Advertisement
Tynnu llun yn Eryri gyda chamera fictorianaidd

Snowdonia Farmhouse

27 Hydref 2009

Yn eisiau: teuluoedd i gamu nôl i'r 19eg Ganrif

Mae BBC Cymru yn paratoi i gludo dau deulu modern yn ôl i 1890 ar gyfer cyfres deledu newydd sbon - Snowdonia Farmhouse - ac mae'r gwaith ar gychwyn i ddod o hyd i bobl i gymryd rhan yn y prosiect rhyngweithiol unigryw.

Bydd y gyfres, a gaiff ei ffilmio a'i darlledu yn 2010, yn ail-greu amgylchiadau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wrth i'r teuluoedd fyw mewn bythynnod cyfagos ar lethrau Eryri.

Cyfrifoldeb y merched fydd trin y tir, edrych ar ôl yr anifeiliaid a rhedeg y cartref tra bydd y dynion yn mynd i weithio yn y chwarel lechi gyfagos.

Bydd yn rhaid iddyn nhw ddygymod â'r un treialon dyddiol a wynebai eu cyn-deidiau a fu'n byw ar y tir dros ganrif ynghynt.

Dywed Clare Hudson, Pennaeth Rhaglenni Saesneg BBC Cymru:

"Bydd Snowdonia Farmhouse yn cynnig cyd-destun dramatig ar gyfer y gwrthdaro rhwng hanes cymdeithasol a drama go iawn. Mae'n argoeli i fod yn rhaglen a fydd yn diddanu yn ogystal ag addysgu.

"Rydym ni'n edrych ymlaen at gludo'r gwylwyr, yn ogystal â'r teuluoedd, yn ôl i gyfnod hynod ddiddorol yn hanes gogledd Cymru."

Mae Indus Television, y cwmni cynhyrchu a fu'n gyfrifol am y gyfres lwyddiannus ac arloesol Coal House, yn edrych ymlaen at glywed gan yr ymgeiswyr.

"Rydym am glywed oddi wrth deuluoedd o bob cwr o Gymru sy'n credu y gallan nhw fyw bywyd mewn bwthyn mynydd Fictorianaidd," esbonia Ceri Rowlands, cynhyrchydd y gyfres.

"Bydd hi'n sialens gorfforol a meddyliol wrth iddyn nhw ddysgu trin y tir gan ddefnyddio technegau o'r 19eg ganrif a chadw'r tŷ heb y teclynnau modern rydyn ni mor gyfarwydd â nhw. Roedd cymuned y cyfnod yn un agos gyda theuluoedd yn ddibynnol iawn ar ei gilydd felly bydd rhaid iddyn nhw gydweithio gyda'u cymdogion gan rannu bwyd, sgiliau ac offer."

Bydd y ffilmio yn digwydd yn ystod mis Mawrth ac Ebrill 2010 ond mae proses recriwtio'r teuluoedd yn cychwyn nawr.

Os ydych chi'n credu eich bod chi a'ch teulu yn barod i wynebu'r her ffoniwch 03703 500 700* neu anfonwch ebost at gwybodaeth@bbc.co.uk gan nodi'ch enw a'ch cyfeiriad i ofyn am ffurflen gais.

Dyddiad cau'r ceisiadau yw dydd Sul Rhagfyr 13 2009 a bydd y teuluoedd ar y rhestr fer yn cael eu hysbysu erbyn dydd Gwener Rhagfyr 18 2009.

*Nid yw cost galwadau yn uwch na galwadau o linellau arferol i rifau daearyddol 01 a 02 ac fe'u cynhwysir mewn pecynnau disgownt ffonau arferol a ffonau symudol. Caiff galwadau eu recordio neu eu monitro at ddibenion hyfforddiant.


Coal House

Criw Coal House

Dan gysgod rhyfel

Anfonwyd tri theulu nôl i fyw mewn cymuned lofaol yn Ne Cymru yn 1944.

Creu Cenedl

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Hanes Cymru

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.