Cennin Pedr - Feuillu, Flickr

Dydd Gŵyl Dewi

Dydd Gŵyl Dewi ar Fawrth 1af yw diwrnod dathlu cenedlaethol y Cymry sef dyddiad gŵyl eu nawddsant, Dewi Sant.

Mae'n debyg i Dewi ddod yn nawddsant i'r Cymry am fod cynifer o eglwysi hynafol Cymru wedi eu cysegru iddo a'i Ŵyl Mabsant yn cael ei dathlu mewn mwy o eglwysi nag unrhyw un o'r seintiau eraill.

Mae rhai yn honni fod Mawrth 1af, dyddiad ei farwolaeth, wedi ei ychwanegu i galendr yr Eglwys pan ganoneiddwyd Dewi gan y Pab Callistus II yn 1120 ond mae'r dyddiad yn cael ei nodi fel Dydd Gŵyl Dewi mewn llawysgrifau Gwyddelig o'r 9fed Ganrif hefyd.

Roedd llawer o bererindodau gael eu gwneud i Dyddewi. Mae rhai pobl yn dweud y byddai dwy bererindod i Dyddewi yn cyfateb i un bererindod i Rufain, a thair yn cyfateb ag un i Jerwsalem.

Mae gan bobl lawer o ffyrdd gwahanol o ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, ac yng Nghymru, bydd llawer o blant yn gwisgo'r wisg Gymreig - y merched mewn sgert a betgwn wlanen, ffedog a siôl, a'r het ddu uchel, a'r bechgyn mewn crys, gwasgod wlanen, trowsus tri-chwarter a sannau hir, a chrafat o amgylch eu gyddfau.

Gwisg Gymreig, cenhinen a chenhinen pedr Bydd pobl yn gwisgo cenhinen bedr neu genhinen ar y diwrnod, er nad oes neb yn gwbl siwr pam fod y llysieuyn a'r blodyn yma yn ddau o symbolau cenedlaethol Cymru. Mae sawl damcanieth yn ymwneud â'r genhinen, gan gynnwys iddo gael ei ddefnyddio ar lifrau milwyr y Cymry mewn brwydr yn erbyn y Sacsoniaid er mwyn gwahaniaethu rhwng y ddwy ochr - ac i'r Cymry gael buddugoliaeth ysgubol yn y frwydr.

Mae'r cysylltiad â'r genhinen bedr hyd yn oed yn fwy anelwig, ac mae'n bosib ei fod yn deillio o ddryswch rhwng y genhinen a'r genhinen bedr beth amser yn ôl, gan fod enwau'r llysieuyn a'r blodyn yn debyg i'w gilydd.

Gorymdeithio i ddathlu'r diwrnod Erbyn hyn, caiff gorymdaith flynyddol ei chynnal yng Nghaerdydd fel rhan o'r dathliadau, ble mae cannoedd o bobl yn gorymdeithio trwy strydoedd y brifddinas - rhai mewn gwisg Gymreig, ac eraill yn chwifio baneri'r Ddraig Goch, Owain Glyndŵr, neu Ddewi Sant.

Er fod cyngherddau, nosweithiau llawen, ciniawau a phartion yn cael eu cynnal mewn sawl rhan o Gymry ar Fawrth 1af, mae'r digwyddiadau yn cael eu trefnu ymhob cwr o'r byd fel rhan o'r dathliadau. Yn 2006 yn yr Unol Daleithiau er enghraifft, cydnabyddwyd Dydd Gŵyl Dewi yn swyddogol fel diwrnod cenedlaethol y Cymry, ac ar y cyntaf o Fawrth cafodd yr 'Empire State Building' ei oleuo mewn coch, gwyn a gwyrdd.

Ymgyrchu i gael y diwrnod yn ddydd gŵyl banc swyddogol Ers sawl blwyddyn bellach, mae pobl wedi bod yn ymgyrchu i gael Dydd Gŵyl Dewi yn ddydd gŵyl banc swyddogol yng Nghymru. Yn ôl arolwg a wnaed yn 2006, roedd 87% o bobl Cymru yn cefnogi'r syniad, a 65% yn fodlon aberthu gŵyl banc arall i sicrhau hyn (Wikipedia).

Danfonwyd deiseb at Lywodraeth San Steffan yn 2007 yn galw arnynt i wneud Mawrth 1af yn ddydd gŵyl banc swyddogol yng Nghymru, ond gwrthodwyd yr awgrym.

Darllenwch am fywyd Dewi Sant.


Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Dysgu

Celtiaid yr Oes Haearn

Celtiaid

Dewch i ddysgu mwy am fyd Celtiaid Oes yr Haearn yng Nghymru.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.