In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Castell Conwy

09 Mawrth 2009

Un o 'gampweithiau mwyaf eithriadol pensaernïaeth filwrol yr Oesoedd Canol' yw disgrifiad Cadw o gastell Conwy, ac mae'n haeddu pob gair o'r disgrifiad. Ychwanegir at ei statws gan fod muriau'r dref yn dal i sefyll mewn cyflwr da.

Saif y castell yn uchel uwchben afon Conwy yn edrych dros yr afon tuag at hen gastell y Cymry ar graig Degannwy.

Yn fuan iawn wedi marwolaeth Llywelyn ein Llyw Olaf yn 1282, cipiodd Edward I gastell Dolwyddelan, gan roi llwybr clir i'w luoedd symud ymlaen i ganol Gwynedd. Mae'n debyg iddynt ddilyn yr afon Conwy i lawr hyd ei aber, a gorchmynnodd y brenin i gastell newydd gael ei adeiladu yno yn 1283.

Gyda gwir Dywysog olaf Cymru wedi ei ladd, roedd Edward I yn benderfynol o atal unrhyw wrthryfeloedd pellach, ac roedd ei ddewis o leoliad ar gyfer Castell Conwy yn rhan o'i 'gylch haearn' o gestyll o amgylch Gwynedd (ynghyd â chestyll Caernarfon a Harlech).

Cyn 1282 safai abaty Sistersaidd Aberconwy ar y safle a ddewiswyd gan Edward ar gyfer ei gastell a'i fwrdeistref. Cadwyd eglwys yr abaty i fod yn eglwys plwyf y dref newydd, a symudwyd y mynachod i Faenan, rhyw wyth milltir i ffwrdd. Roedd Llywelyn Fawr a'i feibion Dafydd a Gruffudd wedi eu claddu yn abaty Aberconwy, ond cymaint oedd parch y mynachod at Lywelyn fel y cludwyd ei arch i Faenan, a rywdro wedi'r Diddymiad fe'i gosodwyd yn eglwys Llanrwst, lle gellir ei gweld yng nghapel y Wynniaid. Roedd yr esgyrn wedi hen ddiflannu.

Saif y castell ar graig gul, sydd o bosib yn gyfrifol am ei ffurf hir nodweddiadol, gyda'i wyth tŵr anferth sydd dros 21 metr (70 troedfedd) o uchder, ac roedd llawer o'r gwaith adeiladu wedi ei gwblhau cyn diwedd 1287. Adeiladwyd waliau'r dref o fewn yr un cyfnod, i warchod a diogelu'r ymsefydlwyr Seisnig wnaeth ymgartrefu yno.

Bu'r castell dan warchae yn ystod gwrthryfel Madog ap Llywelyn yn 1294-95, gyda Edward I ei hun oddi mewn i'r castell ar y pryd , ond safodd y muriau'n gadarn yn erbyn yr ymosodiadau. Yng ngwanwyn 1401, yn ystod blwyddyn gyntaf gwrthryfel Owain Glyndŵr, a Harri IV ar orsedd Lloegr, fe syrthiodd y castell i ddwylo'r Cymry trwy'r twyll rhyfeddaf.

Rai misoedd ynghynt, rhoddwyd i Henry Percy (oedd yn cael ei adnabod fel 'Hotspur') y gyfrifoldeb am dawelu'r gwrthryfel, ac fe gynigiodd bardwn i bawb o ddilynwyr Glyndŵr ac eithrio Owain eu hun a dau o'i gefndryd - Rhys ap Tudur a'i frawd Gwilym ap Tudur.

Roedd Rhys a Gwilym ap Tudur yn feibion i Tudur ap Gronw (Tudur Fychan) o Benmynydd, Ynys Môn, ac yn frodyr i Maredydd ap Tudur - hen-daid Harri Tudur, sef y brenin Harri VII. Ar Ebrill 1af 1401, Dydd Gwener y Groglith, roedd bron pob un o filwyr y castell mewn gwasanaeth crefyddol yn eglwys Conwy, a dyma pryd yr amserodd y Cymry eu hymosodiad clyfar. Aeth saer coed at giât y castell gan ddweud ei fod yno i wneud gwaith atgyweirio. Gadawyd ef i mewn, a threchodd y milwr ar y giât, cyn gadael i ddynion Rhys a Gwilym ap Tudur a'u dilynwyr ruthro mewn.

Trechwyd y milwyr oedd yn weddill heb fawr o ffwdan, ac roedd castell Conwy - un o'r cestyll cryfaf yng ngogledd Cymru - yn eu meddiant! Unwaith yr oeddynt yn rheoli'r castell, bu iddynt ddangos fod modd amddiffyn castell o'r fath gyda nifer cymharol fechan o bobl, yn erbyn ymosodiadau gan luoedd enfawr.

Er i Henry Percy gyrraedd gyda channoedd o filwyr, a cheisio cipio'r castell yn ôl, gweithiodd amddiffyniadau cryf y castell yn eu herbyn, a bu'n rhaid iddo dderbyn ei fod wedi ei drechu. Arhosodd y Cymry yn y castell am dri mis, cyn ei ildio a'i drosglwyddo nôl i'r Saeson. Pris y Saeson am adael i'r Cymry adael y castell oedd bod naw o'r gwrthryfelwyr yn cael eu crogi. /p>

Dirywiodd cyflwr y castell am genedlaethau wedyn, ond fe'i atgyweiriwyd gan ddyn o Gonwy, John Williams, archesgob Caerefrog, er mwyn ei ddal yn erbyn y Seneddwyr yn ystod y Rhyfel Cartref. O'r diwedd syrthiodd y castell yn 1645 am na roesai'r brenin ddigon o gymorth iddo. Taflwyd nifer o garcharorion Gwyddelig i'r môr gan y buddugwyr.

Dyna ddiwedd hanes milwrol castell Conwy, ond bu'n ysbrydoliaeth i lawer o artistiaid, yn enwedig cyn creu'r pontydd dros yr afon sydd, er mor gwbl angenrheidiol, yn andwyo'r olygfa ramantus!

  • Taith y tu fewn i gastell Conwy, gyda'r ceidwad Roy Williams, ar wefan BBC Lleol

  • Llywio drwy’r BBC

    BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.