Ruth Ellis

top
Ruth Ellis

Hanes trasig Ruth Ellis, Cymraes o'r Rhyl ag ennillodd ddrwg enwogrwydd fel y ddynes olaf i'w chrogi ym Mhrydain.

O'r Rhyl i strydoedd Llundain

Ar ddiwedd yr ail ryfel byd, wedi ymron i chwe mlynedd o fodoli o dan gysgod bom ac yn sŵn bwled, dechreuodd y byd ddysgu byw unwaith eto. Daeth dynoliaeth allan o'i chuddfannau tywyll gan smicio'i hamrannau yn y golau anghyfarwydd, a theimlai'r genhedlaeth ifanc mai nhw oedd piau'r byd.

Ymhlith y rhai a gredai fod aur ar strydoedd Llundain roedd merch ifanc o'r Rhyl. Yn anffodus, nid cadwyn o aur a ganfu Ruth Ellis o gwmpas ei gwddf ond dolen rhaff.

Ruth Ellis oedd y fenyw olaf i gael ei chrogi'n gyfreithlon yng ngwledydd Prydain, er i filoedd frwydro i geisio arbed ei bywyd, a'i dienyddiad hi fu'n bennaf cyfrifol am ddod â'r defnydd o'r gosb eithaf i ben.

Nid bod Ruth yn gofidio. Roedd arni eisiau marw, a chyda chymorth y gyfraith, gwireddwyd ei dymuniad.

Gallasai stori Ruth fod wedi dod o un o ffilmiau Hollywood - yn wir, yn ddiweddarach trowyd hanes ei bywyd yn ffilm ond rhywun arall, nid Ruth, oedd y seren. Chwilio am freuddwyd ond canfod tristwch fu hanes y ferch hon.

Geni yn y Rhyl

Ganwyd Ruth yn rhif 74 West Parade, y Rhyl, ar 9 Hydref 1926 yn un o ddwy ferch i Arthur ac Elisabeta Hornby, ef yn gerddor teithiol a hithau'n ffoadur rhyfel o Ffrainc.

Bedyddiwyd hi yn Ruth Nielsen, gan fabwysiadu enw proffesiynol ei thad, a phan oedd hi'n ferch ifanc proffwydodd y câi fywyd byr, ond hapus.

Dim ond rhan gyntaf y broffwydoliaeth honno ddaeth yn wir.

Symudodd y teulu i dde Lloegr wedi i'r tad gael gwaith gyda band ac yna i Lundain lle dechreuodd Ruth weithio mewn tai bwyta cyn symud ymlaen i'r clybiau nos fel gweinyddes a dawnswraig.

Yn 16 oed, ganwyd iddi ferch a gadawodd y tad, milwr o Ganada, hi i godi'r plentyn ar ei phen ei hunan.

Er mwyn cynnal ei phlentyn, trodd at fodelu'n noeth mewn stiwdio ffotograffydd, ond mewn gwirionedd putain oedd hi.

Priododd â deintydd o Southampton, ond buan y canfu fod hwnnw'n alcoholig treisgar, ac yna cafodd Ruth swydd rheolwraig ar y Little Club gan Morris Conley, dyn busnes tra amheus a oedd hefyd yn berchen ar glwb Carroll's.

Cariad tyngedfennol

Un o aelodau'r clwb oedd David Blakely. Yn wir, ef oedd y cwsmer cyntaf i Ruth ei gyfarfod yno. Roedd Blakely yn rasio ceir a syrthiodd Ruth mewn cariad ag ef o'r funud y cerddodd ef i mewn i'r clwb.

Dyma'r union fath o ddyn y byddai Ruth yn ffoli arno, yn hardd yr olwg, yn gymdeithaswr di-ail, yn fwli ac yn gachgi.

Ac yntau'n gyn-ddisgybl o Ysgol Breswyl Amwythig, câi ei gynnal gan arian ei dad.

O fewn y flwyddyn roedd Ruth yn feichiog eto a Blakely yn dechrau canlyn merched eraill.

Yn y cyfamser aeth Ruth i fyw gyda dyn arall, Desmond Cussens, gŵr a oedd lawer yn hŷn na hi ac a oedd dros ei ben a'i glustiau mewn cariad â hi, ond roedd Ruth yn methu byw heb Blakely.

Saethu yn y stryd

Ar nos Wener y Groglith 1955 aeth Ruth i chwilio amdano. Gan nad oedd adref ar y pryd, ymosododd ar ei fan, a oedd wedi'i pharcio y tu allan i'w gartref.

