Hywel Dda

top
Rhan o Gyfraith Hywel Dda

13 Rhagfyr 2011

Nid yw Cymru'n brin o'i harwyr; ei brenhinoedd, tywysogion a'i rhyfelwyr. O fytholeg y Mabinogion i ffigyrau o gig a gwaed fel Llywelyn Fawr a Llywelyn ein Llyw Olaf. Ond un o ffigyrau enwoca ein hanes yw dyn sy'n cael ei gofio am adael etifeddiaeth gwâr ar ei ôl, sef y Brenin Hywel Dda a greodd Cyfraith Gwlad wnaeth oroesi am ganrifoedd.

Achau Da

Gellid ddadlau bod y cyfreithiau cafodd eu gosod yng nghanol y 10g wedi cael mwy o effaith nag unrhyw gyfreithiau gan Arweinydd Cymreig mewn hanes.

Mab Rhodri Mawr oedd Hywel Dda, Tywysog Cymreig arall o fri wnaeth lwyddo yn ei ddydd, sef tua diwedd y 9g, i uno nifer o rannau o'r wlad o dan ei arweinyddiaeth cadarn. O ganlyniad methodd y Sacsoniaid hawlio tir yng Nghymru am flynyddoedd lawer. Er i Rhodri lwyddo i gadw'r Llychlynwyr o'r wlad, datblygodd gwlad Lloegr fel rydym yn ei hadnabod heddiw wrth i'r brenhinoedd niferus ar draws Clawdd Offa ddatblygu raddol i fod yn un talaith unedig.

Yng Nghymru roedd pethau'n wahanol. Roedd popeth yn iawn pan oedd Rhodri yn fyw ond pan wnaeth e farw, rhannwyd ei dir rhwng ei feibion yn dilyn y traddodiad Cymreig. A gan fod chwech ohonynt, roedd hyn yn anodd. Gan nad oeddent yn unedig, bu'n rhaid i'r taleithiau Cymreig yma ddatgan gwrogaeth i'r fonarchiaeth Saesneg.

Cyfraith Hywel Dda

Darlun cyfnod o Hywel Dda
Darlun cyfnod o Hywel Dda

Daeth Hywel Dda yn frenin Seisyllwg -sef ardaloedd Ceredigion a Chaerfyrddin heddiw, yn y flwyddyn 900. Trwy briodi'n lwcus, fe hawliodd dir Dyfed ac yna creuwyd brenhiniaeth y 'Deheubarth'. Wedyn, aeth e ati i reoli Gwynedd a Phowys, nes erbyn ei farwolaeth yn 949, roedd cyfran mawr o Gymru wedi ei uno o dan un brenin unwaith eto.

Bwrodd Hywel ati i ddiwygio'r arferion a'r cyfreithiau o wahanol ranbarthau Cymru a'u trawsffurfio'n un cyfraith. Dyma oedd Cyfraith Hywel Dda sydd yn dal yn enwog hyd heddiw.

Mae'r hanes yn dweud bod Hywel wedi galw ei gynrychiolwyr o bob cantref i gynhadledd a gynhaliwyd yn ei gyfrinfa hela yn Nhy Gwyn yn Hen Dy Gwyn ar Daf. Mae dyddiad y gynhadledd wedi ei golli, ond cred haneswyr ei fod wedi cymryd lle dros gyfnod y Grawys yn y 940gau hwyr. Roedd hi'n gynhadledd a hanner ac fe wnaeth hi bara am 6 wythnos! Trafodwyd yr hen gyfreithiau a detholwyd y rhai i'w cadw a'r rhai i'w diwygio. Ysgrifennwyd gyfreithiau newydd hefyd.

Mae gwirionedd a sail y stori hon yn ansicr. Mae'r fersiynau cynharaf o'r Cyfreithiau yn deillio o'r 12g, 200 mlynedd yn ddiweddarach. Mae fersiynau o'r cyfreithiau gwreiddiol, 80 llawysgrif yn Lladin a'r Gymraeg, gyda dau ohonynt, Gwentian Brut a Brut Ieuan, efallai'n tarddu o'r 18g. Yn wir, mae'n amlwg fod pob un o'r Cyfreithiau wedi eu diweddaru'n ddiweddarach.

