Y tair pluen ar grys rygbi (Llun: Tomasz Przechlewski, flickr.com)

Y Tair Pluen

02 Chwefror 2010

Er mai bathodyn personol Tywysog Cymru ydy'r tair pluen estrys mewn coron aur, mae traddodiad o'i ddefnyddio fel un o symbolau cenedlaethol Cymru.

Mae'r geiriau Ich Dien o dan y plu yn golygu 'yr wyf yn gwasanaethu' mewn Almaeneg, er i rai geisio awgrymu ei fod yn dod o'r Gymraeg, 'Eich Dyn'.

Ond, nid oes gan yr arwyddlun unrhyw gysylltiad â thywysogion cynhenid Cymru. Yn hytrach, credir bod fersiwn o'r arwyddlun yn mynd yn ôl i gyfnod Edward y Tywysog Du (1312 - 77), mab hynaf Edward III a Philippa o Hainault, a wnaed yn Dywysog Cymru yn 1343.

Roedd Edward I wedi dechrau'r arfer o arwisgo etifedd brenin Lloegr yn Dywysog Cymru pan arwisgodd ei fab, Edward II, yn Dywysog Cymru yn 1301. Roedd wedi ei eni yng Nghaernarfon yn 1283 a symboleiddiodd y weithred hon ddiwedd grym y Tywysogion Cymreig gyda marwolaeth Llywelyn ap Gruffydd, Ein Llyw Olaf, yn 1282.

Y plu ar grys rygbi
Fersiwn o'r dair pluen ar grys rygbi Cymru

Un ddamcaniaeth yw bod y plu wedi cael eu gwisgo gan Frenin Bohemia ym Mrwydr Crécy rhwng Lloegr a Ffrainc 1346. Enillodd y Saeson, dan arweinyddiaeth y Tywysog Du. Lladdwyd Brenin Bohemia, a oedd yn ymladd ar ochr Ffrainc. Roedd yn gwisgo arfbais y tair pluen, ac wedi mynnu fod yn rhan o'r frwydr, er ei fod yn ddall. Roedd Edward yn llawn edmygedd o'i ddewrder, nes iddo fabwysiadu'r plu fel ei arfbais ei hun.

Heddiw, mae symbol y tair pluen yn cael ei ddefnyddio gan y Tywysog Cymru presennol, y Tywysog Siarl, fel ei fathodyn personol, gyda sefydliadau sy'n gysylltiedig â'r tywysog yn ei ddefnyddio hefyd, yng Nghymru a'r tu allan i Gymru.

Mae Undeb Rygbi Cymru yn defnyddio fersiwn o arwyddlun y tair pluen ar grysau rygbi ei chwaraewyr gyda'r geiriau WRU yn lle Ich Dien.

Hwn hefyd yw bathodyn cap catrawd y Cymry Brenhinol ym Myddin Prydain.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.