David Lloyd George 1863 - 1945

top
Lloyd George

David Lloyd George oedd un o Brif Weinidogion mwyaf nodedig a lliwgar yr 20fed ganrif a'r unig Gymro i fod yn Brif Weinidog ar Brydain.

Un o'i brif gyfraniadau i wleidyddiaeth a bywyd cymdeithasol Prydain oedd sefydlu'r Wladwriaeth Les.

Enillodd y ffugenwau 'the Welsh Wizard' a 'The Man Who Won The War' gan y cyhoedd am ei waith allweddol ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn ystod trafodaethau heddwch Versailles.

Ganwyd Lloyd George ym Manceinion ar Ionawr 17, 1863, ond pan fu farw ei dad, prifathro o Sir Benfro, flwyddyn yn ddiweddarach, symudodd y teulu yn ôl i Lanystumdwy i fyw gyda brawd ei fam. Roedd Richard Lloyd yn grydd ac hefyd yn weinidog efo'r Bedyddwyr.

Bu'r ewythr hwn a'i syniadau cryf am Anghydffurfiaeth a Rhyddfrydiaeth yn ddylanwad mawr ar Lloyd George.

Wedi disgleirio yn yr ysgol leol a dechrau gweithio fel cyfreithiwr, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Fwrdeistref Caernarfon yn etholiad cyffredinol 1890, a chynrychiolodd yr etholaeth am 55 mlynedd.

Roedd yn cael ei ystyried yn dipyn o radical o fewn y Blaid Ryddfrydol a phan cafodd ei wneud yn Ganghellor y Trysorlys ym 1908 dan lywodraeth Ryddfrydol Herbert Asquith, roedd yn allweddol yn y gwaith o gyflwyno pensiwn gwladol a'r Ddeddf Yswiriant Cenedlaethol 1911, sef sylfaen y Wladwriaeth Les heddiw.

Fe olynodd Asquith fel Prif Weinidog yn 1916, wedi i'r Blaid Ryddfrydol greu clymblaid gyda'r Blaid Geidwadol a chwaraeodd ran bwysig iawn ym muddugoliaeth y Rhyfel Byd Cyntaf a thrafodaethau heddwch Versailles wedi hynny.

Roedd Lloyd George yn areithiwr a siaradwr carismataidd a huawdl ac yn frwd ei gefnogaeth o sefydliadau Cymreig fel yr Eisteddfod Genedlaethol a Chymru Fydd, mudiad oedd yn galw am hunan reolaeth i Gymru.

Roedd ei gefnogaeth naturiol o leiafrifoedd yn golygu iddo wrthwynebu'r rhyfel yn erbyn y Boer yn Ne Affrica a gweithio gyda Sinn Féin yn Iwerddon gan weithredu'r polisi o sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon - ond am bris - sef rhannu'r wlad, y de yn annibynnol a chwe sir yn y gogledd yn parhau dan lywodraeth Prydain - polisi sy'n dal i achosi gwrthdaro hyd heddiw.

Daeth arweinyddiaeth Lloyd George i ben ym 1922 wrth i'r berthynas gyda'r Blaid Geidwadol ddirywio ond parhaodd i fod yn Aelod Seneddol tan 1945.

Cafodd ef a'i wraig, Margaret (Owen gynt) bump o blant:- Gwilym, Mair, Richard, Olwen a babi'r teulu, Megan Lloyd George, a ddilynodd yn ôl troed ei thad i'r byd gwleidyddol a dod y ddynes gyntaf i fod yn Aelod Seneddol Cymreig.

Gofalodd David a Margaret Lloyd George mai Cymraeg oedd iaith yr aelwyd yn Llundain a Chricieth a byddai Margaret yn dychwelyd i'w chartref yng Nghymru i eni ei phlant er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu geni yng Nghymru.

Pan fu farw Margaret yn 1941 priododd Lloyd George â Frances Stevenson, gwraig oedd wedi bod yn gariad iddo ers blynyddoedd. Chwerwodd hyn ei berthynas â rhai o'i blant a gwrthododd Megan fynd i'r briodas.

Bu farw Lloyd George yn ei gartref yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy - sydd bellach yn ganolfan ysgrifennu - ar 26 Mawrth, 1945. Cynlluniwyd ei fedd ar lan yr afon Dwyfor gan Clough Williams-Ellis dan garreg yr hoffai eistedd arni pan oedd yn blentyn.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.