Y Brenin Arthur

top
Portread o'r Brenin Arthur

Stori Brenin chwedlonol Camelot, y Brythoniaid a'r teyrnasoedd Celtaidd a'i gysylltiadau gyda Gogledd Ddwyrain Cymru. Mae ei chwedl wedi goroesi am dros bymtheg canrif. Beth yw'r rheswm am apel oesol y Brenin Arthur?

Brenin Cernyw?

Tybir i Frenin y Rhamantau Arthur gael ei eni yng Nghernyw yn y 5g er iddo lywodraethu o Gaerwynt a'i gladdu yn Glastonbury. Ond ymhell cyn bod sôn am y rhamantau canoloesol hyn, fe gysylltid Arthur â sawl lle yng Nghymru meddai Scott Lloyd, arbenigwr ar Hanes Cymreig y Brenin hwn.

Yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, mae yna sawl safle yn gysylltiedig ag enw Arthur. Un o'r rhai enwocaf ydy Maen Huail yn Rhuthun. Yn ôl y traddodiad, roedd dyn or enw Huail mewn cariad gyda'r un ferch ag Arthur ac fe frwydrodd y ddau amdani hi. Niweidwyd Arthur a thynnodd Huail lw na fyddai'n cyfeirio byth eto at y digwyddiad.

Yn ddiweddarach roedd Arthur yn dawnsio ar achlysur o ddathlu yn Rhuthun ac roedd Huail yn gwylio a dywedodd am Arthur y byddai'n dawnsio'n iawn oni bai am y cloffni! Roedd Arthur mor flin bod Huail wedi torri'r llw nes iddo dorri ei ben ar garreg gyfagos. A dyma'r garreg a adnabyddir heddiw fel Maen Huail a gellir gweld y garreg ar y sgwâr yn Rhuthun.

Mae'r un stori yn cyfeirio at lys Arthur yng Nghaerwys ger Treffynnon ac at gapel sef Capel y Gwial yn Nannerch ger yr Wyddgrug, safle sydd bellach ar goll.

Carreg Arthur

Llun cyfnod o'r Brenin Arthur
Llun cyfnod o'r Brenin Arthur

Ar ochr y ffordd ger Loggerheads Country Park ger yr Wyddgrug, mae carreg a adnabyddir fel Carreg Carn March Arthur sydd yn ôl y sôn yn dangos ôl carn un o geffylau Arthur wrth iddo neidio o graig er mwyn dianc rhag y Saeson.

Yn y bryniau uwchben Llansannan, ger Dinbych, mae yna safle cerrig go drawiadol o'r enw Bwrdd Arthur a gellir gweld safle arall o'r un enw ym mynyddoedd y Berwyn uwchben Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Mae yna sawl cysylltiad Arthuraidd ym mryniau Clwyd hefyd megis y bryngaer ar ben Moel Arthur ac yn ôl traddodiad fe gladdwyd Caledfwlch, ei gleddyf enwog, dan garreg ar ben y bryn cyfagos Pen y Cloddiau.

Mae cerdd or 13eg ganrif yn sôn am un o frwydrau Arthur ar y bryn agosaf at Foel Famau sef Moel Fenlli, cartref unben creulon o'r enw Benlli a roddwyd ar dân ar gais Sant Germanus.

Mae ardal Llangollen hefyd yn frith o gyfeiriadau at Arthur megis Craig Arthur, y graig fwyaf yn nyffryn Eglywseg, Croes Gwynhwyfar sy'n cyfeirio efallai at ei wraig sef merch Ogrfan Gawr oedd yn byw yn y bryngaer ger Hen Groesoswallt.

Y Greal Sanctaidd

Fe ddywedid un tro i'r Greal Sanctaidd gael ei gladdu yng nghastell Dinas Bran uwchben tref Llangollen ac mae rhai'n honni ei fod yno o hyd mewn ogof yn ddwfn dan y castell.

Yn ôl llawer claddwyd Arthur yn Afallon neu Avalon ond cyfeirir mewn sawl testun at Afallwch ac yn Rhosesmor mae yna fryngaer o'r enw Caerafallwch. Felly, oes cysylltiad yma?