Agwedd Goleuedig

Er hyn, mae llawer o'r Cyfreithiau yn dal i gynnwys deunydd ag ysgrifennwyd adeg Teyrnasiad Hywel. Ac mae llawer ohonynt yn cael eu hystyried yn oleuedig iawn am y cyfnod. Er enghraifft, roedd Priodas yn cael ei ystyried yn gytundeb, nid yn sacrament crefyddol a chaniatwyd ysgariad trwy gytundeb y ddau barti. Roedd y fenyw'n cael y flaenoriaeth mewn achos o dreisio.

Doedd dim cosb i ladrata -dim ond os mai unig bwrpas y lladrad oedd i oroesi. O dan y Cyfreithiau yma, roedd cael iawndal i'r dioddefwr yn bwysicach na chosbi'r lleidr. Roedd plant llwyn a pherth hefyd yn cael yr un hawliau â phlant a anwyd trwy briodas. Roedd nifer mwy o gyfreithiau, oll yn ymwneud ag ystod eang o fywyd a chymdeithas Cymraeg.

Does dim dwywaith nad oedd rhain yn Gyfreithiau arleisiol ac yn feddylgar a goleuedig eu cynnwys. Erbyn hyn, mae'n anodd dweud faint o gyfraniad cafodd Hywel ei hun i'w creu ond yn sicr roedd yn ddyn addysgiedig a galluog, felly mae yna siawns go dda mai ef oedd yn gyfrifol amdanynt. Roedd ar dermau da gydag Alfred The Great, Brenin Wessex, a chafodd ei ysbrydoli gan esiampl Alfred trwy bererindota i Rufain cyn iddo fynd ati i greu'r Gyfraith newydd. Nid Brenin mewnblyg plwyfol oedd hwn ond dyn diwylliedig yn awyddus i ddysgu o wledydd eraill.

Wedi Hywel

Lleuad haearn ar ben to, a'r haul fel coron dros yr ardd, geiriau yn y llechi llwyd i gofio ysgolhaig a'r bardd; llun enamel o bob lliw - cadw'r cof o hyd yn fyw!

Dathlu Canolfan Hywel Dda

Wedi ei farwolaeth yn 949, gwahanwyd Cymru unwaith eto gyda brwydro rhwng rhanbarthau a phwer y Sacsoniaid a nerth Lloegr yn cyfrannu at ei dymchwel. Yr un peth wnaeth aros am ganrifoedd fodd bynnag oedd Cyfraith Hywel Dda.

Cafodd y cyfreithiau eu gorfodi yng Nghymru am ganrifoedd lawer. Nid nes i Harri VIII basio Deddf yr Undeb yn y 16g cafwyd Cyfreithiau newydd i Gymru. Maent yn cael eu cofio nawr fel cyfres o ddogfenni cyfreithiol oedd yn sicrhau cyfiawnder i bawb.

Ym mis Gorffennaf 2012, llwyddodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru i brynu llyfr o'r 14g yn cofnodi Cyfreithiau Hywel Dda a fu'n golledig am ganfrifoedd yn yr Unol Daleithiau. Prynwyd y llyfr, sydd yn ddiogel i'r genedl yn nawr am £541,250.

Gallwch ddysgu mwy am Hywel Dda yng Nghanolfan Hywel Dda yn Hendy Gwyn Ar Daf lle mae enghreiffitau o'i gyfreithiau wedi eu hail-greu ar lechen ac ar garreg. Mae'r gerddi amrywiol yn y Ganolfan sydd wedi ennill gwobrau hefyd yn cymryd gwahanol gyfreithiau fel ysbrydolaeth. Mae'r ganolfan yn gofeb teilwng i un o arweinwyr enwocaf ein gwlad.


Bywyd

John Charles

Pobl

A - Z o fywgraffiadau ac erthyglau am bobl nodedig Cymru.

Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.