Amffitheatr Caerleon

Y Rhufeiniaid a dyfodiad Cristnogaeth
43 AD - 410 AD

Pan oresgynnodd y Rhufeiniaid Brydain yn AD 43, fe ddaethant â dylanwadau newydd. Bu i'w duwiau eu hunain gyfuno gyda duwiau brodorol Prydeinig i greu crefydd gyfansawdd newydd. Agorwyd y llwybrau felly ar gyfer y grefydd newydd a drechodd yr hen ffyrdd paganaidd maes o law.

Chwalwyd yr hen drefn Dderwyddol yn 60 AD pan gafodd ei gafael ar Fôn ei thorri gan y fyddin Rufeinig. Y Derwyddon oedd swyddogion crefyddol y Brythoniaid brodorol ac mae'n ymddangos mai hwy oedd prif ffynhonnell gwrthwynebiad i'r Rhufeiniaid. Roedd y goresgyniad o Fôn yn gydnabyddiaeth amlwg o'r bygythiad i'r gyfundrefn Rufeinig.

Mae'n bosib mai crefydd gynhenid i Brydain oedd Derwyddiaeth. Mae'r gair Cymraeg Derwydd, yn cysylltu'n agos gyda'r gair derwen. Ac mae'r Gymraeg yn iaith sy'n hanu'n uniongyrchol o'r iaith Frythoneg a siaradwyd gan y Brythoniaid adeg y goncwest Rufeinig. Nododd Julius Caesar bod y Derwyddon yn addoli mewn llwyni derw, ac yn ôl yr hanesydd Tacitus un o'r pethau cyntaf wnaeth concwerwyr Rhufeinig Môn oedd torri nifer o'r llwyni derw a ddarganfuwyd dros yr ynys.

Er i bŵer gwleidyddol Derwyddol gael ei chwalu, parhawyd i addoli'r duwiau brodorol. Mae'n debyg mai agwedd bragmataidd oedd gan y Rhufeiniaid tuag at grefydd - os nad oedd yn bygwth presenoldeb Rhufeinig fe gâi ei goddef. Mae'n ymddangos y credent hefyd mai gwell oedd peidio â digio'r duwiau brodorol, gan y gallai hynny olygu y caent lwc ddrwg yn ystod eu harhosiad ar dir estron. Felly fe geision nhw gael y gorau o ddau fyd drwy baru eu duwiau Rhufeinig gyda'r rhai Prydeinig, gan godi allorau ar y cyd.

Ceir un o'r rhai enwocaf ym Mhrydain yn yr hen faddondai Rhufeinig yng Nghaerfaddon. Adeiladodd y Rhufeiniaid eu hallorau o gwmpas y ffynhonnau poeth oedd yno yn 54 AD, ar safle teml a godwyd gan y Brythoniaid. Enw'r dduwies frodorol wreiddiol oedd Sul ac fe'i cyfunwyd gyda'r dduwies Rufeinig Minerva i greu Sulis Minerva.

Cafwyd esiampl yng Nghymru o 'dduw cyfansawdd' a ddarganfuwyd mewn teml wedi ei chyflwyno i Mars-Oculus yng Nghaerwent, a charreg yn dyddio o tua 300 AD a ddarganfuwyd yng Nghaerleon yn awgrymu i gredoau Prydeinig brodorol barhau heb orfod cael eu cyfuno gydag arferion Rhufeinig.

Mae cof gwerin yn parhau hyd heddiw am yr hen dduwiau ar ffurf mythau a chwedlau, - y Mabinogi yw'r enghraifft orau yng Nghymru. Credir bod y casgliad hwn o straeon eisoes yn hynafol pan gofnodwyd hwy ynghanol yr unfed ganrif ar ddeg. Cred rhai mai dyma'r agosaf allwn gyrraedd i fyd hudolus yr hen Frythoniaid.

Yn gynnar yn y bedwaredd ganrif, cafodd dau ddyn o'r enw Aaron a Julius eu dienyddio yn nhre Caerleon am ddilyn crefydd waharddedig. Ni wyddys faint a ddilynodd yr un ffawd. Ond o fewn can mlynedd y ffydd erlidedig hon oedd crefydd swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig, ac ymhen amser fe gafodd Aaron a Julius eu cydnabod fel y merthyron Cristnogol Cymreig cyntaf.


Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Crefydd

Beibl dot-net

Trin a thrafod

Trin a thrafod pynciau crefyddol, moesol a chymdeithasol

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.