Y Diwygiad Protestannaidd

Y Santes Fair Penrhys © Wayne Carter

23 Mawrth 2009

Crefydd yn yr Oesoedd Canol diweddar

Yn yr hanner can mlynedd cyn y Diwygiad Protestannaidd, roedd ymlyniad y bobl at grefydd draddodiadol yn daer iawn. Mawr oedd bri cwlt y Forwyn Fair. Adeiladwyd eglwysi trefol nodedig yng Nghaerdydd, Dinbych-y-pysgod, Wrecsam a mannau eraill. Codwyd eglwysi dwy-eil yn Nyffryn Clwyd, a dangoswyd cryn barch at ddelwau megis Morwyn Pen-rhys yn y Rhondda. Eto, er mor boblogaidd oedd arferion crefyddol y Cymry, doedd iddynt fawr o sylwedd deallusol. Gan bod Cymru'n lled amddifad o bobl â'r gallu i ddwys amddiffyn yr hen, a hefyd o bobl yn frwd i anwesu'r newydd, derbyn yn swrth yr hyn a ordeiniwyd gan y goron fu ymateb trwch ei phobl i'r newidiadau crefyddol.

Torri'r cysylltiad â Rhufain

Erbyn diwedd y 1520au roedd Harri VIII yn awyddus i ysgaru'i wraig Catherine o Aragon er mwyn priodi Anne Boleyn. Dim ond y Pab allai ganiatáu hynny, ac roedd yn gyndyn o gythruddo nai Catherine, yr Ymerawdwr Siarl V. Yn 1529, galwodd y brenin senedd lle rhoddwyd rhwydd hynt i uchelwyr Lloegr fynegi'u teimladau gwrth-babyddol. Dechreuwyd proses a fagodd ei fomentwm ei hunan. Erbyn 1535 roedd Harri, gyda chymorth ei brif weinyddwr, Thomas Cromwell, wedi sicrhau nifer o statudau a oedd yn dileu awdurdod y Pab yn nhiriogaethau coron Lloegr ac yn dyrchafu'r brenin yn ben ar Eglwys Loegr.

Rhagor o newidiadau crefyddol

Roedd y Diwygiad Protestannaidd wedi dechrau yn yr Almaen yn 1517, ond nid torri'r cysylltiad â Rhufain er mwyn derbyn y grefydd Brotestannaidd oedd bwriad Harri. Cymryd arno'i hun pwerau'r Pab dros yr Eglwys oedd ei fwriad. Chwyldro o ran awdurdodaeth o fewn yr Eglwys, nid chwyldro crefyddol, a ddeisyfai. Roedd yn frwd i erlid hereticiaid Protestannaidd, yn eu plith Thomas Capper o Gaerdydd a losgwyd wrth y stanc yn 1542. Ond roedd arlliw Protestannaidd yn ei agwedd tuag at fynachaeth. Rhwng 1536 a 1540 diddymwyd y tai crefydd. Yr oedd 47 ohonynt yng Nghymru, o gynnwys mynachdai, lleiandai, brodordai a chelloedd ac ysbytai amrywiol. Roedd y bywyd mynachaidd wedi bod yn ddilewyrch ers tro. Erbyn 1536, doedd ond 85 o fynachod yn y 13 mynachlog Sistersaidd a fodolai yng Nghymru - ac roedd enw digon amheus gan rai ohonynt. Ond, diddymwyd y mynachdai nid oherwydd eu gwendidau ond am fod y brenin yn chwennych eu cyfoeth.

O ganlyniad i'r diddymiad fe wnaeth cannoedd o filoedd o erwau o dir Cymru newid dwylo. Yr uchelwyr oedd ar eu hennill o ganlyniad i hyn. Er enghraifft, aeth Abaty Margam a'i diroedd i feddiant teulu Mansel, ac aeth tiroedd Tyndyrn i feddiant teulu Somerset o Raglan. Er i dai'r Benedictiaid gael eu haddasu fel eglwysi plwyf, dadfeilio bu tynged trwch y mynachlogydd - ergyd greulon i'r etifeddiaeth bensaernïol y Cymry.

Erbyn marwolaeth Harri'r VIII yn 1547, roedd newidiadau crefyddol eraill wedi digwydd, yn fwyaf arbennig, dinistrio delweddau crefyddol megis yr un ym Mhen-rhys a rhoi diwedd ar y canolfannau pererindota.


Dysgu

Llun o wefan Celtiaid yr Oes Haearn

Hanes

Gwefannau hanes ar gyfer plant cynradd, uwchradd ac athrawon.

Cerdded

© Hawlfraint a hawliau cronfa ddata'r Goron 2009. Cedwir pob hawl. Rhif Trwydded yr Arolwg Ordnans 100019855

Machynlleth

Dilynwch y daith o gwmpas y dref lle coronwyd Owain Glyndŵr yn Dywysog Cymru.

Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.