Advertisement
Castell Caerffili © Wales Tourist Board

Cestyll yr Arglwyddi

03 Chwefror 2009

Codwyd mwyafrif helaeth cestyll Cymru gan y mewnfudwyr milwriaethus. Y rhai cyntaf oedd barwniaid Caerloyw, Henffordd, Amwythig a Chaer. Yn cychwyn yng Nghas-gwent yn 1067, erbyn 1100 roedd cadwyni o gestyll ar hyd y gororau ac arfordir De Cymru, ar hyd rhai o'r dyffrynnoedd oedd yn rhoi mynedfa i ganoldir Cymru, a rhywrai llai niferus ar hyd arfordir y gogledd.

Roedd mwyafrif helaeth y cestyll hyn yn waith pridd a choed, naill ai ar ffurf tomen neu fwnt a beili (y rhan helaethaf) neu fel cylchwaith o gloddiau pridd. Byddai adeiladau o goed ar y domen a'r tu mewn i'r cloddiau.

Byddai'r cestyll hyn yn gwasanaethu sawl amcan. Yn gyntaf, roeddynt yn gartrefi i arweinwyr y goresgyniad a'u teuluoedd. Wedyn, roeddynt yn ganolbwyntiau llywodraethu; ynddynt byddai'r arweinwyr yn gweinyddu cyfiawnder o ryw fath, ac yn casglu trethi. Wedyn, roeddynt yn ganolfannau i bobl eraill ymgartrefu - milwyr cyffredin, crefftwyr, siopwyr. Wrth y mwyaf ohonynt byddai'r arglwyddi yn sefydlu priordai o fynachod Benedictaidd, megis yng Nghas-gwent, Cydweli, Hwlffordd a'r Fenni.

Erbyn 1100 roedd rhai adeiladau gyda muriau cerrig yn ymddangos. Ysywaeth mae'n anodd iawn dyddio llawer o'r datblygiadau hyn, ac wrth i rai o'r arglwyddi ymgyfoethogi, byddent yn estyn ac yn ailadeiladu nes bod eu cestyll mwyaf yn greadigaethau cymhleth iawn.

Trwy gydol y 12fed a'r 13fed ganrif bu'r arglwyddi'n cryfhau'r cestyll mwyaf, tra'n gadael i lawer o'r cestyll arloesol syrthio. Roedd arglwyddi Penfro a Morgannwg, sef teuluoedd Marshall a Clare, yn adeiladu cestyll gyda'r cryfaf ym Mhrydain, megis Penfro, Cas-gwent, Cilgerran, Cydweli a'r mwyaf ohonynt oll, sef Caerffili. Gelwir eu harglwyddiaethau wrth yr enw Mers (Saesneg March).

Roedd yr arglwyddi i fod yn deyrngar i'r brenin, ond o fewn eu harglwyddiaethau eu cyfraith hwy, nid cyfraith brenin Lloegr, oedd ar waith. Nodwedd arbennig o'r cestyll hyn oedd y tirwedd o'u cwmpas: gerddi, ffermydd, perllannau a thiroedd hela, y cyfan yn dangos grym a chyfoeth yr arglwydd.

Yn ffodus i'r Cymry, cafodd yr arglwyddi hyn lawer o broblemau, yn enwedig mewn perthynas â brenhinoedd gwael megis Stephen a John. Y canlyniad oedd bod y Cymry'n gallu manteisio, gan adennill tiroedd colledig. I'r gwrthwyneb, roedd brenhinoedd effeithiol yn broblem i'r Cymry.


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.