Rhondda

Diwydiant a Dirwest 1840 - 1881

Mewn adroddiadau swyddogol ar Gymru gan y Llywodraeth, fe bortreadwyd y wlad fel man lle'r oedd anwybodaeth ac anfoesoldeb yn rhemp. Wrth ymladd yr enllib yma, fe roddodd gwladgarwyr Cymreig hwb enfawr i Anghydffurfiaeth a'u werthoedd.

Yn dilyn y gwrthdystiadau cyhoeddus yng Nghymru yn ystod yr 1830au a'r 1840au, fe gomisiynodd y llywodraeth nifer o adroddiadau. Yr enwocaf o'r rhain oedd arolwg o'r system addysg. Cafodd yr adroddiad cyhoeddedig ei adnabod fel y Llyfrau Gleision, oherwydd lliw rhwymiad y cloriau. Pan y'i cyhoeddwyd yn 1847, fe achoswyd cythrwfl.

Roedd yr adroddiad yn cynnwys nifer o bwyntiau dilys ond cafodd ei wanhau gan y ffaith mai tri chyfreithiwr o Loegr heb fawr o wybodaeth am Gymru a'r iaith oedd wedi ei lunio. Yn ogystal â nodi diffygion yn y ddarpariaeth addysgol yn y wlad, cynhwyswyd hefyd ddeunydd yn beirniadu'r iaith Gymraeg ynghyd â moesau'r Cymry.

Roedd yr adroddiad yn bwnc trafod brwd rhwng yr Anghydffurfwyr a'r Eglwys sefydledig. Cafodd ei bortreadu gan rai Anghydffurfwyr fel ymosodiad Anglicanaidd ar y Cymry a'u diwylliant, ymosodiad oedd yn annheg a dweud y lleiaf.

Ond nid Anghydffurfwyr yn unig a ddigiwyd gan yr adroddiad. Bu Eglwyswyr gwladgarol yng Nghymru hefyd yn cwyno amdano. Serch hynny, roedd yr argraff wedi ei chreu mai presenoldeb 'estron' yng Nghymru oedd Eglwys Loegr.

Roedd yr Eglwys Wladol yn colli tir yng Nghymru nid yn unig yn nhermau ei ddelwedd genedlaethol, ond yn nhermau nifer addolwyr hefyd. Dangosodd yr unig gyfrifiad crefyddol yn 1851 mai lleiafrif oedd addolwyr Anglicanaidd yng Nghymru- roedd y rhan fwyaf o Gristnogion erbyn hynny yn Anghydffurfwyr.

Roedd y Chwyldro Diwydiannol ar gynnydd. Metal - megis gweithfeydd haearn a chopr - oedd sail y don ddiwydiannol gyntaf. Ond erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd cloddio glo ar gynnydd wrth i'r gofynion tanwydd oedd ei angen ar y ffwrnesi, y rheilffyrdd a'r llongau stêm godi.

Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod y gweithgareddau yma yn digwydd yr un pryd ag yr oedd yr Ymerodraeth Brydeinig yn lledu ac yn cael gafael ar adnoddau a thiriogaethau newydd. Arweiniodd y ffactorau yma at Gymru'n datblygu fel un o'r gwledydd cyntaf yn y byd lle'r oedd mwyafrif y boblogaeth yn gweithio mewn diwydiant - datblygiad o bwys mawr i wleidyddiaeth Cymru hyd at y dydd heddiw.

Dylifodd pobl i gymoedd de Cymru i chwilio am waith, gan greu cymunedau newydd yn y broses. Wrth i byllau glo newydd gael eu hagor, codwyd capeli yn yr ardaloedd diwydiannol ar raddfa gyflymach nag y codwyd eglwysi Anglicanaidd. O ganlyniad gadawodd Anghydffurfiaeth stamp unigryw ar ddiwylliant Cymru, yn enwedig yn nhrefi'r cymoedd.

Roedd alcohol yn destun pryder i'r capeli yn ystod y cyfnod hwn, ac wedi cyfnod o ymgyrchu dwys, fe basiwyd y Ddeddf Cau ar y Sul yn 1881. Roedd y mesur i gau tafarndai ar y Saboth yn un o'r ychydig ddeddfau o'r cyfnod i gyfeirio yn unig at Gymru, felly gellir dangos i Anghydffurfiaeth gyfrannu at arwahanrwydd gwleidyddol Cymru.

Eto i gyd nid pob gwladgarwr oedd o blaid y mesurau dirwestol yma. Roedd rhai yn ystyried bod y pwyslais ar ddirwest yn rhoi argraff o grefydd - yn enwedig crefydd cyfrwng Cymraeg - oedd yn lladd ar bob mwynhâd.

Cafodd yr agweddau dirwestol yma effaith fawr ar Anghydffurfiaeth ac ar yr iaith yn ddiweddarach yn y ganrif ganlynol. Ond yn y cyfamser, roedd dirwest mewn grym ac fe fyddai'n ddylanwadol iawn dros y can mlynedd nesaf.

Y capeli ddaeth yn ganolbwynt gweithgareddau yn y trefi newydd diwydiannol, ac mae llawer o'r traddodiad canu corawl Cymreig yn dyddio yn ôl i'r cyfnod yma.

Un datblygiad a fu'n gymorth i hyn fu cyflwyno system gerddorol Sol-ffa, a alluogodd nifer fawr o bobl i gymryd rhan mewn canu corawl. Un o'r cymhellion mawr dros hybu gweithgareddau cerddorol oedd cadw pobl allan o'r tafarnau.


Y Gymraeg

Barddoniaeth Taliesin

Hanes yr iaith

O'i gwreiddiau Celtaidd i frwydrau iaith y 1960au a'r 70au.

Enwogion

Cerflun o Dewi Sant yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd

Dewi Sant

'Gwnewch y pethau bychain' oedd geiriau enwog Dewi Sant.

Hanes Cymru

Cromlech Pentre Ifanc © Hawlfraint y goron (2008) Croeso Cymru

Creu'r genedl

Dilynwch hanes Cymru a datblygiad y genedl Gymreig o'r Celtiaid i'r Cynulliad gyda'r Dr John Davies.

Crefydd

Beibl dot-net

Trin a thrafod

Trin a thrafod pynciau crefyddol, moesol a chymdeithasol

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.