Llywelyn ap Gruffydd Fychan

top
Cofeb Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn Llanymddyfri

Ar y 16eg o Fedi 1400, cychwynnodd Owain Glyndŵr ar ei frwydr i ennill annibyniaeth i Gymru, brwydr a fyddai'n parhau am un ar bumtheg o flynyddoedd.

Trechodd fyddin Harri IV yn Hyddgen ar lethrau Pumlumon yn haf 1401 ac ymdeithio'n fuddugolaethus i dde Cymru.

Ymatebodd Harri i hyn drwy arwain byddin anferth o Gaerwrangon i gipio Owain a dod â'r gwrthryfel i ben ar unwaith. Cyrhaeddodd ardal Llanymddyfri a gorfodi Llywelyn ap Gruffydd Fychan, tirfeddiannwr o Gaeo a oedd yn ei chwedegau canol, i'w wasanaethu trwy ei gynorthwyo i ddod o hyd i ganolfan Glyndŵr.

Adweinid Llywelyn fel dyn croesawgar a haelionus dros ben ac roedd yn uchel iawn ei barch. Roedd ganddo ddau fab a oedd yn ymladd ym myddin Owain ac roedd yn benderfynol na fyddai byth yn bradychu ei wlad, ei deulu na'i Dywysog. Arweiniodd Frenin Lloegr ar hyd ucheldir y Deheubarth am wythnosau lawer ar drywydd cyfeiliornus i roi cyfle i Owain ddianc i Wynedd lle gallai gryfhau ei achos ymhellach.

Yn y diwedd collodd Harri ei amynedd, a bu'n rhaid i Lywelyn gyfaddef ei fod yn un o ddilynwyr teyrngar Glyndŵr, a'i fod yn ffyrnig o blaid rhyddid i Gymru. O'r cychwyn gwyddai beth fyddai ei dynged, ond roedd yn barod i aberthu ein hun er mwyn i eraill fedru parhau i frwydro.

Yn wallgof gan ddicter a rhwystredigaeth, gorchmynnodd Harri i Lywelyn gael ei lusgo i Lanymddyfri lle cafodd ei ddiberfeddu a'i dynnu'n bedwar aelod a phen yn gyhoeddus wrth y corcben o flaen pyrth y castell. Dioddefodd artaith am oriau cyn iddo farw. Halltwyd ei weddillion a'u danfon i drefi eraill yng Nghymru i'w harddangos er mwyn atal gwladgarwyr rhag ymuno â byddin Owain, ond yn eironig cafodd y weithred farbaraidd hon ddylanwad cwbl groes i'r disgwyl.

Yn wyneb anfanteision milwrol na ellid eu goresgyn, methodd rhyfel annibyniaeth Glyndŵr yn y diwedd. Lloegr oedd biau un o fyddinoedd mwyaf niferus a didostur Ewrop yng nghyfnod y Canol Oesoedd, fel y darganfu'r Ffrancod yn Agincourt rai blynyddoedd yn ddiweddarach ym 1415. Ond ni chafodd Owain ei ddal na'i fradychu - roedd wedi uno'r genedl â'i achos. Am Lywelyn, a wrthodd fradychu ei bobl na derbyn llwgrwobrwyon a breintiau teyrn, gallwn ddweud yn bendant, "ni chafwyd calon ddewrach."

Nodir union safle'r dienyddiad, a ddigwyddodd ar Hydref 9fed 1401, gan blac yn Sgwâr y Farchnad.

Rhobert ap Steffan.


Bywyd

John Charles

Pobl

A - Z o fywgraffiadau ac erthyglau am bobl nodedig Cymru.

Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.