Dyfodiad y Normaniaid

Gwilym y Concwerwr

23 Mawrth 2009

Pwy oedd y Normaniaid?

Daeth dugiaeth Normandi i fodolaeth yn 911 wedi i'r Northmyn neu'r Llychlynwyr ymsefydlu yn Nyffryn Afon Seine yng ngogledd Ffrainc. Roeddent yn bobl egnïol gyda llywodraeth effeithiol, ac o ganlyniad daeth Normandi i fod yn un o ranbarthau mwyaf deinamig Ewrop. Sail y drefn yno oedd ffiwdaliaeth, trefn a olygai bod gan brif ddeiliaid y dug dir digonol i gynnal marchogion i'w wasanaethu adeg rhyfel. Yn dilyn Brwydr Hastings yn 1066, coronwyd Gwilym, dug Normandi, yn frenin Lloegr. Ymhen fawr o dro, enillodd awdurdod dros grynswth y deyrnas.

Ymosodiadau cynnar y Normaniaid ar Gymru

 Gruffudd ap Llywelyn wedi'i ddymchwel a'i ladd tair blynedd ynghynt, gwanllyd oedd Cymru yn 1066. Bu cryn dywallt gwaed ymhlith y rhai a geisiai etifeddu ei awdurdod. Sefydlodd Gwilym iarllaethau yng Nghaer, Amwythig a Henffordd, y rheini yn nwylo dynion ymosodol a threisgar. Erbyn 1086, roedd iarll Henffordd wedi dinistrio teyrnas Gwent, iarll Amwythig wedi codi castell yn Nhrefaldwyn ac wedi meddiannu'r rhan fwyaf o'r tir ar ororau Cymru, ac iarll Caer wedi treiddio'n ddwfn i berfeddion Gwynedd. Cydnabyddodd Gwilym awdurdod Rhys ap Tewdwr yn Neheubarth ac awdurdod Iestyn ap Gwrgant ym Morgannwg, ond wedi marwolaeth y brenin yn 1087, cynyddodd yr ymosodiadau ar garlam. Cipiodd Robert fitz Hamo iseldir Morgannwg. Lladdwyd Rhys ap Tewdwr a meddiannwyd Brycheiniog gan y Normaniaid. Ysgubodd iarll Amwythig drwy Bowys a Cheredigion, a chododd gastell ym Mhenfro yn neheudir Dyfed.

Gwrthryfel y Cymry

Enillodd y Normaniaid reolaeth ar Loegr, teyrnas dra chanoledig ei threfn, ymhen fawr o dro. Ond, â Chymru'n amddifad o brif ganolfan grym, anoddach oedd ei choncro. Erbyn 1100, roedd y Normaniaid wedi'u gyrru o Wynedd, o Geredigion ac o'r rhan fwyaf o Bowys. Cipiwyd grym yng Ngwynedd gan Gruffudd ap Cynan, ac ym Mhowys gan Cadwgan ap Bleddyn, a cheisiodd Gruffudd ap Rhys ap Tewdwr sefydlu'i hun yn Neheubarth. Yn ucheldiroedd y gororau a'r de ddwyrain, ymdrechodd aelodau o'r hen deuluoedd brenhinol Cymreig i ddal eu gafael ar diriogaethau eu hynafiaid.

Creu'r Mers

Felly, rhannwyd Cymru rhwng y rhanbarthau hynny a oedd o dan reolaeth frodorol a'r rheini o dan reolaeth y Normaniaid - rhwng Pura Walia a Marchia Wallie. Er mai deiliaid brenin Lloegr oedd arglwyddi Normanaidd y Mers, nid oeddynt yn atebol i gyfraith Lloegr. Medrent gynnal llysoedd, adeiladu cestyll a chyhoeddi rhyfel bron fel rheolwyr annibynnol. Byddai ryw ffurf ar y Mers yn para am dros bedwar cant a hanner o flynyddoedd, ac felly fe fu'n elfen ganolog yn hanes Cymru.


Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.