Roedd Arthur yn Frenin cofiadwy am nifer o resymau. Ef oedd y ffigwr mawr yn y frwydr rhwng y Prydeiniaid a'r Sacsoniaid. Cred rhai ei fod yn perthyn i'r traddodiad Rhufeinig, gan fod gan y Rhufeiniaid swyddog -y ' Dux Britanniarum' (Dug Prydain) - arweinydd y wlad oedd wedi ei benni gan y Rhufeiniaid i warchod eu tir Prydeinig.

Mae yna lu o leoedd ym Mhrydain yn coffau Arthur sy'n awgrymu ei fod yn dal swydd fel Dug Prydain. Cafodd ei lwyddiant mwyaf yn 496 AD yn Mons Badonicus, safle yn Sussex neu ger Bath. Fe wnaeth y fuddugoliaeth lwyddo i atal y Sacsoniaid am agos i hanner canrif.

Ymerawdwr neu Frenin?

The Lady of Shallott
The Lady of Shallott-William Waterhouse

Mae'n llai eglur os oedd Arthur yn frenin neu'n ryfelwr. Credwyd ei fod yn arweinydd y nerthoedd Brythonig a chafodd ei ladd yn dilyn brwydr Camlann tua 515.

Yn llawysgrifau Cymreig am Arthur, mae e byth yn cael ei adnabod fel 'Brenin'. Mae'n cael ei adnabod fel 'ameraudur' (neu ymerawdwr). Mae yna gonsensws nawr ei fod yn Arweinydd Rhufeinig-Prydeinig yn amddiffyn Cymru rhag yr Eingl-Sacsoniaid yn y 5g diweddar neu'r 6g cynnar.

Mae mytholeg Arthur yn gyfoethog iawn. Mae yna hanesion ei fod wedi tynnu cleddyf o garreg o'r enw 'Caliburn' o garreg. Mae un fersiwn o'r chwedl yn son fod y gleddyf wedi ei chreu yn Afallon o garreg o Avebury neu Stonehenge. Pwy bynnag oedd yn llwyddo i dynnu'r gleddyf o'r garreg oedd gwir Brenin Prydain. Coronwyd Arthur yng Nghaerleon medd y chwedl hon.

Mewn fersiwn arall, arweiniodd y Brenin Ambrosius Aurelianus frwydr yn erbyn y Sacsoniaid ar fryn Badon. Lladdwyd Aurelianus a chafodd ei nai, Arthur, reolaeth o'r frwydr gan ei hennill. Achubwyd Arthur gan hud a lledrith y Dewin Myrddin, (o Gaerfyrddin medd chwedlau Cymru). Yna cafodd Arthur gleddyf newydd, yr 'Excalibur' enwog a gwain wrth Niumue, y Ferch yn y Llyn yn Afallon. Roedd y gwain yn hudol ac rhoi pwer anfeidrol i Arthur dim ond iddo ei gadw amdano.

Camelot a'r Bwrdd Crwn

Amffitheatr Caerleon
Amffitheatr Caerleon

Roedd gan Arthur dair hanner chwaer, oedd, meddai'r chwedlau, yn meddu ar bwerau hudol. Syrthiodd Arthur mewn cariad gydag un ohonynt, heb wybod ei bod yn hanner chwaer iddo. Cafodd y ddau fab, Mordred, ac roedd Arthur yn gandryll pan wnaeth e ddarganfod hyn. Gorchmynodd i bob baban gwrywaidd a anwyd ar yr un diwrnod i gael eu tywys i Gaerleon. Cafodd y babanod eu rhoi ar long a'u tywys allan i'r môr yn y chwedl. Drylliwyd y llong yn erbyn y creigiau ond fe wnaeth dyn achub Mordred a rhoi cartref iddo. Dychwelodd Mordred i'r llys yn ddiweddarach a chafodd ei dderbyn gan ei dad.

Wedyn syrthiodd Arthur am fenyw arall, Gwenhwyfar (Guinevere), merch Maelienydd yn Ne-Ddwyrain Cymru. Roedd gwaddol Gwenhwyfar yn cynnwys y 'Bwrdd Crwn' (Round Table) byd enwog a nifer o farchogion. Sefydlodd Arthur ei lys yn Camelot. Mae yna amwysedd am leoliad 'Camelot'. Credai'r Clerig enwog Gruffudd ap Arthur, y Sieffre o Fynwy, (Geoffrey of Monmouth), taw Caerleon oedd gwir lys Arthur. Ysgrifennodd Gruffudd yr 'Historia Regum Britanniae' enwog yn y 12g oedd yn disgrifio llys Arthur ac yn hawlio taw Caerleon oedd y gwir leoliad.

