Llongddrylliad y Royal Charter

top
Royal Charter

A hithau bron â chyrraedd pen y daith ar ôl mordaith hir o Melbourne, Awstralia, fe hwyliodd y Royal Charter â 452 o deithwyr a chriw a gwerth £320,000 o aur o fwyngloddiau Awstralia, i ganol storm enbyd wrth droi am Fôn.

Royal Charter

Suddodd y llong stêm, Royal Charter, ar 25 Hydref 1859 ger pentref Moelfre ar Ynys Môn ar ei thaith adref i Lerpwl. Mel Evans sydd â'r hanes:

"Ar ôl brwydro trwy Fôr Iwerddon, galwodd y Capten am gymorth peilot Lerpwl ger Point Lynas, ond roedd y môr yn rhy arw iddo fo fynd ar fwrdd y Charter. Roedd gan y Capten ddau ddewis - naill ai troi am Lerpwl ond heb gymorth y peilot, neu aros lle roedd a chysgodi rhag y tywydd enbyd ym Mae Moelfre.

"Dewisodd gysgodi ond fe falodd angor y llong dan y straen gan hyrddio'r Royal Charter ar y creigiau oddi ar Moelfre. Roedd y tonnau mor fawr nes i'r llong hollti'n ddwy ar y creigiau hanner canllath o'r lan.

"Taflwyd pawb i'r môr heblaw am 32 o deithwyr a laddwyd wrth iddyn nhw gael eu hyrddio'n erbyn y creigiau. Roedd llawer o'r teithwyr ar eu ffordd yn ôl i Gymru ar ôl bod yn gweithio ym mwyngloddiau aur Awstralia, ac fe geisiodd llawer ohonynt adael y llong a nofio i'r lan a'u pocedi yn llawn aur! Bu farw dros 500 o bobl o ganlyniad i'r llongddrylliad.

Stamp o'r Royal Charter

"Am wythnosau ar ôl y drasiedi roedd trigolion Moelfre yn dal i ddod o hyd i gyrff ar y traethau. Codwyd garreg goffa i'r trueniaid flynyddoedd yn ddiweddarach ar graig uwch ben y môr ac arni'r geiriau canlynol: "I gofnodi diwedd taith y Royal Charter ac er cof am y rhai hynny a fu farw."

"Gerllaw ym 1939 bu trychineb arall pan suddodd yr HMS Thetis ag adeiladwyd ym Mhenbedw tra'n cael ei dreialu ar y môr. Methodd y llong danfor â dod i'r wyneb ym Mae Lerpwl. Dim ond pedwar o'r criw a lwyddodd i ddianc cyn i'r dŵr lifo drwy'r drws argyfwng a llenwi'r llong gan gaethiwo'r 99 o aelodau'r criw a sifiliaid. Cafwyd hyd i'r llong yn ddiweddarach a'i symud i Draeth Bychan i'w hadnewyddu ac fe'i defnyddiwyd yn ddiweddarach yn ystod yr Ail Ryfel Byd dan yr enw HMS Thunderbolt."

"Wrth gwrs mae'r gymuned ym Moelfre wedi bod yn gefn mawr i'r Bad Achub a sefydlwyd yno yn ddiweddarach. Mewn agos i 150 o flynyddoedd, llwyddwyd i achub dros 600 o fywydau. Un o arwyr enwocaf y bad oedd Dic Evans. Un hanes arbennig ydy stori'r Hindlea a'r criw o wyth a hyrddiwyd ar greigiau Moelfre mewn gwyntoedd cryfion o dros 100 milltir yr awr a hynny union gan mlynedd ar ôl colli'r Royal Charter."

Ym mis Hydref 2011 bydd arddangosfa arbennig yn Nghaer yn dangos am y tro cyntaf ffilm o weddillion y llong o dan y don. Erys nifer o greiriau o hyd -pistolau, cyllyll a ffyrc, platiau a geriach personol y teithwyr. Roedd y Royal Charter yn long ysblennydd yn ei dydd ond nawr mae'n pydru'n araf ar waelod y môr.

Cyhoeddwyd gyfraniad Mel Evans yn wreiddiol yn 2004 ar wefan BBC Lleol.


Cestyll

Castell Dolbadarn

Oriel Cestyll

Hanes rhai o gestyll mwyaf adnabyddus a hanesyddol bwysig Cymru.

Crefydd

Delw Cristnogol mewn carreg

Oes y Seintiau

Cymru yng nghyfnod Dewi Sant a'r Cristnogion Celtaidd cynnar.

Mudo

Statue of Liberty

Dros foroedd mawr

Hanes y Cymry a adawodd eu cartrefi i chwilio am fywyd gwell.

Symbolau Cymru

Tair pluen Tywysog Cymru (Llun: Tomasz Przechlewski)

Hunaniaeth?

Y stori y tu ôl i symbolau ac arwyddluniau traddodiadol y Cymry.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.