Pibau Cymreig

top
Ceri Rhys Matthews yn canu'r Pib (Idris Jones)

Mae'r Alban yn enwog am ei phibau - ond beth am Gymru?

Gyda'r Alban yr ydyn ni'n tueddu i gysylltu'r pibau. Ond yng nghymoedd y de mae 'na ymdrech ar y gweill i atgyfnerthu traddodiad y pibau Cymreig.

Mae'n debyg fod 'na son am bibau yng Nghymru mor bell yn ôl â'r 12fed Ganrif yng Nghyfreithiau Hywel Dda. Mae yna ddau fath o bibau Cymreig. Mae gan un math y frwynen ddwbl, fel sydd gan yr obo heddiw, a'r llall y frwynen sengl, fel sydd gan y clarinét.

Mae pibau adnabyddus yr Alban yn perthyn i deulu'r ddwy frwynen, a'r pibgorn Cymreig yn perthyn i deulu'r un frwynen, er y byddai'r ddau fath o bibau yn cael eu chwarae yn y ddwy wlad a hefyd, ledled y byd.

Teulu'r un frwynen yw'r hynaf. Pan ddaeth milwyr yn ôl o'r Crwsâd, daethant â thechnoleg newydd o Arabia yn ôl gyda nhw, gan ddefnyddio'r ddwy frwynen i greu mwy o sŵn.

Nid oedd mor hawdd i addasu'r rhai gydag un brwynen fel y pibgorn Cymreig, ac felly mae'r offeryn wedi aros yn fwy hynafol ei sain. Erbyn heddiw, mae gennym ni'r pibau corn a'r pibau cwd - sef pib gorn mewn cwdyn, sy'n creu sŵn gwahanol.

Bu farw'r pibau cwd allan yng Nghymru tua 1860 ond parhaodd y pibau corn tan y 1920au. Felly roedd bwlch o ryw ddwy genhedlaeth cyn i rywun ail-ymafael yn y pibau corn. A dyna pam wnes i gychwyn. Es i at yr unig foi yng Nghymru oedd yn eu chwarae nhw ar y pryd a dechrau dysgu ganddo.

Un o brif nodweddion y pibau yw'r byrdwn. Mae'n bosib gwneud sŵn byrdwn ar unrhyw offeryn, ond y ffaith ei fod yn aros ar yr un nodyn yw nodwedd arbennig y pibau. Mae nhw'n perthyn i oes lle'r melodi, nid yr harmoni, oedd yn bwysig.

Erbyn heddiw mae'r Pibau Cymreig yn mwynhau adfywiad gyda pherfformwyr o Gymru yn arddangos eu doniau mewn Gwyliau rhyngwladol megis Lorient yn Llydaw a chyngerddau gan gerddorion Clera (Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru) ledled y wlad.

Ceri Rhys Matthews

Cyhoeddwyd yr erthygl yma'n wreiddiol ar BBC Lleol.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.