Fodd bynnag, roedd Camelot yn enwog am ei athronyddiaeth o gyfiawnder a thegwch. Doedd yr un marchog yn 'well' na'r llall. Roedd y Bwrdd Crwn yn symbol o gyfiawnder gan nad oedd un marchog yn medru eistedd ar 'ben' y bwrdd oherwydd ei siap crwn. Un rheol wrth y bwrdd oedd nad oedd hawl gan neb i ddechrau bwyta nes iddynt adrodd stori am antur mentrus.

Cysgod dros Camelot

Draw dros y don mae bro dirion nad ery cwyn yn ei thir, ac yno ni thery na haint na henaint fyth mo'r rhai hynny a ddêl i'w phur...

Afallon T.Gwynn Jones

Dywed hefyd i'r marchogion drefnu cwest am y Greal Sanctaidd (Holy Grail), Cwpan Cymun enwog o Swper Olaf Crist, a oedd medd yr hanes wedi dalu gwaed Iesu.

Ond daeth cysgod dros Camelot wrth i Gwenhwyfar fradychu Arthur gyda'r marchog arwrol, Syr Lancelot. Mae mab Arthur, Mordred, sydd bellach yn ddyn ifanc yn dod o hyd i Gwenhwyfar a Lancelot ym mreichiau ei gilydd ac yn rhannu'r newyddion gyda'i dad. Mae Arthur yn mynnu bywyd Gwenhwyfar ond ar y funud olaf mae Lancelot yn ei hachub. Mae Arthur yn eu cwrso i Ffrainc a thra bod ei dad i ffwrdd, mae Mordred yn cipio gorsedd ei dad.

Mae hyn yn arwain at Frwydr Camlann sy'n digwydd tua 537. Pan ddaw'r frwydr i ben, dim ond Mordred, Arthur a Syr Bedivere sy'n goroesi. Mae'r tad a'r mab yn ymladd nes i Mordred gael ei drywanu i farwolaeth ac mae Arthur hefyd wedi dioddef ergyd farwol. Gofynna Arthur i Syr Bedivere i daflu ei gleddyf Excalibur i mewn i lyn. Yna mae'r Brenin yn cael ei dywys mewn llong i ynys Afallon mewn llyn lle mae'r merched hud yn barod i'w dywys i ogof lle mae'n dal i gysgu hyd heddiw, yn aros am yr alwad i ddychwelyd i'w wlad.

Yn y 19g cafwyd adfywiad yn y diddordeb yn Chwedlau Arthur gyda barddoniaeth fel 'Idylls of the King' gan Tennyson a 'The Defence of Guinevere' gan William Morris yn poblogeiddio'r straeon. Wrth gwrs cyhoeddwyd y gyfrol fythol enwog, Sir Thomas Malory 'Le Morte d'Arthur' yn 1486 oedd yn ysbrydoliaeth i artistiaid a lleonorion y 19g.

Creodd artistiaid y cyfnod 'Pre-Raphaelite' luniau pwerus o Chwedl Arthur, fel Rossetti a'r 'Lady of Shallott' byd-enwog gan John William Waterhouse wnaeth gadw'r stori'n fyw hyd heddiw.

Does dim rhyfedd felly bod hanes Arthur wedi swyno'r dychymyg dros y canrifoedd. Cariad, brad, y Camelot rhamantaidd ac oes arwrol a fu. Mae ffilmiau a llyfrau di-ri wedi eu cynhyrchu am y stori. Ac yn wir bydd stori Arthur yn dal i'n hudo am ganrifoedd lawer i ddod.

Diolch i'r awdur Scott Lloyd, cyd-awdur y gyfrol, 'The Keys to Avalon' am gyfrannu i'r erthygl hon ag ymddangosodd ar ffurf llai ar wefan 'BBC Lleol' yn wreiddiol.


Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Dysgu

Celtiaid yr Oes Haearn

Celtiaid

Dewch i ddysgu mwy am fyd Celtiaid Oes yr Haearn yng Nghymru.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.