Stori Salem

top
Salem

Hanes llun enwog Vosper, 'Salem'.

Diwrnod y Farchnad
Diwrnod y Farchnad gan Vosper

Cyn dyfodiad y peiriant golchi, ar ddydd Llun ran amlaf y deuai'r celwrn, y brwsh sgwrio, y golchwr a'r lliw glas i'r amlwg, heb anghofio'r peth pwysicaf oll sef y sebon 'Sunlight'.

I'r rhai a arferai wneud golchiad mawr, byddai prynu sebon fesul pecyn o ryw ddeg pwys yn llawer rhatach, ac ar ben hynny byddai rhodd yn dod yn sgîl y pryniant: pethau fel gwniaduron, siasp i'ch helpu i roi eich esgidiau am eich traed, pensiliau a rhyw fân geriach eraill, ond, heb os nac oni bai, y pwysicaf ohonynt oedd print o lun Salem, a baentiwyd ym 1908 gan yr arlunydd Sydney Curnow Vosper.

Tybed sawl un o'r rhain sydd yn ein haelwydydd heddiw? Heb amheuaeth, mae i bob llun ei stori ond i ni fynd ar ei thrywydd. Cawn ddechrau yn yr achos hwn gyda'r arlunydd a anfarwolodd hen gapel bach Salem a saif ar gyrion Cwm Nantcol ym Meirionnydd.

Sgets Salem o Gasgliad y Werin

Cafodd Vosper ei eni ar y 29ain Hydref, 1866 yn swydd Dyfnaint. Dechreuodd brentisiaeth bensaernïol ond, ar ôl tair blynedd, trodd ei olygon am Baris er mwyn astudio Celf, ac wedi iddo ddychwelyd rhoes ei amser yn llawn i arlunio a phaentio mewn dyfrlliw. Gwelwyd arddangosfeydd o'i waith mewn llawer oriel ledled y wlad. Ond ychydig a feddyliai pan deithiodd i ogledd Cymru, ac i olwg Capel Salem, y byddai hyn yn drobwynt yn ei fywyd ac y deuai yn enwog o'i herwydd.

Pan welodd y capel, sylweddolodd Vosper fod ganddo destun rhagorol: y cyfan oedd arno'i eisiau oedd cynulleidfa oddi mewn i'r muriau. Cred llawer ar ôl gweld y llun oedd mai cynulleidfa arferol y capel a gafodd ei phortreadu ond nid yw hynny'n wir: modelau a gafodd dâl o ychydig sylltau yr un am eistedd i'r arlunydd yw cymeriadau Salem!

Y prif gymeriad oedd hen wraig o'r enw Siân Owen, Ty'n-y-Fawnog, wedi ei gwisgo mewn siôl frethyn liwgar y dywedir bod wyneb y diafol i'w weld yn ei phatrwm a'i phlygiadau. Ai damwain oedd i'r hen frawd ymddangos ynteu a ydoedd wedi ei osod yno yn fwriadol gan yr arlunydd? Ac os felly, tybed mai gwawdio duwioldeb oedd ei fwriad? Beth bynnag, gwadu wnaeth Vosper pan y'i cyhuddwyd o fod wedi bychanu crefydd.

Cwestiwn arall a ofynnwyd oedd: paham fod Siân Owen wedi troi ei chefn ar y gynulleidfa ac yn wynebu'r drws? Os oes gennych lun Salem, edrychwch ar yr amser ar y cloc: mae'n bum munud i ddeg, sef bron yn amser i'r oedfa ddechrau. Beth oedd amcan portreadu yr hen wraig fel petai wedi ei throi allan? Sarhad ychwanegol efallai.

Heblaw am Siân Owen, gwelir saith cymeriad arall yn y llun, sef Robert Williams, hen wr defosiynol yn ôl y sôn (yn eistedd dan y cloc ar y chwith); Laura Williams, Llanfair (mae hi bron yn guddiedig y tu ôl i ysgwydd Siân Owen); William Siôn (yn eistedd o dan y ffenestr) ynghyd â'i frawd Owen Siôn (ar y dde â'i ben yn ei ddwylo), dau hen gymeriad o Lanfair; Evan Edward Lloyd, Llanbedr (y bachgen sydd yn y gongl ar y dde); Mary Rowlands (sydd yn eistedd wrth ochr y bachgen) a Leusa Jones (yn eistedd yn unionsyth yn y sedd o'u blaenau a does ryfedd ei bod hi mor syth gan mai delw teiliwr ydyw, a Vosper a'i henwodd yn Leusa Jones!). Roedd y modelau oll yn derbyn chwe ceiniog am eu trafferth gan Vosper.

Ar y ddelw yma yn ddiweddarach y gosodwyd y siôl er mwyn trefnu'r plygiadau i Vosper gael tynnu ei llun. Go brin y buasai unrhyw berson byw wedi medru aros yn ddigon llonydd am oriau iddo fedru manylu ar y patrwm a'r lliwiau ac, o bosibl, creu wyneb y diafol.

Siân Owen, Ty'n-y-Fawnog, yw'r hen wraig a wisgai'r siôl a'i hurddas benthyg, hen wreigan seml a chadarn fel y graig uwch Cefn Cymerau, lle'r addolant hwy.

T Rowland Hughes

Er mai yng nghyfnod Victoria y paentiwyd yr olygfa, mae het gorun uchel Siân Owen a'r merched eraill yn perthyn i'r ddeunawfed ganrif, a'r gwir amdani yw mai yr un het a ddefnyddiwyd gydol yr amser gan ei phasio o un ferch i'r llall, pob un yn ei thro. Dyna i chi ryddid yr arlunydd (artist's licence) i wneud fel y mynn!

Rhoddwyd benthyg y siôl gan Mrs Williams, priod ficer Harlech, gwraig a arferai wisgo yn foethus, ac roedd hi'n wahanol iawn i'r siôl a wisgid yn arferol gan wraig Ty'n-y-Fawnog. Cafodd Siân Owen ei phortreadu fel hen wraig sur ac annifyr ei byd: hawdd dychmygu hynny o edrych ar ei llun. Y gwir yw mai gwraig addfwyn, siriol a chariadus ei natur ydoedd: esiampl arall o ryddid yr arlunydd.

Bu farw Siân Owen ym Mehefin 1927 wedi cyrraedd yr oedran teg o nawdeg o flynyddoedd. Claddwyd hi ym mynwent eglwys Llanfair, Harlech ac nid yn Salem fel y disgwylid. Cafodd ei chwestiynu lawer gwaith ynghylch ffurf y diafol ar ei siôl a bu hyn yn boendod iddi. A gwadu ei fod wedi portreadu'r diafol yn y siol wnaeth Vosper tan ddiwedd ei oes! Efallai fod arwyddocâd ym meddargraff Siân Owen:

"Cystuddiwyd fi yn ddirfawr: bywha fi

"O! Arglwydd yn ôl dy air."

Yn anffodus nid yw'r llun yn eiddo'r Cymry mwyach. Yn Oriel Gelf Lady Lever yn Port Sunlight y mae'n cael ei arddangos, ar Benrhyn Cilgwri. Ac er mae na alw wedi bod i'w ddychwelyd i Gymru, does dim arwydd hyd yn hyn y bydd y diafol yn y siol yn croesi Clawdd Offa yn fuan.

Gwilym Jones

Cyhoeddwyd yr erthygl yma'n wreiddiol ar wefan BBC Lleol.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.