Huw Owen: y rebel o Eifionydd

top
Tân Gwyllt

A oedd gan ŵr o Eifionydd ran yn y cynllwynion i ffrwydro'r Senedd a diorseddu'r brenin gyda Guto Ffowc yn 1605? Yr hanesydd lleol, y diweddar Ioan Mai Evans, fu'n ymchwilio i hanes y rebel Huw Owen o Blas Du.

"Coffa da amdanom yn blant yn llafar ganu 'remember, remember, the fifth of November'. Cofio goleuo'r nos yn fflamau tân gwyllt a lluchio sbarclars gan greu miloedd o sêr diflanedig oedd yn disgyn ar gaeau a gerddi'r plwyf.

"Wydden ni ddim yn iawn am beth oedd yr holl firi, ond mi roedd o yn chwarae plant gwerth chweil coeliwch fi.

"Yn 2005 fodd bynnag, ar gyfer y pumed o Dachwedd roedd 400 mlynedd ers dyddiau cyffrous Guto Ffowc a'r gwrthdaro ffyrnig a fu rhwng y Protestaniaid a'r Catholigion, a'r cyfan yn arwain at Gynllwyn y Powdwr Gwn.

"Cofiwn fel y bu i'r frenhines Elisabeth farw dair blynedd cyn i'r brenin Iago esgyn i'r orsedd yn 1605. Cymerodd y frenhines safbwynt goddefgar at yr ymgiprys oedd rhwng y Catholigion a'r Protestaniaid. Er yn ymwybodol iawn o'r cynllwynio i'w diorseddu yn ffafr Mary brenhines yr Alban, roedd hi am osgoi eithafion crefyddol. Fe'i cofir fel un a ddatganodd ei bod yn gwrthod ochri ond lliniarodd hyn ddim ar agweddau anghymodlawn y Catholigion a'r Protestaniaid, a methiant fu pob cynllwyn i newid y drefn.

"Un o'r rhai amlycaf yn y cynllwynion oedd aelod o deulu Plas Du yn Eifionydd, Huw Owen, y rebel. Wedi ei addysgu yn y Gyfraith, ymddengys iddo fod â rhan mewn cynllwynion fel yr un i geisio lladd y frenhines Elisabeth. Gorfu iddo adael y wlad hon am y cyfandir, gan y rhoesai llywodraeth Prydain unrhyw beth am gael gafael ar Huw Owen, y bradwr.

"Swatiodd ar y cyfandir yn gefn dylanwadol i'r alltudion Catholig ac yn ysbïwr o gryn bwys ar bensiwn i frenin Sbaen. Bu hefyd yn Brussels lle y bu'n swyddog ar faterion yn ymwneud â Lloegr i lywodraeth yr Iseldiroedd.

"Erbyn cynllwyn Guto Ffowc roedd pob swyddog o Gyfrin Gyngor llywodraeth y wlad hon ers marw y Frenhines Elisabeth yn ysu am gael gafael yn y bradwr, ac yn fwy byth wedi Cynllwyn y Powdwr Gwn, gan i Guto Ffowc ei hunan addef ei fod wedi dadlennu manylion y cynllwyn i Huw Owen.

"Faint o negeseuon ddaeth oddi wrth Huw Owen, at ei frawd Thomas Owen, yn y Plas Du mae'n anodd dweud, nac ychwaith sawl offeiriad Pabyddol a Chatholigion a ddeuai trosodd o'r cyfandir ar eu hymgyrchoedd cenhadol yn y gogledd.

"Yn y Plas, roedd grisiau cerrig yn arwain at guddfan lle y byddid yn llochesu'r Catholigion oedd mewn perygl oherwydd eu hymlyniad wrth yr hen ffydd Gatholig.

"Roedd arwyddion fod Thomas Owen ei hunan yn cefnu ar fynychu eglwys y plwyf yn Llanarmon ac fe'i carcharwyd oherwydd ei gefnogaeth i'r Catholigion.

"Amser maith cyn Brâd y Powdwr Gwn fe ddaliwyd gwas i Huw Owen, yn derbyn llythyrau yn y Plas Du. Ymddengys fod y llythyrau wedi eu cuddio yng ngwadnau esgidiau'r gwas. Credir iddo lyncu un o'r llythyrau a fyddai wedi bod yn ddigon i'w arwain i'r crocbren.

"Ni feiddiodd yr arch gynllwyniwr Huw Owen roi ei droed ar dir Prydain. Ymneilltuodd i'r Coleg Seisnig yn Rhufain, ac yno y bu farw yn 1618 yn ddi-briod.

"Mae cofeb iddo yn y Coleg. Ar ddiwedd y dydd troes Thomas Owen yn Brotestant fel yr aelod arall o'r teulu, y galluog John Owen, yr epigramydd.

"Cymro a welodd ac a deimlodd i'r byw dros yr ymgiprys oedd Richard Hughes o Lanbedrog, Llŷn, lle mae wedi ei gladdu. Bu ef yn uchel yn y Llys Brenhinol yn amser teyrnasiad Elisabeth a Iago 1. Cydnebid ef fel un o'r Writers of the Art of Poetry a phan oedd y frenhines yn bur wael dyma fel y canodd Dic Huws, y ffwtman:

Hwylus yw f'wllus fellu-dehellwch
Nid alla scrifennu,
Gwan yw mhen gwau fi am hynnu,
Rwyn brudd rhag ofn y dydd du."

Ioan Mai Evans


Bywyd

John Charles

Pobl

A - Z o fywgraffiadau ac erthyglau am bobl nodedig Cymru.

Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.