Cerflun o Owain Glyndŵr

Tywysogion ac Esgobion 1135 - 1485

Bu'r Eglwys yn arf yn y frwydr rhwng y tywysogion brodorol ag arglwyddi'r Mers. Rhoddodd y brenin Edward y Cyntaf ddiwedd ar annibyniaeth Cymru yn 1282, er i wrthryfel Glyndŵr ymhen ychydig dros ganrif fygwth goruchafiaeth Caergaint unwaith eto.

Yn dilyn marwolaeth Harri'r Cyntaf yn 1135, bu'n gyfnod o anhrefn ar Loegr. Dyma gyfle i'r tywysogion brodorol megis Rhys ap Gruffudd o'r Deheubarth - a gafodd ei adnabod wedyn fel 'Yr Arglwydd Rhys' - i adennill tir a gollwyd.

Drwy gyfuniad o i'w allu gwleidyddol a llwyddiant milwrol, fe gafodd Rhys ei gydnabod fel prif reolwr brodorol y ddeuddegfed ganrif. Roedd ei gefnogaeth i'r Sistersiaid yn ddatblygiad pwysig ym mywyd seciwlar a chrefyddol Cymru'r canol oesoedd.

Daeth y Sistersiaid i Gymru, ynghyd ag urddau mynachaidd eraill, wrth i rym y Normaniaid gynyddu. Un o'u swyddogaethau oedd darparu cefnogaeth ysbrydol i awdurdod y Normaniaid, ond roeddynt hefyd yn gyfrifol am ddatblygu sawl agwedd ar economi Cymru. Yn wir y Sistersiaid sydd yn cael y diolch am gychwyn y diwydiant gwlân yng Nghymru.

Fodd bynnag, yn dilyn nawdd yr Arglwydd Rhys buan y cafodd y Sistersiaid eu mabwysiadu gan feistri Cymreig eraill. Erbyn diwedd y ddeuddegfed ganrif roeddent wedi gwreiddio yn nhir daear Cymru, ac yn gefnogol iawn bellach i ddiwylliant Cymru ac i amcanion gwleidyddol yr arweinwyr brodorol.

Clerigwr amlyca'r oes oedd Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis), oedd yn rhannu'r un llinach â'r Arglwydd Rhys o hen frenhinoedd y Deheubarth. Closiodd Gerallt at y rheolwyr Normanaidd, er ei fod yn gefnogol i rai agweddau o annibyniaeth Gymreig, hefyd, yn enwedig mewn materion eglwysig.

Ei uchelgais oedd cael gwneud Tyddewi yn Archesgobaeth. Ond yn hwyr yn y ddeuddegfed ganrif fe rwystrwyd y bwriad hwn gan Gaer gaint. Eto i gyd mae Gerallt yn parhau'n ffigwr bwysig o ganlyniad i'w weithiau ysgrifenedig yn delio gyda gwleidyddiaeth a chrefydd yng Nghymru a'r Iwerddon.

Erbyn diwedd y drydedd ganrif ar ddeg dim ond y tywysogion a reolai Gwynedd oedd yn cael eu galw yn Dywysogion. Arweiniwyd y frwydr dros dywysogaeth Gymreig annibynnol gan Llywelyn y Cyntaf a'i ŵyr Llywelyn yr Ail. Ond fe gafodd yr ymgyrch ergyd farwol pan laddwyd Llywelyn yr Ail, ('Llywelyn ein Llyw olaf') yng Nghilmeri yng Nghanolbarth Cymru yn Rhagfyr 1282. Cafodd ei gorff (heb ei ben) ei gladdu gan fynachod Sistersiaid yn Abaty Cwm-hir nid nepell o'r fan lle y'i lladdwyd.

Wrth i annibyniaeth wleidyddol Cymru gael ei diffodd, fe ddaeth yr eglwys yng Nghymru yn gadarn o dan reolaeth Caer gaint. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg, fe gwynodd clerigwyr Cymreig bod y swyddi gorau yn yr eglwys yng Nghymru yn cael eu rhoi i glerigwyr yn Lloegr, ac aeth llawer o'r incwm o'r eglwysi Cymreig dros Glawdd Offa tua'r dwyrain.

Bwydodd y rhwystredigaeth glerigol i mewn i wrthryfel Owain Glyndŵr a barodd o 1400 tan 1410. Ymysg cefnogwyr Glyndŵr cafwyd eglwyswyr amlwg fel John Trefor, esgob Llanelwy. Y cefndir i'r rhyfel oedd anghydfod dros goron Lloegr ac anghydfod yn y Babaeth. Cafodd yr ymgyrch ddimensiwn rhyngwladol diolch i ymdrech y cefnogwyr eglwysig, ac eto, er ymdrechion glew, cafodd y gobeithion am annibyniaeth Gymreig eu chwalu ac fe ail-sefydlwyd goruchafiaeth Caer gaint.

O fewn can mlynedd, fe fyddai teulu o dras Gymreig, a chyda chysylltiad â Glyndŵr, y Tuduriaid, yn hawlio coron Lloegr. Yn ystod eu teyrnasiad, daeth diwedd ar yr Eglwys Gatholig Rufeinig yng Nghymru, ac fe gafwyd newidiadau sylfaenol yn y modd câi'r wlad ei llywodraethu.


Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Crefydd

Beibl dot-net

Trin a thrafod

Trin a thrafod pynciau crefyddol, moesol a chymdeithasol

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.