedigol, Meirionnydd. Gwnaeth ei nofyddiaeth yn Abaty St.Martin yn Santiago de Compostella.

    Wedi cael ei ordeinio yn 1602, ac er fod ysbïwyr y llywodraeth yn ei ddilyn, llwyddodd i lanio yn Lloegr i genhadu.

    Yn Llundain, bu'n gweithio gyda chleifion oedd yn dioddef o'r Pla Du am gyfnod.

    Carchar

    Cafodd ei ddal gan yr awdurdodau Protestannaidd bedair neu bum gwaith a chael ei ddedfrydu i garchar ac yna alltudiaeth bob tro.

    Un o'r troeon hyn oedd yn sgîl cynllwyn Guto Ffowc (Brâd y Powdr Gwn) ym mis Tachwedd 1605. Daethpwyd o hyd iddo yn nhŷ gwraig gyntaf Thomas Percy, un o'r cynllwynwyr, a chafodd ei arestio. Er iddo gael ei hun yn ddieuog o unrhyw gynllwyn cafodd eu garcharu am saith mis a'i alltudio eto yn 1606.

    Dramor, sefydlodd briordy i fynachod Benedictaidd Saesnig yn Douai, gogledd Ffrainc, a arweiniodd at sefydlu mynachlog St Gregory yno. Mae'r gymuned hon yn dal i fodoli yn Abaty Downside ger Caerfaddon yn Lloegr, prif ganolfan Benedictaidd Prydain.

    Dychwelodd i Loegr, gan wybod mai dienyddiad fydda'r gosb pe câi ei ddal. Un diwrnod, tra'r oedd yn dal yn ei urddwisg ac yn gorffen yr Offeren, cafodd ei arestio a'i lusgo i garchar Newgate a'i gyhuddo o uchel frad a'i ddedfrydu i farwolaeth.

    Fe'i dienyddiwyd ar Ragfyr 10, 1610, yn 33 oed, trwy gael ei grogi, ei ddadberfeddu a'i chwarteru. Ymgasglodd tyrfa enfawr yn dyst i'r digwyddiad gan iddo ddod mor boblogaidd ymysg y tlodion yn ystod cyfnod y pla.

    Y noson cyn ei ddienyddio, cafwyd gwledd mawr yng ngharchar Newgate i ddathlu ei fywyd.

    Er mai'r arfer oedd i ddadberfeddu person tra'r oedd yn dal yn fyw ni chaniatawyd hynny gan y dorf yn achos John Roberts gan fod ei garedigrwydd yn dal yn fyw yn eu cof. Traddodiad arall oedd bod y dadberfeddwr wedi'r weithred yn dal y galon i fyny gan ddatgan "Wele galon bradwr!". Byddai'r dorf wedyn yn ateb "Hir oes i'r Brenin". Ond y tro hwn roedd y dorf yn fud.

    Sant

    Cafodd ei wneud yn Sant gan y Pab Pawl VI ar 25 Hydref, 1970.

    Mae rhannau o gorff John Roberts wedi eu gwasgaru dros Ewrop.

    Wedi ei ddienyddiad aeth y mynachod â'r corff i Douai yn Ffrainc. Roedd un goes wedi disgyn i ddwylo'r gelyn ond aethpwyd â rhannau o'i gorff i Goleg St Gregory, y coleg yr helpodd i'w sefydlu yn 1606-7.

    Aethpwyd â rhannau eraill o'i gorff i Valladolid a Santiago de Compostella ond diflannodd y rhain yn ystod y Chwyldro Ffrengig a'r Chwyldro Sbaenaidd er bod un o'i freichiau wedi ei darganfod ym meddiant teulu brenhinol Sbaen. Erbyn hyn mae yn Santiago de Compostella.

    Mae bys iddo yn Eglwys y Groes Sanctaidd yng Ngellilydan ac un arall mewn lleiandy yn Tyburn a thrydydd yn Taunton.

    Mae dau lun o John Roberts hefyd yn yr eglwys yng Ngellilydan a llun ohono wedi ei osod yn Valladolid erbyn hyn hefyd.

    Mae dau gerflun ohono yn Abaty Downside, Caerfaddon. Yma hefyd ceir llawer o wybodaeth ysgrifenedig amdano ac mae un o dai'r ysgol wedi ei enwi ar ei ôl. Yn ddiweddar gosodwyd cerflun ohono mewn eglwys ym Mhortiwgal.

    Enwyd Eglwys Gatholig ar ei ôl yng Nghorwen ond erbyn hyn mae wedi ei chau a'i gwerthu.

    Cynhelir gwasanaeth i'w goffáu ar ddiwrnod ei ferthyrdod, Rhagfyr 10, bob yn ail flwyddyn yn Eglwys Gatholig Gellilydan ac Abaty Cymmer.


    Bywyd

    John Charles

    Pobl

    A - Z o fywgraffiadau ac erthyglau am bobl nodedig Cymru.

    Cestyll

    Castell Dolbadarn

    Oriel Cestyll

    Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

    Llywio drwy’r BBC

    BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.