Castell Cas-gwent © www.castlewales.com

Castell Cas-gwent

16 Chwefror 2009

Saif castell mawreddog Cas-gwent yn uchel uwchben afon Gwy, yn gwarchod man croesi isaf yr afon cyn iddi gyrraedd aber Hafren. Dyma'r castell cyntaf i'w cychwyn yng Nghymru, wedi i William fitz Osbern, iarll Henffordd, croesi'r ffin yn 1067.

Roedd brenin newydd Lloegr, William, wedi gosod rhai o'i ddynion mwyaf pwerus ar ffiniau Cymru a gadael rhwydd hynt iddynt greu eu harglwyddiaethau eu hunain ar dir Cymreig. Amcan cyntaf pob castell newydd oedd rhoi lloches i'r mewn ddyfodiaid a man canolog i'w rheolaeth dros y brodorion Cymreig.

Roedd y cestyll cynnar yn waith pridd a choed, ond y dybiaeth draddodiadol oedd i fitz Osbern gychwyn yn syth gyda gwaith carreg. Erbyn hyn mae ysgolheigion yn amau hynny; roedd angen blynyddoedd i greu'r adeilad cyntaf sy'n goroesi, sef y cip-neuadd hirsgwar, ac yn y cyfamser byddai angen amddiffynfa a chartref.

Castell Cas-Gwent oedd yr un mwyaf deheuol mewn cyfres o gestyll a adeiladwyd yn y cyfnod yma ar hyd y gororau a'r ffîn rhwng Cymru a Lloegr. Mae'n gastell hynod o ddiddorol oherwydd, yn wahanol i gestyll mawr Edward I a Gilbert de Clare, tyfodd dros y canrifoedd o fod yn un neuadd gref i fod yn gadwyn o adeiladau ar hyd y drum uwchben yr afon.

Deallai'r Normaniaid o'r cychwyn nad digon oedd codi cestyll; roedd yn rhaid wrth ddau sefydliad arall - eglwys a thref. Gwaddolwyd briordy Cas-gwent ar gyfer mynachod y gyfundrefn Benedictaidd, ac erys eglwys hardd y priordy hyd heddiw yn eglwys y plwyf. Yn naturiol fe fyddai pobl yn tyrru i fyw o gwmpas yr eglwys, ac bu'n rhaid codi mur o gwmpas y dref newydd i'w hamddiffyn. Heblaw ei phwysigrwydd fel tref ar y ffin rhwng y Cymry a'r Saeson, datblygodd Cas-gwent i fod yn borthladd o bwys.

Erbyn diwedd y 12fed ganrif, roedd y castell wedi ei basio trwy briodas i William Marshall, Iarll 1af Penfro - gafodd ei ddisgrifio fel "y marchog gorau a fu fyw erioed" gan Stephen Langton, Archesgob Caergaint rhwng 1207-1228. Gyda phrofiad o bensaernïaeth filwrol yn Ffrainc, aeth Marshall ati i ddiweddaru a datblygu'r castell, ac yn dilyn ei farwolaeth yn 1219, bu ei feibion yn gwneud gwaith pellach arno, gan ddatblygu ei amddiffyniadau.

Etifeddwyd y castell gan Roger Bogod y 3ydd, 5ed Iarll Norfolk yn 1270, a bu iddo yntau hefyd wella a datblygu'r castell. . Yn 1284, ymwelodd Edward I â'r castell ar ddiwedd ei ymgyrch filwrol lwyddiannus yn erbyn y Cymry.

Un o nodweddion hanes y castell hwn yw na chafodd erioed ei warchae gan y Cymry, na chwaith yn ystod cwerylau rhwng arglwyddi'r Mers a'i gilydd, a rhyngddynt a'r Goron. Er i filwyr arfog a bwasawethwyr gael ei rhoi yno yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr yn 1403, roedd ei faint a'i leoliad daearyddol mwy na thebyg yn ddigon i atal Glyndŵr a'i ddynion rhag ymosod.

Bu gwarchae byr gan fyddin Seneddol yn 1648, ac un mwy difrifol yn ystod yr Ail Ryfel Cartref, 1648. Parhawyd i ddefnyddio rhai o'r adeiladau hyd 1690.


Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.