Castell Rhuddlan © www.castlewales.com

Castell Rhuddlan

16 Mawrth 2009

Mae hanes hir i Ruddlan. Ddiwedd yr 8fed ganrif bu'r Saeson yn ymosod yn gyson ar Gymru, a threchasant y brodorion ym mrwydr Morfa Rhuddlan yn 796.

Codasant fwrdeistref yma yn 921, ond ysgubodd Gruffudd ap Llywelyn y mewnfudwyr i ffwrdd rywdro wedi 1050. Estynnodd Gruffudd i afael dros Gymru gyfan, ond erbyn 1063 roedd Harold Godwinsson wedi ei drechu, a lladdwyd Gruffudd gan ei wŷr ei hun.

Wedi i Wiliam I feddiannu coron Lloegr yn 1066, rhoddwyd rhwydd hynt i'w brif ddilynwyr i greu arglwyddiaethau iddynt eu hunain yng Nghymru. Y mwyaf llwyddiannus ohonynt ar y cychwyn oedd Robert, a gododd gastell tomen-a-beili nepell i ffwrdd o'r castell Edwardaidd. Cafodd Robert ei adnabod fel 'Robert o Ruddlan' a thalai £40 i goron Lloegr am ei feddiant ar ogledd Cymru.

Tua 1150 llwyddodd Owain Gwynedd i ailfeddiannu gogledd-dwyrain Cymru, ac o hynny ymlaen (gyda dwy egwyl) bu Rhuddlan yn eiddo Cymreig hyd 1277. Pan gyrhaeddodd Edward I y lle ar ei ymgyrch trwy'r gogledd yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd y flwyddyn honno, gwelodd ei bwysigrwydd strategol.

Roedd afon Clwyd yn galluogi llongau i gyrraedd y safle newydd i ddod â chyflenwadau petai'r Cymry'n gwarchae'r lle. Rhoes y gwaith adeiladu yn nwylo'r peiriannydd Meistr Bertram, ac wedyn i'r pensaer ardderchog James o Saint George, y cyntaf o nifer iddo adeiladu dros Edward.

Wedi i Edward drechu Llywelyn, rhoes lawer o diroedd y gogledd-ddwyrain i'w ddilynwyr, gan gynnwys Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn. Rhuddlan oedd y pencadlys brenhinol dros y blynyddoedd nesaf, a sicrhaodd Edward y byddai lawnt o fewn y castell lle y gallai ei wraig Eleanor gymryd ei phleser. Wedi buddugoliaeth derfynol Edward dros Llywelyn a'r Cymry yn 1282-83, yn Rhuddlan y derbyniodd ben Llywelyn ac wedyn y carcharor Dafydd ap Gruffudd, oedd wedi cychwyn fflam gwrthryfel yn erbyn y brenin adeg Pasg 1282.

Yn Rhuddlan yn 1284 cyhoeddodd Edward Statud Rhuddlan, ei gynllun ar gyfer Cymru. Daeth tiroedd Llywelyn yn siroedd dan y goron, tra bod arglwyddiaethau'r Mers yn cadw eu hen statws. Degawd yn ddiweddarach bu'r castell dan warchae yn ystod gwrthryfel Madog ap Llywelyn. Gwrthsafodd ymosodiadau Owain Glyndŵr yn 1400 ac eto yn 1405, ond er i'r fwrdeistref ddioddef, ni chollwyd y castell.

Ddiwedd hanes castell Rhuddlan oedd cael ei amddiffyn gan y breniniaethwyr yn erbyn byddin Seneddol dan arweiniad Syr Thomas Mytton yn 1646. Wedi i'r garswn ildio, gorchmynnwyd dinistrio'r castell, a gwnaed llawer o ddifrod. Yn ychwanegol at hynny gwelai trigolion Rhuddlan eu cyfle i ddwyn cerrig ar gyfer adeiladu eu tai, a dyna un rheswm pam mae'r muriau'n edrych fel petai afanc anferth wedi bod yn eu cnoi.

  • Mwy o hanes a lluniau ar wefan BBC Lleol y gogledd ddwyrain

  • Llywio drwy’r BBC

    BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.