Yna, ar y dydd Sul, a Ruth yn dal i chwilio amdano, gyrrwyd Blakely i dafarn y Magdala i brynu cwrw ar gyfer parti.

Pan gerddodd allan, camodd Ruth tuag ato, tynnodd wn llaw o'i bag a'i saethu ddwywaith.

Yna, â Blakely yn gorwedd ar y stryd, saethodd ef ddwywaith neu deirgwaith eto cyn troi'r gwn arni hi ei hun.

Methodd Ruth â'i saethu ei hun, ond ni cheisiodd ddianc.

Cerddodd at ddyn a safai gerllaw a dweud wrtho, 'A wnewch chi alw am blismon?'

'Plismon ydw i,' atebodd y dyn. 'Yna, a wnewch chi, plîs, fy arestio i?' gofynnodd Ruth. Cafodd ei dymuniad.

addefodd ar unwaith mai ei bwriad oedd dod o hyd i Blakely a'i saethu.

yr achos llys cydweithiodd yn llawn â'r erlyniad, ac er iddi bledio'n ddieuog yn ffurfiol, doedd ganddi ddim gobaith.

Heddiw buasai wedi medru pledio cyfrifoldeb lleihaëdig, ple a ddaeth yn gyfraith yn 1957 o ganlyniad uniongyrchol i achos Ruth.

Golygai hynny y byddai'r cyhuddiad o lofruddio wedi cael ei leihau i ddynladdiad ar sail creulondeb Blakely tuag ati.

Cafwyd hi yn euog a'i chondemnio i wynebu'r gosb eithaf.

Lladd mewn gwaed oer

Casglwyd deisebau di-rif yn galw am ddiddymu'r gosb, ond i ddim pwrpas. Roedd hi wedi lladd Blakely mewn gwaed oer ac wedi cyfaddef hynny.

Ei hymateb i'r rheiny a geisiodd achub ei bywyd oedd, 'Rwy'n ddiolchgar iawn, ond rwy'n ddigon hapus i farw'.

Yn rhyfedd iawn, ni aethpwyd ar ôl hanes y gwn.

Sut oedd merch mor fach â Ruth wedi medru dygymod â defnyddio dryll trwm .38 Smith Wesson heb i rywun ei hyfforddi? O ble cafodd hi'r gwn?

Credir erbyn hyn mai Desmond Cussens fu'n gyfrifol am ei roi iddi a'i dysgu i'w saethu, ond gwadu hynny a wnaeth ef.

Crogwyd Ruth Ellis gan y crogwrAlbert Pierrepoint ar 13 Gorffennaf 1955. Dengys yr adroddiad post-mortem iddi farw o ddatgymaliad yr asgwrn cefn, a arweiniodd at fwlch o ddwy fodfedd yn yr asgwrn hwnnw. Cafwyd olion brandi yn ei stumog.

Ar fore ei chrogi cyhoeddwyd erthygl gan Cassandra yn y Daily Mirror a ddaeth yn gyffes ffydd i wrthwynebwyr y gosb eithaf ar draws y byd.

'Mae hi'n ddiwrnod da i gywain gwair,' meddai. 'Mae hi'n ddiwrnod da i bysgota. Diwrnod da i orweddian yn yr haul. Ac i'r rheiny ohonoch sy'n teimlo felly - a thristâf wrth ddweud fod miliynau ohonoch yn teimlo felly - mae hi'n ddiwrnod da i grogi rhywun.'

Newid hanes

Ruth Ellis oedd y bymthegfed fenyw - a'r olaf - i gael ei chrogi ym Mhrydain yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Yn achlysurol ceisiwyd gan ei merch, oedd yn 3 oed pan fu farw ei mam, glirio'i henw a chaniatáu iddi bardwn ar ôl marwolaeth. Dadl ei merch a'i chwaer oedd bod Ruth wedi lladd David Blakely yn wyneb cythrudd ac o ganlyniad i'r trais a achosodd hwnnw iddi. Ond bu pob ymgais yn ofer. O dan ddeddfau'r cyfnod roedd hi'n euog.

Bu'r ferch o'r Rhyl yn anffodus yn ei dewis o ddynion erioed, yn arbennig yn ei dewis o David Blakely.

Fel y dywedodd un o'i chofianwyr, 'Bu farw o gariad tuag at ddyn na haeddai'r cariad hwnnw.'

Mae stori drist Ruth wedi cael cryn sylw yn y cyfryngau, gyda'r ffilm, 'Dance with a Stranger' gyda'r actores, Miranda Richardson yn portreadu Ruth yn llwyddiannus yn 1985, yn ennill gwobr yr Evening Standard am yr actores orau.

Gan Lyn Ebenezer


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.