Y Ddraig Goch yn cwhwfan

Y Ddraig Goch

28 Ionawr 2010

Er bod y ddraig wedi bod yn arwyddlun i Gymru ers canrifoedd, dim ond yn 1959 y daeth y ddraig goch yn faner swyddogol y genedl.

Defnyddiwyd y ddraig fel symbol milwrol gan y Rhufeiniaid yn yr oesoedd cynnar. Yna, ym Mrwydr Hastings yn 1066 cafodd y ddraig ei defnyddio gan fyddin brenin Lloegr wrth ymladd yn erbyn y Normaniaid.

Disgrifa Nennius, yn ei lyfr Historia Brittonum o'r nawfed ganrif, y frwydr rhwng draig goch y Brythoniaid a draig wen y Sacsoniaid yn Ninas Emrys, ger Beddgelert: y ddraig goch sydd yn ennill.

Cyfeiriodd Sieffre o Fynwy hefyd at yr hanes yn naroganau Myrddin yn y ddeuddegfed ganrif. Yn hwyrach, mae sôn am y dreigiau yma yn chwedl 'Cyfranc Lludd a Llefelys' yn y Mabinogi.

Y ddraig goch yw'r unig faner o wledydd y Deyrnas Unedig nad yw'n ymddangos ar Faner yr Undeb. Mae hyn yn bennaf oherwydd Statud Rhuddlan 1284, pan gyflwynodd Edward I gyfraith droseddol Lloegr i Gymru, a Deddfau Uno 1536 a 1543, pan benderfynodd senedd Lloegr uno Cymru'n wleidyddol gyda Lloegr.

Yn ystod teyrnasiad Harri VIII roedd y ddraig goch ar gefndir gwyn a gwyrdd yn aml i'w gweld ar longau'r Llynges Frenhinol. Newidiodd hyn o dan arweiniad James I pan roddwyd llun ungorn ar faneri yn lle'r ddraig.

Arfbais Dinas Caerdydd
'Y Ddraig Goch Ddyry Gychwyn' ar arfbaisDinas Caerdydd

Dychwelodd yn 1807, ac yn 1953 ychwanegwyd 'Y ddraig goch ddyry cychwyn' fel arwyddair i'r faner. Daw'r llinell hon o gywydd gan Deio ab Ieuan Ddu, bardd o'r bymthegfed ganrif oedd yn hanu o blwyf Llangynfelyn, Ceredigion.

Yna, ar Chwefror 22 1959 datganwyd mai'r ddraig goch ar gefndir gwyn a gwyrdd oedd baner genedlaethol Cymru yn dilyn cais gan Orsedd y Beirdd. Ni ychwanegwyd yr arwyddair at y faner swyddogol.

O holl wledydd y byd, dim ond Cymru a Bhutan sydd â llun draig ar eu baneri. Gwlad fechan ynghanol mynyddoedd yr Himalaya yw Bhutan ac ar ei baner mae draig wen ar gefndir melyn a choch.

Cafwyd gwrthwynebiad i faner y ddraig goch yn 2007 pan ddywedodd y Parchedig George Hargreaves, arweinydd y Blaid Gristnogol Gymreig, ei fod yn gweld y ddraig fel arwydd o'r diafol. Dywedodd y dylai'r symbol Satanaidd yma gael ei ddisodli â baner Dewi Sant, sef croes felen ar gefndir du.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.