Twf Democratiaeth

San Steffan

23 Mawrth 2009

Cynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru cyn Mesur Diwygio'r Senedd, 1832

O dan y Ddeddf Uno, roedd gan Gymru 27 o aelodau seneddol, a dyna oedd y drefn hyd Ddeddf Diwygio 1832. Roeddent yn cynrychioli tua 7% o aelodaeth Tŷ'r Cyffredin, canran a oedd yn cyfateb fwy neu lai i ganran poblogaeth Lloegr a Chymru a drigai yng Nghymru yn 1536.

Yn yr etholaethau sirol, dim ond rhydd-ddeiliad oedd yn berchen tir oedd werth £2 y flwyddyn a gâi bleidleisio, tra yn y rhan fwyaf o'r bwrdeistrefi y rhyddfreiniaid a gâi bleidleisio.

Roedd y drefn yn y siroedd a'r bwrdeistrefi yn rhoi cyfle i'r tirfeddianwyr droi'r dŵr i'w melin eu hunain. Prin oedd y rhydd-ddeiliad go iawn ac roedd hawl y mwyafrif i bleidleisio ynghlwm â'r prydlesi a gâi eu rhoi gan y landlordiaid; roedd mwyafrif y bwrdeistrefi dan reolaeth perchnogion y stadau a nhw a benderfynai pwy gâi fod yn rhyddfreiniaid.

Roedd y drefn yn llai llwgr yng Nghymru nag yr oedd yn Lloegr; nid oedd yr un fwrdeistref gyfan gwbl bwdr, roedd llai o drefi heb unrhyw gynrychiolaeth, a doedd yr anghyfartaledd rhwng y siroedd ddim mor amlwg. Serch hynny, gan fod pleidleisio yn weithred gyhoeddus, llai na 5% o wrywod â'r hawl i bleidleisio, llwgrwobrwyo'n rhemp a pherchnogion y stadau'r unig ddosbarth ariannog i bob pwrpas, roedd yn anorfod bod dylanwad y landlordiaid ar y broses etholiadol yn drwm iawn.

Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd grŵp o ryw ugain o deuluoedd yn rheoli'r gynrychiolaeth seneddol yng Nghymru; trefniadau preifat yn hytrach na phleidleisio oedd fel arfer yn sicrhau mai un ymgeisydd, diwrthwynebiad, a safai etholiad. Yn etholiad cyffredinol 1830, er enghraifft, nid oedd gwrthwynebydd yn unrhyw un o'r etholaethau Cymreig.


Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.